Sut i ymgeisio
Dwy ddynes ifanc yn edrych ar ffotograff fframiog yn ystod y prosiect Hanging Out. Llun Damian Walker

Cofrestru ac ymgeisio 

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn ymdrin ag ymholiadau, ceisiadau grant a monitro prosiectau llwyddiannus drwy system ar-lein. Pan fyddwch yn gwybod pa raglen y dymunwch wneud cais iddi, cofrestrwch gyda ni ar-lein. Unwaith y byddwch wedi cofrestru gyda ni, gallwch gael mynediad cyflym at ein system ar-lein drwy dudalen gartref y wefan.

Cyn i chi wneud cais

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am grant rhwng £3,000 a £10,000, gallwch gyflwyno ffurflen datganiad o ddiddordeb ar-lein i ddarganfod a yw eich prosiect yn addas ar gyfer y rhaglen. Yna gallwch benderfynu p'un ai i fynd ymlaen â'r cais. Nid yw hyn yn rhan o'r broses asesu - gallwch wneud cais ar unrhyw adeg heb gysylltu â ni yn gyntaf.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am grant o fwy na £10,000, rydym yn argymell eich bod yn cwblhau  ffurflen ymholi prosiect ar-lein. Mae hon yn ffordd dda o gael adborth gennym cyn i chi ddechrau gweithio ar gais llawn ond nid yw'n rhan o'r broses asesu.

Gwneud cais

Pan fyddwch yn barod i wneud cais, byddwch yn dod o hyd i'r ffurflen gais ar gyfer eich rhaglen ar ein system ar-lein. Bydd fersiynau PDF o'r ffurflenni cais ar gael i'w lawrlwytho a/neu argraffu pob tudalen rhaglen. Bydd y fersiynau PDF ar gyfer eich cyfeirnod yn unig.

Os nad ydych yn gallu cael mynediad i'r ffurflenni ar-lein neu yn cael problemau wrth ddefnyddio'r ffurflenni, anfonwch e-bost, gan roi manylion am eich ymholiad, i formsupport@hlf.org.uk. Dylech hefyd roi i ni eich manylion mewngofnodi (cyfeiriad e-bost a chyfrinair), a rhif cyfeirnod prosiect, os yw'n hysbys.

Awgrymiadau gorau

  • Cysylltwch â ni os nad ydych yn siwr am ba ddogfennau i'w danfon.
  • Sicrhewch eich wedi cwblhau pob adran y ffurflen gais.
  • Cadwch gopïau caled o unrhyw ddogfennau eich bod yn danfon atom rhag ofn i ni ofyn am gwestiynau.
  • Sicrhewch i gynnwys pob un o'r dogfennau a rhestir.