Mae ein safbwynt ar dreftadaeth yn eang, yn flaengar ac yn gynhwysol. Rydym yn credu bod deall, gwerthfawrogi a rhannu ein hanesion amrywiol yn newid bywydau, yn dod â phobl at ei gilydd ac yn creu sylfaen gadarn ar gyfer cymdeithas hyderus, fodern.
Rydym yn cymryd ymagwedd nodedig, gyfannol - sy'n seiliedig bethau mae pobl yn rhoi gwerth arnynt, gan fuddsoddi yn nhreftadaeth y DU ar gyfer yr hirdymor. Rydym yn ychwanegu gwerth at ein harian drwy nifer o weithgareddau ategol, ac yn gwerthuso'u heffaith, er mwyn sicrhau bod prosiectau dychmygus a chadarn yn sicrhau buddion cynaliadwy i dreftadaeth a phobl.
Mae ein trydydd cynllun strategol a'n cynllun busnes cyfredol yn cynnwys mwy o wybodaeth am ein hamcanion strategol a'r ffordd rydym yn defnyddio'n hadnoddau i'w cyflawni.