Grantïon
Gwirfoddolwyr yn sefyll wrth ymyl tanc yn Amgueddfa Rhyfel Ymerodrol y Gogledd ym Manceinion

 Ehangu amrywiaeth eich tîm gwirfoddoli 

Yma rydym yn canolbwyntio ar ffyrdd o ehangu amrywiaeth eich tîm gwirfoddoli. Rydym yn edrych ar y ffordd mae prosiectau treftadaeth gwahanol wedi cynnwys amrywiaeth eang o bobl fel gwirfoddolwyr. A chawn hanes gan y gwirfoddolwyr am yr hyn y mae'r profiad wedi'i olygu iddynt hwy.

Gall gwirfoddoli ddod â nifer o fuddion. Yn ogystal â chyfrannu sgiliau a brwdfrydedd, gall gwirfoddolwyr helpu prosiectau i adlewyrchu'r gymuned leol yn well a chyrraedd cynulleidfa ehangach. Yn aml bydd pobl yn dweud wrthym fod gwirfoddoli wedi newid eu bywyd, gan ddod â synnwyr o gyflawniad a chyfleoedd newydd. Dyna pam rydym am sicrhau y caiff pawb gyfle i gymryd rhan.

Gwirfoddolwraig yn yr Archifau Diwylliant Du, Llundain 

 Gwirfoddolwraig yn yr Archifau Diwylliant Du, Llundain ©Kols Miah Photography 

Gwneud cais am y cyhoeddiad

Mae Ffocws ar Dreftadaeth hefyd ar gael fel cyhoeddiad wedi ei argraffu. Gallwch gael copi drwy yrru e-bost at cymru@hlf.org.uk