Mae iaith yn ein clymu ni i le. Mae’n ein cysylltu ni â phobl a gyda ffordd o fyw sy’n gysylltiedig â’r lle hwnnw. Trwy’r cysylltiadau hyn, mae’n ein helpu ni i ddeall ein gorffennol.
O archwilio defnydd, ystyr a chyd-destun hanesyddol iaith, trwy ddathlu’r ieithoedd niferus sydd wedi cael eu defnyddio ac sy’n parhau i gael eu defnyddio yn y DU, i ddod â thafodieithoedd ac amrywiadau rhanbarthol i’r golwg, gallwn ariannu amrywiaeth eang o brosiectau iaith-treftadaeth.
P’un ai eich bod chi eisiau canolbwyntio ar hanes enwau teuluoedd ac enwau lleoedd, tarddiad diarhebion a dywediadau, neu’r ffordd y mae iaith neu dafodiaith wedi newid dros amser, rydym eisiau clywed gennych.