Sut i ymgeisio
Dwy ddynes ifanc yn edrych ar ffotograff fframiog yn ystod y prosiect Hanging Out. Llun Damian Walker

Beth fyddwn ni'n ei ariannu 

Rydym yn ariannu prosiectau sy'n canolbwyntio ar dreftadaeth. Mae treftadaeth yn cynnwys nifer o bethau gwahanol o'r gorffennol sy'n bwysig i ni a phethau rydym am eu trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol, er enghraifft

Rydym yn disgwyl i'n arian wneud gwahaniaeth parhaus ar gyfer treftadaeth, pobl a chymunedau ac yn disgrifio syt y byddwn yn gwneud hyn drwy gyfres o ganlyniadau. Mae ein holl gynlluniau ariannu yn disgwyl prosiectau i gyflawni un neu fwy o ganlyniadau.

Pwy ydym yn ei ariannu?

Rydym yn ariannu ceisiadau gan sefydliadau di-elw a phartneriaethau wedi eu harwain gan sefydliadau di-elw. O dan y rhaglen Ein Treftadaeth, rydym hefyd yn ariannu ceisiadau  gan berchnogion preifat o dreftadaeth.

Os bydd perchnogion preifat yn cymryd rhan, rydym yn disgwyl i'r buddion cyhoeddus fod yn fwy na'r buddion preifat.

Gair o gyngor

  • Rhaid i'ch prosiect gael ei gynnal yn y Deyrnas Unedig.
  • Rydym yn rhoi blaenoriaeth i sefydliadau di-elw.
  • Rhaid i'ch prosiect ganolbwyntio ar dreftadaeth.