Sut i ymgeisio
Dwy ddynes ifanc yn edrych ar ffotograff fframiog yn ystod y prosiect Hanging Out. Llun Damian Walker

Atgofion a phrofiadau pobl  

Mae prosiectau hanes llafar yn ffordd wych o roi llais i bobl arferol a dod â’r gorffennol yn fyw. O gofnodi adroddiadau ynglŷn â dulliau ffermio traddodiadol i ddatgelu hanes gofalu am bobl ag anableddau dysgu, rydym yn cynorthwyo prosiectau sy’n dogfennu hanes pawb.

Mae’r prosiectau rydym ni eisoes wedi’u hariannu wedi cofnodi cannoedd o straeon personol, ac wedi helpu pobl o gymunedau amrywiol ledled y DU i ddysgu am eu treftadaeth eu hunain a threftadaeth pobl eraill. Os oes gennych syniad ar gyfer prosiect, rydym eisiau clywed gennych.

  • Mae hwn wedi bod yn brosiect gwych i fod yn rhan ohono, a chyfle i ddatblygu sgiliau a chasglu straeon a lluniau. Mae wedi rhoi diddordeb newydd yn eu treftadaeth i’r bobl a wnaeth gymryd rhan a dilysrwydd i’w profiadau.”
    Malcolm Mason,
    Prosiect gwaith maes