Grantïon
Dyn a dynes Afro-Caribïaidd yn trafod, rhan o brosiect Taith Crowther. Llun Kois Miah

Derbynwyr grant 

Llongyfarchiadau ar gael grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Mae'r adran hon o'n gwefan yn cynnwys gwybodaeth am sut y dylech gydnabod eich grant. Yn cynnwys manylion am archebu ein deunyddiau cydnabyddiaeth am ddim (ffurflen Saesneg ar hyn o bryd), canllaw ar greu eich deunyddiau cydnabyddiaeth eich hun ac awgrymiadau am weithgarwch cysylltiadau cyhoeddus a hyrwyddo ehangach.

Byddwn hefyd yn edrych ar rai o'r materion allweddol y mae pobl yn eu hwynebu wrth reoli prosiectau treftadaeth llwyddiannus. Mae ein pwnc cyntaf yn canolbwyntio ar ffyrdd o ehangu amrywiaeth eich tîm gwirfoddoli. Rydym yn edrych ar y ffordd mae prosiectau treftadaeth gwahanol wedi cynnwys amrywiaeth eang o bobl fel gwirfoddolwyr.  A chawn hanes gan y gwirfoddolwyr am yr hyn y mae'r profiad wedi'i olygu iddynt hwy.

Yn y dyfodol agos, bydd y man hwn o'r wefan yn fan i rwydweithio gydag eraill wrth i nodweddion ychwanegol gael eu hychwanegu.

Os ydych yn chwilio am wybodaeth am fonitro a/neu gopïau o ffurflenni monitro, cysylltwch â'ch Swyddog Grantiau. Gallwch gael y manylion cyswllt ar y llythyr a gawsoch i'ch hysbysu am eich grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Os na allwch ddod o hyd i'r manylion cyswllt, gallwch gysylltu â'ch swyddfa ranbarthol neu wladol drwy fynd i'r dudalen Eich ardal chi.

Heritage Focus publication