Oriau a Gwyliau
Mae staff amser llawn yn gweithio wythnos 5 diwrnod, sef 40 awr, yn cynnwys un awr ginio bob dydd.
Ceir 26 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n codi i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth, yn ogystal â gwyliau banc/statudol ac 1.5 'diwrnod braint' bob blwyddyn.
Hyfforddiant
Mae'r Gronfa yn gwbl ymroddedig i hyfforddi ac mae'n Fuddsoddwr mewn Pobl. Rydym yn rhoi pwys mawr ar sicrhau cyfnod sefydlu a hyfforddiant i staff newydd. Mae pob aelod o staff yn cael mynediad i amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddi. Ar ôl cyfnod cymhwyso, mae'n bosibl y bydd cymorth ariannol ar gael i ennill cymwysterau proffesiynol sy'n berthnasol i waith y Gronfa.
Pensiwn
Cewch yr opsiynau pensiwn canlynol: aelodaeth o Nuvos - cynllun pensiwn cyfrannol o dan Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil neu Gyfrif Pensiwn Partneriaeth (PCSPS). Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar gael os cewch eich penodi.
Taliadau cyflog ymlaen llaw
Mae blaenswm di-log ar gael i bob aelod parhaol o staff i dalu cost tocyn tymor blynyddol. Ad-delir y swm drwy ddidynnu'r swm o'r cyflog yn rheolaidd. Fel dewis amgen, mae blaenswm hefyd ar gael i brynu beic.
Aelodaeth o Ganolfan Hamdden a Sgriniad Iechyd
Ar ôl gweithio am dri mis, bydd y Gronfa yn cynnig hyd at £50 y mis (a delir drwy'r gyflogres, ac yn drethadwy) er mwyn ymaelodi â chanolfan hamdden. Ar ôl blwyddyn o wasanaeth, cynigir sgriniad iechyd gan Nuffield Proactive Health.
Gofal Iechyd Benenden
Gan fod y Gronfa yn gorff sector cyhoeddus, mae'r staff yn gymwys i ymuno â Gofal Iechyd Benenden. Gall Benenden gynnig buddion gofal iechyd fforddiadwy sy'n gweithio ochr yn ochr â GIG, a heb fod mewn cystadleuaeth ag ef. Mae'n gynllun cost isel, sy'n cynnig buddion sylweddol, ac mae'n cynnig amrywiaeth hyblyg o driniaeth i gyflogeion a'u perthnasau a enwebwyd.
Cynllun Talebau Gofal Plant
Rydym yn gweithredu cynllun Talebau Gofal Plant Gwasanaeth Talebau Computershare. Drwy brynu'r talebau drwy'r cyflog misol, hyd at uchafswm penodol, bydd cyflogeion yn cael eu heithrio rhag dalu Yswiriant Gwladol ar y rhan honno o'u cyflog.