Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn cynnal a thrawsnewid ein treftadaeth trwy ddefnyddio arian a godir drwy'r Loteri Genedlaethol. Rydym yn buddsoddi ym mhob rhan o'n treftadaeth amrywiol, o amgueddfeydd, parciau a llefydd hanesyddol i archeoleg, bywyd gwyllt a thraddodiadau diwylliannol.
Rydym am ddiogelu a throsglwyddo'r hyn mae pobl yn rhoi'r gwerth fwyaf arno, agor ein treftadaeth i bawb ei fwynhau, ac adfywio a chyfoethogi ein dinasoedd, trefi a chefn gwlad hanesyddol.
Credwn y dylai pawb gael y cyfle i adnabod, mwynhau a gofalu am dreftadaeth, ac rydym am helpu pobl a grwpiau newydd i gymryd rhan weithredol. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi, adnabod, a rhoi gwerth ar gyfraniad gwirfoddolwyr.
Mae rhoi cyfleoedd i ddysgu am dreftadaeth, a helpu pobl i ddatblygu sgiliau i ofalu am ddiwylliant, lleoedd a gwybodaeth rydym wedi'u hetifeddu, wrth wraidd yr hyn a wnawn.