Sut i ymgeisio
Dwy ddynes ifanc yn edrych ar ffotograff fframiog yn ystod y prosiect Hanging Out. Llun Damian Walker

Grantiau Treftadaeth 

Grantiau Treftadaeth yw'n rhaglen agored ar gyfer unrhyw fath o brosiect sy'n ymwneud â threftadaeth leol, ranbarthol a chenedlaethol y DU. Gallwch wneud cais am grant dros £100,000.

Gallwch ddarllen mwy am Grantiau Treftadaeth yn yr arweiniad cais. Bydd gan eich cais well siawns o lwyddiant os byddwch yn darllen hwn yn drylwyr cyn gwneud cais.


Y broses ymgeisio 

Mae ceisiadau Grantiau Treftadaeth yn mynd drwy broses dwy rownd. Y rheswm dros hyn yw er mwyn i chi wneud cais yn ystod y cyfnod cynnar o gynllunio'ch prosiect a chael syniad o p'un a oes gobaith i chi gael grant cyn i chi anfon eich cynigion manwl atom.

  • Yn ystod y rownd gyntaf a'r ail rownd, byddwn yn asesu'ch cais o fewn tri mis, ac yna bydd yn mynd i'r cyfarfod penderfynu nesaf.
  • Gallai'ch cam datblygu gymryd hyd at 24 mis, yn dibynnu ar gymhlethdod eich prosiect.

Rydym yn argymell eich bod yn anfon ffurflen ymholi prosiect cyn i chi wneud cais. I wneud hyn, cofrestrwch yma.


Cyfarfodydd penderfyniadau 

Mae eich cais am grant yn penderfynu pa gyfarfod penderfyniadau y bydd yn mynd ato. Dyma gyfanswm eich grant datblygu (os yn berthnasol) a'r grant cyflawni wedi eu cyfuno.  

Grantiau dros £100,000 ac o dan £2 filiwn

Gwneir y penderfyniadau gan ein Pwyllgorau yng Nghymru, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr, ac maent yn cyfarfod bob tri mis. Cysylltwch â'ch swyddfa CDL leol i gael mwy o wybodaeth am ddyddiadau cau a dyddiadau cyfarfodydd o Ebrill 2013 ymlaen.

Grantiau dros £2 filiwn ac o dan £5 miliwn

Gwneir penderfyniadau bob dau fis gan y Bwrdd Ymddiriedolwyr. Bydd angen i'r ffurflenni cais a'r holl dogfennau ategol gyrraedd CDL erbyn y dyddiadau canlynol:

  • 8 Chwefror ar gyfer y Cyfarfod Bwrdd ar 21 Mai 2013
  • 12 Ebrill ar gyfer y Cyfarfod Bwrdd ar 23 Gorffennaf 2013
  • 13 Mehefin ar gyfer y Cyfarfod Bwrdd ar 24 Medi 2013
  • 8 Awst ar gyfer y Cyfarfod Bwrdd ar 19 Tachwedd 2013
  • 17 Hydref ar gyfer y Cyfarfod Bwrdd ar 28 Ionawr 2014
  • 13 Rhagfyr ar gyfer y Cyfarfod Bwrdd ar 25 Mawrth 2014

Grantiau o £5 miliwn neu fwy

Gwneir y penderfyniadau ar gyfer ceisiadau rownd gyntaf unwaith y flwyddyn, ym mis Ebrill, gan ein Bwrdd Ymddiriedolwyr. Bydd angen i'r ffurflenni cais a'r holl ddeunydd ategol gyrraedd CDL erbyn 30 Tachwedd fan bellaf.

Os byddwch yn llwyddiannus yn y rownd gyntaf, gallwch gyflwyno'ch cais ail rownd unrhyw bryd o fewn dwy flynedd i'r penderfyniad gwreiddiol a bydd yn cael ei ystyried gan y Bwrdd yn y cyfarfod nesaf.


 


 


 


De La Warr Pavilion, Bexhill 

Grantiau Treftadaeth 

Deunyddiau ymgeisio

Darllen hanfodol

Arweiniad ar arferion da

Rydym yn darparu ystod o arweiniad arfer da i’ch helpu i gyflawni eich prosiect treftadaeth.

Canfyddwch mwy o brosiectau

Darganfyddwch mwy am brosiectau a gafodd eu hariannu drwy’r rhaglen yma.