Cyllideb grant ar gyfer dyfarniadau newydd 2012-2013
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri newydd gytuno ar gyllideb cynyddol ar gyfer dyfarniadau newydd yn 2012-13 o £375m. Mae'r gyllideb hon yn cynrychioli cynnydd o £120m dros ein cyllideb 2011-2012 ac yn cael ei wneud yn bosibl gan y cynnydd yn y cyfran treftadaeth o incwm achos da i 20% ym mis Ebrill 2012, a parhad o werthiant da tocynnau.
Bydd nifer o newidiadau eraill hefyd yn cael eu cyflwyno, a oedd yn ymateb i'n ymgynghoriad diweddar ac yn paratoi'r ffordd tuag at ein cynllun strategol ar gyfer 2013-19, a fydd yn cael ei lansio fis Mai nesaf.
Bydd mwy o fanylion a chyllidebau terfynol ar gyfer 2012-2013 yn cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn. Yn gyfredol, rydym yn disgwyl i’r gyllideb cynyddol gael ei ddyrannu fel a ganlyn ar draws rhaglenni CDL:
- Bydd gan Grantiau Treftadaeth (dyfarniadau dros £50,000) gyfanswm cyllideb o £255m, gan gynnwys o leiaf £50m ar gyfer prosiectau Swp Mawr (grantiau dros £5 miliwn).
- Bydd cyllideb Parciau i Bobl yn £24 miliwn ar draws y DU, ynghyd â buddsoddiad ychwanegol o £5miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr ar gyfer parciau yn Lloegr.
- Bydd cyllideb Partneriaethau Tirwedd yn £22m.
- Bydd cyllideb Menter Treftadaeth Treflun yn £14m, gyda rownd cais ychwanegol yn 2012 ar gyfer penderfyniad yn Mawrth 2013.
- Bydd cyllideb Grantiau Atgyweirio ar gyfer Mannau Addoli yn £30 miliwn ar draws y DU.
- Bydd cyllideb Eich Treftadaeth yn £26m. Noder y bydd grantiau ar gael hyd at £100,000 o fis Ebrill, gweler isod.
- Bydd cyllideb Gwreiddiau Ifanc (ar gyfer prosiectau treftadaeth a arweinir gan bobl ifanc) yn £4m. Noder y bydd grantiau ar gael hyd at £50,000 o fis Ebrill, gweler isod.
- Byddwn yn cyhoeddi buddsoddiad strategol pellach mewn sgiliau yn 2012-2013 - manylion i'w cadarnhau.
Newidiadau eraill
Bydd manylion pellach am ein cynllun strategol newydd o 2013 ymlaen yn cael eu cyhoeddi ym Mai 2012. Fodd bynnag, bydd CDL yn cyflwyno nifer o newidiadau i raglenni sy'n ymateb i adborth gan gwsmeriaid ac yn helpu i reoli ein busnes hyd yn oed yn fwy effeithiol, o fis Ebrill 2012:
- Bydd Pwyllgorau yn gwneud penderfyniadau lleol ar fwy o geisiadau Grantiau Treftadaeth - hyd at werth o £2m (£1m ar hyn o bryd).
- Bydd y terfyn uchaf ar gyfer grantiau Eich Treftadaeth yn cael ei gynyddu i £100,000 (o £50,000).
- Bydd y terfyn uchaf ar gyfer grantiau Gwreiddiau Ifanc yn cael ei gynyddu i £50,000 (o £25,000). Bydd hefyd yn cefnogi prosiectau sydd yn ymgysylltu ag ystod oedran ehangach o bobl ifanc (o 11 - 25 oed) a bydd uchafswm hyd y prosiect yn cael ei gynyddu i ddwy flynedd.
- Byddwn yn cyflwyno ceisiadau un rownd Grantiau Treftadaeth drwy eithriad pan fo dyddiad cau allanol ar frys, er enghraifft ar gyllid partneriaeth.