Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) yn cynnal ac yn trawsffurfio amrywiaeth eang o dreftadaeth drwy fuddsoddi'n arloesol mewn prosiectau sy'n cael effaith barhaus ar bobl a lleoedd. Fel prif ariannwr treftadaeth y DU, gydag oddeutu £375 miliwn y flwyddyn i'w fuddsoddi mewn prosiectau newydd a chorff sylweddol o wybodaeth, rydym hefyd yn eiriolwr arweiniol ar gyfer gwerth treftadaeth i fywyd modern. Rydym yn buddsoddi ym mhob rhan o'n treftadaeth amrywiol, o amgueddfeydd, parciau a llefydd hanesyddol i archeoleg, bywyd gwyllt a thraddodiadau diwylliannol. Ers 1994 mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cefnogi dros 35,000 o brosiectau gan glustnodi mwy na i £5.4biliwn ledled y DU. Yng Ngymru rydym wedi cefnogi dros 2,100 o brosiectau ac wedi dyfarnu grantiau gwerth dros £270miliwn.
Caiff Cronfa Dreftadaeth y Loteri ei weinyddu gan Gronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (CGDG), a rhoddwyd y cyfrifoldeb iddi ddosrannu cyfran o'r arian a godir drwy'r Loteri Genedlaethol ar gyfer Achosion Da, i dreftadaeth ledled y DU, yn 1994. Rydym yn gorff cyhoeddus anadrannol sy'n atebol i'r Senedd drwy'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. I gael manylion pellach am hyn, a dolen i'r gwaith ar wahân Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol, darllenwch rhagor am Ein Cefndir.