Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn ymroi i ddarparu gwefan sy'n hygyrch i'r gynulleidfa ehangaf posibl. Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i sicrhau bod y we yn haws i'w defnyddio. Gallai hyn gynnwys newid gosodiadau eich porwr, cyfrifiadur, bysellfwrdd neu lygoden.
Nodweddion Hygyrchedd y Porwr
Mae gan y rhan fwyaf o borwyr nodweddion hygyrchedd fel y gallu i gynyddu maint y ffont, newid lliw'r testun. Yn hytrach na rhestri'r holl nodweddion yma, rydym yn argymell eich bod yn bwrw golwg ar adrannau hygyrchedd gwefan hygyrchedd y BBC. Mae'r safle hon yn rhoi cyngor a chymorth ar weld, clywed a darllen gwefannau a ffyrdd eraill o amlgyfrwng yn ogystal â sut i ddefnyddio bysellfwrdd a llygoden yn effeithiol.
Gwrandewch ar y wefan hon
(Saesneg yn unig ar hyn o bryd)

Gallwch wrando ar y wefan hon gyda BrowseAloud, sydd am ddim i'w lwytho i lawr o wefan BrowseAloud. Mae BrowseAloud yn gwneud gwefannau'n hygyrch i bobl sydd angen cymorth i ddarllen ar-lein. Gallai BrowseAloud eich helpu yn y ffyrdd canlynol:
- Mae'n darllen tudalennau gwe yn uchel (mae'n cynnwys testun amgen ar gyfer Flash a delweddau)
- Amlygu pob gair wrth iddo gael ei ddarllen yn uchel er mwyn i chi weld lle rydych ar y dudalen
- Gwneud y testun yn fwy yn eich dewis ffont a maint
- Chwilio am ddiffiniadau o eiriau mewn geiriadur
- Trosi testun i ffeil sain MP3
- Cuddio gwybodaeth ar y sgrin er mwyn eich helpu i ganolbwyntio ar ddarn penodol
Llwythwch feddalwedd BrowseAloud i lawr
Cymorth Adobe Acrobat

Gwnaed addasiadau rhesymol i sicrhau bod cyhoeddiadau digidol sydd ar gael ar ein gwefan yn hygyrch. Gwnaed hyn drwy greu ffeiliau PDF wedi'u tagio, ac rydym wedi profi'r trefn darllen. Dylai fod gan yr holl ddelweddau bennawd neu destun Alt. Fodd bynnag, mae'n bosibl y byddwch yn dod ar draws fersiynau cynharach o'r ffeiliau PDF ar ein gwefan nad ydynt mor hygyrch. Os bydd angen dogfen arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â'n tîm gwybodaeth.
Ffôn: 020 7591 6000
Ffacs: 020 7591 6001
E-bost: enquire@hlf.org.uk
Mae'r fersiwn diweddaraf o Adobe Acrobat Reader wedi ymgorffori nodweddion hygyrchedd. Er enghraifft, gallwch wrando ar ddogfen PDF yn cael ei darllen yn uchel neu sgrolio drwy ddogfen PDF yn awtomatig. Gallwch weld y nodweddion hyn yn y ddewislen 'Edit Preferences'.
Mae Adobe yn darparu offeryn trosi ar-lein am ddim sy'n trosi cynnwys ffeiliau PDF i HTML neu destun y gall y rhan fwyaf o gymwysiadau darllen sgrin eu deall.
Cysylltiadau defnyddiol
Mae gwefan y BBC, o'r enw My Web, My Way, yn cynnwys cyngor a chymorth os bydd angen i chi wneud newidiadau i'ch porwr, system gweithredu neu gyfrifiadur er mwyn gweld y we mewn ffordd fwy hygyrch:
www.bbc.co.uk/accessibility/
www.abilitynet.org.uk
www.apple.com/disability/
www.rnib.org.uk
www.microsoft.com/enable/
Canllawiau ar Hygyrchedd Cynnwys y We
Consortiwm y We Fyd Eang (W3C) yw'r prif sefydliad safonau rhyngwladol ar gyfer gwefannau. Mae Menter Hygyrchedd y We (WAI) gan W3C yn ceisio gwella hygyrchedd er mwyn i bobl ag anableddau ganfod, deall, llywio a rhyngweithio â gwefan.
Fel rhan o'r gwaith hwn, lluniodd WAI ganllawiau rhyngwladol i'w defnyddio ar gyfer adeiladu gwefannau hygyrch. Cyhoeddwyd y canllaw diweddaraf am hygyrchedd cynnwys y we ym mis Rhagfyr 2008 (WCAG 2.0). Mae WCAG 2.0 yn cyfeirio at yr holl gynnwys a gyflwynir i ddefnyddwyr drwy gyfeiriad HTTP. Er mwyn sicrhau bod y wefan hon yn hygyrch i gynulleidfa eang, rydym wedi gweithio'n agos gyda'n datblygwyr i gyrraedd lefel blaenoriaeth 2 WCAG 2.0 (AA - A ddwbl)
Rydym yn croesawu adborth ynghylch hygyrchedd y safle hwn. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau, cysylltwch â'r gwefeistr drwy ysgrifennu neges ebost at webhelp@hlf.org.uk