Sut i ymgeisio
Dwy ddynes ifanc yn edrych ar ffotograff fframiog yn ystod y prosiect Hanging Out. Llun Damian Walker

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml 

Dylech ddarllen y nodiadau canllaw hyn wrth gwblhau'r ffurflen gais.
Isod ceir rhai o'r ymholiadau mwyaf cyffredin sy'n ymwneid â'r broses ymgeisio electronig.
 
Os na allwch ddatrys eich ymholiad, anfonwch neges ebost atom, gan nodi manylion eich ymholiad, at formsupport@hlf.org.uk.  Nodwch eich cyfeiriad ebost a'r cyfrinair rydych yn eu defnyddio i fewngofnodi, a'ch rhif cyfeirnod ar gyfer y prosiect os yw'n hysbys.

1 Pam bod y ffurflen cyn ymgeisio yn ymddangos fel ffurflen darllen yn unig? Mae hefyd yn nodi bod ffurflen gais lawn ar y ffordd.
Mae'n debyg eich bod wedi agor ac arbed ffurflen gais lawn heb fwriadu gwneud hynny, tra'ch bod yn dal i weithio ar ffurflen cyn ymgeisio.
Er mwyn parhau gyda'r ffurflen cyn gwneud cais, bydd angen i chi ddileu'r ffurflen gais lawn. I wneud hyn, dewiswch 'View', yna 'Exit', a dewiswch 'Discard/Delete form'. Cliciwch ar 'Delete form' i gadarnhau.

2 Sut gallaf newid enw, cyfeiriad ebost a rhif ffôn y prif berson cyswllt?
Bydd angen i ni wneud hyn ar eich rhan. Anfonwch neges ebost at formsupport@hlf.org.uk gan nodi'r cyfeiriad a'r cyfrinair rydych yn eu defnyddio i fewngofnodi, a'ch rhif cyfeirnod ar gyfer y prosiect.

3 Sut gallaf ddiweddaru/newid enw neu gyfeiriad fy sefydliad?
Bydd angen i ni wneud hyn ar eich rhan.  Anfonwch neges ebost at formsupport@hlf.org.uk gan nodi'r cyfeiriad a'r cyfrinair rydych yn eu defnyddio i fewngofnodi, rhif cyfeirnod ar gyfer y prosiect, a manylion newydd y cyswllt.

4 Sut gall sawl aelod o'm sefydliad weithio ar yr un ffurflen gais?
Pan fydd y ffurflen wedi'i chreu, a bydd rhif cyfeirnod wedi'i glustnodi, dylai pob aelod o'ch tîm gofrestru eu cyfeiriad ebost, eu cyfrinair unigol, a dewis eu sefydliad. Yna dylech gael mynediad i'r ffurflen drwy ddefnyddio'r rhif cyfeirnod a roddwyd, sef y rhif y bydd angen i chi ei roi i'ch tîm.

5 Rwyf wedi cwblhau'r ffurflen ond ni allaf ei chyflwyno am ei bod yn dangos bod eitemau ar goll.
Fel arfer, bydd y system yn nodi'r adrannau ar y ffurflen lle mae gwybodaeth ar goll. Gwiriwch yr adrannau hyn yn ofalus.
Mae angen i chi barhau i gwblhau'r ffurflen drwy bwyso'r botwm 'Next' yn hytrach na defnyddio'r adrannau a rhifwyd i lawr yr ochr (mae'n bosibl mai dyma pam eich bod yn hepgor adrannau perthnasol y mae angen i chi eu cwblhau). Un gwall cyffredin yw nodi swm yr arian y gofynnir amdano (£) ond hepgor y canran (%) mae hyn yn ei gynrychioli o gyfanswm costau'r prosiect.

6 Rwyf wedi cael mynediad i'r ffurflen cais yn flaenorol, ond nawr nid yw fy nghyfeiriad ebost a/neu gyfrinair yn cael eu cydnabod.
Gwiriwch eto eich bod wedi nodi'r cyfeiriad ebost a'r cyfrinair cywir. Cliciwch ar 'Forgotten password' i ofyn am nodyn i'ch atgoffa o'ch cyfrinair. Os bydd y broblem yn parhau, cysylltwch â formsupport@hlf.org.uk

7 Mae'r ffurflen gais yn dangos gwall terfyn amser.
Mae'n bosibl bod hyn yn golygu bod mwy nag un person wedi mewngofnodi i'r un ffurflen neu'r un cyfrif ar yr un pryd. Os na, cysylltwch â formsupport@hlf.org.uk.  Bydd y ffurflen yn eich allgofnodi ar ôl cyfnod penodol o amser (yn enwedig ar gyswllt band eang), felly dylech arbed y wybodaeth rydych yn ei chofnodi yn rheolaidd.

