Sut i ymgeisio
Dwy ddynes ifanc yn edrych ar ffotograff fframiog yn ystod y prosiect Hanging Out. Llun Damian Walker

Sgiliau ar gyfer y Dyfodol 

Mae Sgiliau ar gyfer y Dyfodol yn ariannu hyfforddiant seiliedig ar waith mewn ystod eang o sgiliau sydd eu hangen i ofalu am adeiladau, tirweddau, cynefinoedd, rhywogaethau a chasgliadau mewn amgueddfeydd ac archifau, yn ogystal ag arfogi pobl i arwain rhaglenni addysg ac allgymorth, rheoli gwirfoddolwyr a defnyddio technoleg newydd. Rydym yn rhoi grantiau i sefydliadau sy’n gallu dangos tystiolaeth o brinder sgiliau ac sy'n gallu cynllunio a datblygu rhaglen hyfforddi newydd a recriwtio, hyfforddi a thalu recriwtiaid sy’n newydd i’r sector. Gallwch wneud cais am grant rhwng £100,000 a £1miliwn.

Bwriad y fenter £15miliwn yma yw i:

  • gynyddu ystod ac ansawdd yr hyfforddiant seiliedig ar waith er mwyn datblygu sgiliau yn y sector treftadaeth;
  • diwallu prinder sgiliau a nodwyd yn y sector treftadaeth;
  • gwella gallu’r sector treftadaeth i ddarparu hyfforddiant a rhannu arfer da; a
  • cynyddu amrywiaeth y gweithlu treftadaeth.

Y gwahaniaeth rydym eisiau ei wneud 

Bydd y fenter Sgiliau ar gyfer y Dyfodol yn cyflawni canlyniadau ar gyfer treftadaeth, pobl a chymunedau. Mae prosiectau unigol angen cyfrannu tuag at y tri canlyniad a restrir isod.

Canlyniadau ar gyfer pobl:


Gyda’n buddsoddiad, bydd pobl wedi:
  • datblygu sgiliau
  • dysgu am dreftadaeth

Canlyniadau ar gyfer cymunedau:

Gyda’n buddsoddiad

  • bydd mwy o bobl ac ystod ehangach o bobl wedi ymgysylltu â threftadaeth

Gweithdai ymholiad prosiect 

Os hoffech gofrestru diddordeb yn ein gweithdai ymholiad prosiect, cysylltwch â skills@hlf.org.uk gyda dyddiad a lleoliad y sesiwn yr hoffech ei fynychu.

Cofiwch gynnwys eich teitl swydd a'r sefydliad y byddwch chi'n cynrychioli. Mae lleoedd yn gyfyngedig a chânt eu dyrannu ar sail cyntaf i'r felin. Os gallwch wneud mwy nag un dyddiad rhowch wybod i ni rhag ofn bod eich dewis cyntaf ddim ar gael.

  • Llundain 5 Tachwedd
  • Caeredin 9 Tachwedd
  • Ballymena 19 Tachwedd
  • Birmingham 23 Tachwedd
  • Caerdydd 28 Tachwedd
  • Wrecsam 29 Tachwedd
  • Manceinion 30 Tachwedd
  • Taunton 5 Rhagfyr
  • Llundain 7 Rhagfyr
  • Peterborough 13 Rhagfyr

Y broses ymgeisio 

Mae ceisiadau Sgiliau ar gyfer y dyfodol yn mynd drwy broses ddwy-rownd. Mae hyn er mwyn i chi allu gwneud cais yn gynnar wrth gynllunio eich prosiect a chael syniad a oes gennych siawns dda o gael grant cyn i chi anfon eich cynigion atom yn fwy manwl.

Mae'n rhaid i chi gyflwyno eich cais rownd gyntaf erbyn 12 canol dydd 31 Ionawr 2013. Byddwn yn asesu eich cais a bydd wedyn yn mynd i'n Bwrdd Ymddiriedolwyr am benderfyniad yn Mai 2013.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, yna bydd angen i chi gyflwyno cynllun hyfforddiant manwl. Rhaid i ni ei dderbyn erbyn 31 Rhagfyr 2013. Byddwn yn asesu hyn mewn wyth wythnos ac yna bydd yn mynd i'r cyfarfod penderfynu nesaf sydd ar gael.


Prosiectau cyfredol Sgiliau ar gyfer y dyfodol  

Ym mis Mai 2010 fe wnaethom ddyfarnu £17miliwn i 54 o brosiectau a fydd yn creu 800 o gyfleoedd hyfforddi newydd mewn lleoliadau treftadaeth ledled y DU.

Dros haf a hydref 2010, fe gynhyrchodd ein grantïon gynlluniau hyfforddiant manwl er mwyn gallu cyflawni eu prosiectau. Ym mis Rhagfyr 2011 fe benderfynodd ein Bwrdd Ymddiriedolwyr i wahodd grantïon Sgiliau ar gyfer y dyfodol a 10 o grantïon Bwrsari Hyfforddiant pellach i wneud cais am gynnydd grant i ddarparu lleoedd hyfforddi ychwanegol yn gyflym. Mae llawer yn dal i hysbysebu swyddi dan hyfforddiant newydd cyffrous sy'n cynnig sgiliau mewn adeiladu llongau, rheoli gwirfoddoli, garddwriaeth ac amrywiaeth enfawr o sgiliau eraill.

Gallwch gael gafael ar restr lawn o brosiectau Sgiliau ar gyfer y dyfodol a chael gwybod am y cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael.

Canfyddwch fwy am raglen Bwrsariaethau Hyfforddiant CDL.


 


Trainee stonemason at Gloucester Cathedral 

Sgiliau ar gyfer y Dyfodol 

Deunyddiau ymgeisio

Darllen hanfodol

    Arweiniad ar arferion da

    Rydym yn darparu ystod o arweiniad arfer da i’ch helpu i gyflawni eich prosiect treftadaeth.

    Canfyddwch mwy o brosiectau

    Darganfyddwch mwy am brosiectau a gafodd eu hariannu drwy’r rhaglen yma.