Ychydig bach o ddata yw cwci sy'n cael ei anfon at eich porwr o gyfrifiadur gwefan a’i storio ar yriant caled eich dyfais.
Nodyn ar gyfer defnyddwyr
Mae cwcis yn casglu gwybodaeth am y ffordd mae ymwelwyr yn defnyddio gwefan, er enghraifft, pa dudalennau mae ymwelwyr yn ymweld â hwy amlaf, ac a ydynt yn derbyn negeseuon gwallau wrth dudalennau'r we. Nid yw'r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth sy'n adnabod ymwelydd. Caiff yr holl wybodaeth a gesglir gan y cwcis hyn ei chydgrynhoi ac felly'n ddienw. Caiff ei defnyddio i wella sut mae gwefan yn gweithio. Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno y gallwn osod y mathau hyn o gwcis ar eich dyfais.
Sut mae CDL yn defnyddio cwcis?
Mae gwefan Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn defnyddio dau gwci:
Cwci:[enwdefnyddiwr]@hlf.org.uk
Caiff y cwci hwn ei ddefnyddio gan Google Analytics, a chaiff ei gymhwyso i bob tudalen ar safle CDL. Mae'n storio tri darn o wybodaeth am bob ymwelydd:
- _utmz - o ble y daeth ymwelydd
- _utma - nifer yr ymweliadau gan bob defnyddiwr, amser yr ymweliad cyntaf, yr ymweliad blaenorol a'r ymweliad cyfredol.
- _utmb,_utmc - i wirio tua faint o amser mae rhywun yn aros ar safle: pryd y bydd ymweliad yn dechrau ac yn gorffen.
Mae Google Analytics yn wasanaeth dadansoddi'r we sy'n cael ei ddarparu gan Google, Inc. Mae Google yn storio'r wybodaeth a gesglir gan y cwci ar serfwyr yn yr Unol Daleithiau. Hefyd, gall Google drosglwyddo'r wybodaeth hon i drydydd part lle ofynnir iddo wneud hynny yn ôl y gyfraith, neu pan fydd trydydd parti o'r fath yn prosesu'r wybodaeth ar ran Google. Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP gydag unrhyw ddata arall a ddelir gan Google.
Cwci:[enwdefnyddiwr]@youtube.com
Caiff y cwci hwn ei ddefnyddio gan YouTube. Dim ond ar dudalennau sy'n cynnwys fideos YouTube wedi'u hymgorffori y gellir dod o hyd iddo.
Cwcis eraill a osodwyd gan safleoedd trydydd parti
Mae gwefan CDL hefyd yn cynnal dolenni i amrywiaeth o wahanol borthau cyfryngau cymdeithasol ac mae'n cynnig opsiynau i 'rannu' gwybodaeth. Wrth ddewis dolen, a dewis yr opsiwn i fynd at wasanaeth o'r fath, efallai y byddwch yn cael eich cyflwyno i gwci. Nid yw CDL yn gyfrifol am y cynnwys sydd ar wefannau trydydd parti ac nid yw'n rheoli sut mae'r cwcis yn cael eu dosbarthu. Am fwy o wybodaeth dylech wirio gwefan y trydydd parti perthnasol.
Sut i reoli a dileu cwcis
Nid yw CDL yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy amdanoch chi. Rydym yn eu defnyddio er mwyn ein helpu i ddarparu gwasanaeth gwell ar eich cyfer chi. Fodd bynnag, os ydych am gyfyngu neu atal unrhyw gwcis gallwch wneud hyn drwy'r gosodiadau ar eich porwr. Dylai'r ffwythiant 'Help' ar eich porwr roi cyfarwyddiadau i chi.
Ewch i
wefan Google er mwyn darganfod sut i wrthod neu ddileu'r cwci Google Analytics.
Mae
AboutCookies.org yn safle annibynnol sy'n cynnig arweiniad i ddefnyddio cwcis ar lein. Gallwch gael mwy o wybodaeth gyffredinol am sut i ddileu a rheoli cwcis drwy eich porwr.