Mae’r arweiniad yma yn berthnasol i benderfyniadau a prosiectau a ddyfarnwyd cyn Ebrill 2013.
Mae cynnwys hyfforddiant treftadaeth yn eich prosiect yn un ffordd y gallwch fodloni prif nod Cronfa Dreftadaeth y Loteri i ‘helpu pobl i ddysgu am eu treftadaeth eu hunain a threftadaeth pobl eraill’. Bydd mynd i'r afael â phrinder a bylchau sgiliau heddiw yn helpu i gynnal treftadaeth ar gyfer y dyfodol. Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut y gallwch ddefnyddio ein harian i hyfforddi staff prosiect hen a newydd a gwirfoddolwyr a/neu gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd am sgiliau treftadaeth.
Yn ddefnyddiol ar gyfer…
Unrhyw un sydd am ddarparu hyfforddiant achrededig neu gyfleoedd hyfforddi anffurfiol fel rhan o brosiect, yn cynnwys ymgeiswyr sy'n chwilio am £1 miliwn neu fwy mewn prosiect Grant Treftadaeth lle mae elfen hyfforddiant yn orfodol.
Cynnwys
1. Cyflwyniad
2. Ein nodau
3. Beth a olygwn wrth hyfforddi?
4. 4 Pwyntiau pwysig ynghylch ein cymorth ariannol
5. Cyflwyno hyfforddiant
6. Darparu hyfforddiant achrededig
7. Hyfforddi isgontractwyr mewn prosiectau cyfalaf
8. Mathau o weithgareddau hyfforddi y talwn amdanynt
9. Cynllunio eich prosiect
10. Ffynonellau gwybodaeth a chyngor
Atodiad
Ein rhaglenni grant