Hawlfraint a’r defnydd a ganiateir
Cronfa Dreftadaeth y Loteri neu bartïon eraill sy’n berchen ar bob hawlfraint, hawl cronfa ddata a hawliau eraill sy’n bodoli yn yr hafan ac ar dudalennau is-barth y wefan hon.
Yn amodol ar yr hyn a ddywedir isod, gellir lawrlwytho deunydd o’r wefan, edrych arno, ei argraffu, ei gopïo ar ddisg caled eich cyfrifiadur (ond nid ei lungopïo) i wneud cais am grant neu fel arall er eich defnydd personol neu ddibenion mewnol â gonestrwydd. Ac eithrio yr hynny sy’n cael ei ganiatáu’n benodol gan y gyfraith, mae angen ein caniatâd ysgrifenedig cyn gwneud unrhyw ddefnydd gwahanol o’r wefan.
Nid yw’r caniatâd i atgynhyrchu deunydd hawlfraint o’r wefan yn ymestyn i unrhyw ddeunydd ar y wefan a nodir fel hawlfraint trydydd parti. Rhaid cael awdurdod deiliaid yr hawlfreintiau perthnasol i atgynhyrchu’r fath ddeunydd.
Rydych yn cytuno i beidio â chreu cronfa ddata (electronig neu fel arall) sy’n cynnwys deunydd wedi’i lawrlwytho, neu a gafwyd fel arall, o’n gwefan, nac i drosglwyddo neu ailddosbarthu unrhyw ddeunydd a gafwyd o’n gwefan i unrhyw drydydd parti, neu i symud y rhybudd(ion) hawlfraint neu nod masnach o unrhyw gopïau o unrhyw ddeunydd a wnaed yn unol â’r telerau hyn.
Cynnwys
Darperir y wybodaeth ar y wefan hon er cyfleustra, fel rhan o’r gwasanaeth yr ydym yn ei gynnig. Fodd bynnag, lle mae gwybodaeth yn deillio o’r tu allan i Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am ei chywirdeb na’i chynnwys. Mae ymwelwyr sy’n dibynnu ar y wybodaeth hon yn gwneud hynny ar eu menter eu hunain.
Nid yw Cronfa Dreftadaeth y Loteri’n gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig â’n gwefan ni, ac nid yw o reidrwydd yn cefnogi’r farn a fynegir ynddynt. Ni chymerir rhestru fel cefnogaeth o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio drwy’r amser, ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiedig.
Ni all Cronfa Dreftadaeth y Loteri warantu y bydd eich defnydd o’r wefan yn rhydd o wallau ac/neu yn ddi-dor.
Er y gwnaed pob ymdrech rhesymol i sicrhau bod tudalennau’r wefan a’r deunydd y gellir ei lawrlwytho ohoni yn rhydd o firysau, nid yw Cronfa Dreftadaeth y Loteri’n gwarantu eu bod yn rhydd o firysau, ac mae defnyddwyr yn gyfrifol am sicrhau eu bod wedi gosod meddalwedd gwirio firysau digonol.
Dadansoddiadau Google
Mae'r wefan hon yn defnyddio dadansoddiadau Google, sef gwasanaeth dadansoddi'r we a ddarperir gan Google, Inc. (“Google”). Mae dadansoddiadau Google yn defnyddio 'cwcis', sef ffeiliau testun a roddir ar eich cyfrifiadur, i helpu'r wefan i ddadansoddi sut mae defnyddwyr yn defnyddio'r safle. Mae'r wybodaeth a grëir gan y cwci am y ffordd rydych yn defnyddio'r wefan (yn cynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael throsglwyddo i Google a'i chadw ar y gweinyddwyr yn yr Unol Daleithiau. Bydd Google yn defnyddio'r wybodaeth hon at ddibenion gwerthuso eich defnydd o'r wefan, llunio adroddiadau ar weithgaredd ar y we i weithredwyr y we a darparu gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gweithgarwch ar y we a defnyddio'r rhyngrwyd. Gall Google drosglwyddo'r wybodaeth hon i drydydd partïon lle y gofynnir iddo wneud hynny yn ôl y gyfraith, neu pan fydd trydydd partïon o'r fath yn prosesu'r wybodaeth ar ran Google. Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP gydag unrhyw ddata arall a ddelir gan Google. Gallwch wrthod defnyddio cwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr, fodd bynnag, os gwnewch hyn, mae'n bosibl na fyddwch yn gallu defnyddio'r wefan hon i'r eithaf. Drwy ddefnyddio'r wefan hon, rydych yn rhoi caniatâd i ni brosesu'r data amdanoch chi gan Google at y dibenion a nodwyd uchod.
Polisi Preifatrwydd
Os ydych yn anfon gwybodaeth amdanoch chi atom o’r wefan hon, heblaw ein bod yn datgan fel arall, ni fyddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon mewn unrhyw fodd heblaw i ateb eich ymholiad neu ar gyfer y pwrpas penodol. Efallai y byddwn yn cadw cofnod o’ch ymholiad er mwyn ein cynorthwyo i ddatblygu ein gwasanaethau.
Os ydych yn gofyn am gael ymuno â’n rhestr bostio, efallai y byddwn yn anfon gwybodaeth atoch ynglŷn â Chronfa Dreftadaeth y Loteri, neu’n cysylltu â chi o bryd i’w gilydd ynglŷn â’n busnes. Gadewch i ni wybod os ydych yn dymuno i gael eich tynnu oddi ar y rhestr bostio neu os yw’r wybodaeth amdanoch yn newid, drwy anfon neges ebost at enquire@hlf.org.uk, drwy ffonio 020 7591 6042 neu drwy ysgrifennu at Tîm Gwybodaeth, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, 7 Holbein Place, Llundain, SW1W 8NR.
Os byddwch yn gwneud cais am grant neu ffurflen cyn gwneud cais am grant, byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhoi yn unol â Deddf Diogelu Data 1998, fel y nodir yn y broses ymgeisio. Mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'ch manylion i'ch hysbysu o'n gwaith (yn cynnwys dros yr ebost, os darparwyd cyfeiriad ebost), oni fyddwch wedi nodi y byddai'n well gennych beidio â chael gwybodaeth gennym nad yw'n gysylltiedig â'r cais neu'ch grant, drwy anfon neges ebost at enquire@hlf.org.uk, drwy ffonio 020 7591 6042 neu drwy ysgrifennu at Tîm Gwybodaeth, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, 7 Holbein Place, Llundain, SW1W 8NR.
Enwau a logos
Mae’r enwau, y delweddau a’r logos sy’n dynodi Cronfa Dreftadaeth y Loteri neu drydydd partïon a’u cynhyrchion a’u gwasanaethau yn nodau perchnogol Cronfa Dreftadaeth y Loteri, a/neu drydydd partïon.
Amrywiadau
Gellir amrywio’r telerau hyn o bryd i’w gilydd. Sicrhewch eich bod yn adolygu’r telerau a’r amodau hyn yn rheolaidd gan yr ystyrir eich bod wedi derbyn amrywiad os ydych yn parhau i ddefnyddio’r wefan hon ar ôl i unrhyw amrywiad gael ei nodi.
Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn gronfa a gaiff ei gweinyddu gan ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol, corff corfforaethol. Ystyrir bod yr holl gyfeiriadau at Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn y telerau hyn ac ar y wefan hon yn gyfeiriadau at ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol.