Rhaid bod pawb sy'n ymweld â'ch safle neu'n cymryd rhan mewn gweithgareddau yn gallu gweld cydnabyddiaeth o'n grant. Dylai arwyddion fod yn weladwy o bellter gweld cyffredin sef oddeutu pum metr ac ni ddylid eu cuddio na’u gosod mewn man lle na all y cyhoedd eu gweld, megis mewn swyddfa, tu ôl i gownter, neu wrth ymyl drws nas defnyddir yn aml. Dylid cadw’r arwyddion rhag fandaliaeth a graffiti.
Dylai’r costau ar gyfer cydnabod eich grant fod yn rhan o’ch prosiect ac, wrth ddefnyddio deunyddiau a gwaith celf a ddarperir gennym, ni ddylent fod yn uchel. Gallwn ddarparu rhywfaint o eitemau generig yn rhad ac am ddim.
Beth bynnag fo’r gydnabyddiaeth y byddwch yn ei dewis ar gyfer eich grant, dylai bara hyd at ddiwedd eich contract gyda ni. Dylech hefyd ystyried costau adnewyddu posibl o achos traul neu fandaliaeth.
O ran unrhyw gydnabyddiaeth y byddwch yn ei harddangos, eich cyfrifoldeb chi yw cael yr holl gymeradwyaeth a chaniatâd cyfreithiol y bydd eu hangen arnoch, megis caniatâd cynllunio, caniatâd adeilad rhestredig, caniatâd cyfadran neu unrhyw ganiatâd arall. Bydd angen i chi adael amser ar gyfer y broses hon.