Mae'r Gronfa yn gyflogwr cyfle cyfartal. Nid ydym yn gwahaniaethu yn erbyn staff nac ymgeiswyr cymwys. Byddwn yn eich beirniadu yn ôl eich gallu a dim arall. Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu proffil amrywiol ein sefydliad i adlewyrchu'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt.
Bydd y Gronfa bob amser yn ceisio gwneud addasiadau rhesymol i staff anabl. Rydym yn defnyddio'r symbol anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweliad i bob ymgeisydd anabl sy'n bodloni meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Gronfa'n gwbl ymroddedig i ddarparu mynediad a chyfle cyfartal, drwy arian y loteri a ddosberthir gennym ac fel cyflogwr.

Buddsoddwyr mewn Pobl
Cydnabuwyd y Gronfa yn Fuddsoddwr mewn Pobl ers 2002. Rydym wedi bod yn llwyddiannus mewn tri adolygiad ers hynny. Mae'r safon yn dangos ymrwymiad y sefydliad i'n hadnodd mwyaf: ein pobl. Mae ein hymdrechion i gadw'r safon yn tanategu ein gwaith i ddarparu cyfleoedd dysgu a datblygiad parhaus i bob aelod o staff.
