2010 oedd Blwyddyn Rhyngwladol Bioamrywiaeth, a chafodd pobl ledled y byd eu hannog i ddiogelu ein treftadaeth naturiol fyd-eang a lleihau'r raddfa o golli bioamrywiaeth.
Cefnogodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri y fenter yn 2010, ac rydym yn annog mwy o bobl i wneud ceisiadau am arian gennym i gynnal prosiectau sy'n cadw treftadaeth naturiol werthfawr y DU o hyd.
P'un a ydych am gadw rhywogaethau neu gynefinoedd o flaenoriaeth, hyfforddi gwirfoddolwyr i ddysgu technegau i adnabod amrywiaethau biolegol, neu helpu ystod ehangach o bobl i ddeall y byd naturiol, hoffem glywed gennych. Rydym newydd gyhoeddi ein canllaw Meddwl am Fioamrywiaeth, sy'n nodi'r hyn y gallwn ei ariannu ac sy'n rhestru ffynonellau gwybodaeth i roi syniadau i chi a'ch helpu i gynllunio eich prosiect.
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi buddsoddi mwy na £860 miliwn mewn prosiectau sy'n diogelu cefn gwlad, bywyd gwyllt a pharciau gwerthfawr y DU, gan helpu i amddiffyn cyfran o'n bywyd gwyllt sy'n wynebu'r perygl mwyaf.
Rydym eisoes yn ariannu amrywiaeth eang o brosiectau: o arbed y morgrugyn blewog coch rhag ddiflannu oddi ar dir y DU am byth, hyd at adfer cynefin ffendiroedd a gollwyd yn Swydd Gaergrawnt. Ond mae llawer i'w wneud o hyd. Darllenwch astudiaethau achos (yn Saesneg) o rai o brosiectau rydym wedi cefnogi.