Grantïon
Mae dyn yn dysgu am ymdrechion ffrynt cartref y gymuned Affricanaidd-Caribïaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd mewn arddangosfa yn Southwark. Llun Kois Miah

 Dehongli i bawb  

Beth mae Florence Nightingale yn ei golygu i blant ysgol Swydd Derby? Faint o brofiad o dreftadaeth y gall ymwelwyr â nam ar eu golwg gael wrth gerdded ar hyd Camlas Leeds a Lerpwl? Yr ateb i’r ddau gwestiwn yw llawer iawn.

Agwedd bwysig dros ben ar y ddau brosiect hyn ac eraill a welir yn y rhifyn hwn o Ffocws ar Dreftadaeth yw sut maent yn mynd ati
gyda’u dehongli. Yn y tudalennau canlynol rydym yn egluro beth mae dehongli yn gofyn amdano, pam mae’n bwysig a sut gallwch ei adeiladu’n llwyddiannus yn rhan o’ch prosiect.

Gall cynllunio eich dehongli fod yn un o gyfnodau mwyaf cyffrous ac arloesol eich cynllun. Mae’n rhoi cyfle i chi ac eraill weld treftadaeth gyda llygaid newydd – ac nid gweld yn unig ond hefyd gwrando, cyffwrdd, arogli a blasu hyd yn oed. Rydym wedi ariannu dehongli sy’n ysgogi’r holl synhwyrau! Mae yna lawer i’w ddysgu, ond mae’r arfau sylfaenol gennych yn barod – bod ar dân dros eich prosiect ac awydd i danio dychymyg eich cynulleidfa.

Ymwelwyr yn mwynhau tonnau y llinell amser yn Amgueddfa Mid-Antrim. Hawlfraint Cyngor Bwrdeistref Ballymena 

 Ymwelwyr yn mwynhau tonnau y llinell amser yn Amgueddfa Mid-Antrim. Hawlfraint Cyngor Bwrdeistref Ballymena 

Gwneud cais am y cyhoeddiad

Mae Ffocws ar Dreftadaeth hefyd ar gael fel cyhoeddiad wedi ei argraffu. Gallwch gael copi drwy yrru e-bost at cymru@hlf.org.uk