8 Rwyf yn cael trafferth cyflwyno fy nghais o dan gynllun Grantiau Treftadaeth - mae'n gofyn am gostau ail rownd. Oes rhaid i mi gwblhau costau ail rownd er mwyn cyflwyno cais rownd gyntaf?
Oes. O dan Adran 6, pwyntiau c a d: gofynnir am amlinelliad o gostau ail rownd, hyd yn oed ar gyfer cais rownd gyntaf, er mwyn rhoi syniad i benderfynwyr Cronfa Dreftadaeth y Loteri o'r swm rydych yn bwriadu ei wario ar eich prosiect a faint y byddwch yn disgwyl i Gronfa Dreftadaeth y Loteri ei gyfrannu ar gyfer yr ail rownd.  Amcangyfrifon fydd y ffigurau hyn ond dylent adlewyrchu'r swm rydych yn rhagweld y bydd eich prosiect yn ei gostio.

9 Pam bod rhai cwestiynau yn cyfyngu ar nifer y geiriau y gallaf eu nodi, ond nad yw'n nodi cyfrif geiriau?
Fel arfer, bydd hyn oherwydd mai ateb un llinell sydd ei angen: er enghraifft, yn y cwestiwn: "Pwy yw'r prif grwpiau o bobl a fydd yn elwa ar eich prosiect?" Gallai eich ateb nodi: "pobl ifanc" neu "bobl ag anableddau".

10 Sut y gallaf ddileu fy ffurflen?
Pan fydd y ffurflen gais ar agor, dewiswch 'Exit', a dewiswch 'Discard/Delete form'. Gofynnir i chi gadarnhau hyn.

11 Nid yw fy ffurflen yn cydnabod y rhif cyfeirnod a roddwyd i mi adeg cofrestru
Byddwn yn anfon cyswllt actifadu at y cyfeiriad ebost y gwnaethoch ei nodi wrth gofrestru. Mae angen i chi wirio'r cyfrif hwnnw a chlicio ar y cyswllt o fewn y neges ebost. Pan fyddwch wedi'i actifadu, dylech fod yn gallu defnyddio eich rhif cyfeirnod. Fel arall, mae'n bosibl bod eich sefydliad wedi cysylltu sawl gwaith (gyda sawl rhif cyfeirnod), a'ch bod yn teipio rhif cyfeirnod anghywir.  Cliciwch ar 'Forgotten project reference' i ofyn am nodyn i'ch atgoffa o'r rhif cyfeirnod. Os bydd y broblem yn parhau, cysylltwch â formsupport@hlf.org.uk

12 Nid wyf wedi cael cyswllt actifadu.
Byddwn yn anfon cyswllt actifadu at y cyfeiriad ebost y gwnaethoch ei nodi wrth gofrestru.  Mae angen i chi wirio'r cyfrif hwnnw. Gwiriwch osodiadau diogelwch perthnasol ar gyfer eich meddalwedd, fel hidlwyr sbam a ffolderi ar gyfer negeseuon sothach. Mae'n bosibl bod y neges ebost wedi cael ei hailgyfeirio o'ch Mewnflwch. Os bydd y broblem yn parhau, cysylltwch â formsupport@hlf.org.uk

13 Mae gan fy sefydliad swyddfeydd rhanbarthol a gwladol. A ddylwn greu cofnod newydd ar gyfer fy swyddfa leol fy hun?
Na ddylech. Cofrestrwch gan ddefnyddio manylion eich prif swyddfa. Gallwch gynnwys cyfeiriad eich swyddfa leol a'r manylion cyswllt o dan y prif gyswllt.

14 Nid oes gan ein man addoli/adeilad hanesyddol / prosiect bywyd gwyllt ei god post ei hun.
Nodwch god post yr adeilad agosaf. Yna newidiwch y meysydd cyfeiriad i nodi enw eich man addoli neu eich adeilad.