Amdanom ni
Plant yn mwynhau sioe pypedau Punch a Judy ym Amgueddfa Hastings. Llun Kois Miah

Sut rydym yn gweithio 

Rydym yn fuddsoddwr cyfrifol, yn defnyddio meini prawf clir ac rydym yn blaenoriaethu ceisiadau am arian mewn ffordd strategol. Rydym yn sicrhau bod ein penderfyniadau yn seiliedig ar arbenigedd, tystiolaeth a beirniadaeth.

Rydym wedi ymrwymo i roi cyngor gonest cyn i chi wneud cais, ac mae ein proses asesu yn gadarn ac yn deg. Cyn i chi wneud cais am grant, gallwch gael cyngor cyn gwneud cais gan staff datblygu timau rhanbarthol a chenedlaethol Cronfa Dreftadaeth y Loteri sydd wedi'u lleoli ledled y DU.

Caiff ffurflenni cais ar gyfer grantiau ein holl raglenni grantiau eu hasesu gan swyddogion grantiau, a bydd naill ai rheolwr gwladol/rhanbarthol, pwyllgor gwladol/rhanbarthol neu ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn gwneud penderfyniad am eich cais.