Sut i ymgeisio
Dwy ddynes ifanc yn edrych ar ffotograff fframiog yn ystod y prosiect Hanging Out. Llun Damian Walker

Hanes diwydiannol, y môr a thrafnidiaeth 

Gweisg argraffu, peiriannau pwmpio, melinau gwynt, llongau hanesyddol, tirweddau cyfan wedi’u trawsffurfio gan ddiwydiant... Mae’r rhain i gyd a mwy yn rhan o dreftadaeth ddiwydiannol falch y DU. Rydym ni yn CDL eisiau helpu mwy o grwpiau a sefydliadau i’w warchod, helpu pobl i ddysgu amdano, a rhoi’r sgiliau arbenigol sydd eu hangen i edrych ar ei ôl i genedlaethau iau.

Mae grantïon CDL wedi cofnodi atgofion pobl o’n gorffennol diwydiannol, wedi rhoi bywyd newydd i orsafoedd rheilffordd nas defnyddir, wedi gwarchod adeiladau a cherbydau pwysig, ac wedi dathlu technoleg a’u creodd. Mae pobl ledled y DU wedi hyfforddi i edrych ar ôl treftadaeth ddiwydiannol, archwilio camlesi, a dysgu am y diwydiannau tecstilau a mwyngloddio. 

Rydym yn awyddus i glywed beth rydych chi’n ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.
  • Yn dilyn cau maes glo Caint ym 1989, dechreuodd diwydiant a ffordd o fyw y cymunedau cloddio ddiflannu’n gyflym. Mae’r prosiect wedi darparu mewnwelediad gwych i’r maes glo ac wedi rhoi balchder i ni yn ein treftadaeth."
    Mark Frost,
    Prosiect Maes Glo Caint