Amdanom ni
Plant yn mwynhau sioe pypedau Punch a Judy ym Amgueddfa Hastings. Llun Kois Miah

Ein cefndir 

Sefydlwyd Cronfa Dreftadaeth y Loteri gan y Senedd yn 1994 i roi grantiau i ystod eang o brosiectau a oedd yn cynnwys treftadaeth leol, ranbarthol a chenedlaethol y Deyrnas Unedig.  Rydym yn dosbarthu cyfran o’r arian a godir gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer Achosion Da.

Yn swyddogol cawn ein hadnabod fel ‘corff cyhoeddus anadrannol’.  Er nad ydym yn adran o’r llywodraeth, golyga hyn fod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn rhoi cyfarwyddiadau ariannol a pholisi i ni, ac rydym yn adrodd i’r Senedd drwy’r adran.  Mae ein penderfyniadau ynglŷn â cheisiadau a pholisïau unigol yn gwbl annibynnol o'r Llywodraeth.

Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol
Caiff Cronfa Dreftadaeth y Loteri ei weinyddu gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol, sy’n ymddwyn fel cronfa ‘yn niffyg dim arall’ mewn perthynas â threftadaeth yn y DU. Mae Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol yn dyrannu tua £5 miliwn o arian cymorth grant y llywodraeth bob blwyddyn i'n treftadaeth genedlaethol.

O ble y daw ein harian?
Am bob punt sy’n cael ei gwario ar docynnau’r Loteri Genedlaethol, bydd 28c yn mynd yn syth i'r achosion da canlynol ac yn rhoi budd i gymunedau ledled y DU. Caiff yr arian ei ddyrannu i achosion da yn y ffordd ganlynol:

elusennau, iechyd, addysg a'r amgylchedd: 40%;
chwaraeon: 20%;
celfyddydau: 20%;
treftadaeth 20%;

Ar hyn o bryd ceir 13 o arianwyr y Loteri sy'n penderfynu'n annibynnol pa brosiectau sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth wneud cais am grant. Mae pob un yn annibynnol o'r Llywodraeth ond rhaid iddynt ddilyn canllawiau wrth benderfynu pwy ddylai dderbyn arian y Loteri Genedlaethol.