Croeso i Gymru
Mae grantiau gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn ymwneud â llawer mwy nag arian. Mae'n ymwneud â chreu cyfleoedd i wirfoddoli, dysgu a dathlu ein diwylliant. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn helpu i roi synnwyr o le a hunaniaeth i bobl, ysgogi angerdd at dreftadaeth ac adfywio cymunedau.
Yng Nghymru, rydym yn falch o'n tirweddau, ein gorffennol diwydiannol a'n hadeiladau hanesyddol, yn ogystal â'n harferion, ein traddodiadau a'n hieithoedd.
Meddyliwch sut le fyddai Cymru heb yr iaith Gymraeg, ein cestyll, Pwll Mawr, y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth neu dirwedd Penrhyn Gŵyr.
Yn yr adran Cymru ar y wefan hon, byddwn yn defnyddio astudiaethau achos ac erthyglau newyddion i ddangos yr amrywiaeth eang o brosiectau treftadaeth y gallwn eu cefnogi, a gobeithio eich ysbrydoli i wneud prosiect treftadaeth yn eich cymuned chi. Rydym yn annog pob sefydliad sy'n bwriadu gwneud cais i ymgymryd â phrosiect treftadaeth i ofyn am gyngor cyn ymgeisio cyn gynted â phosibl.
Ardaloedd Datblygu Blaenoriaethol
Rydym wedi nodi nifer o ardaloedd datblygu blaenoriaethol o fewn Cymru. Byddant yn ffocws gweithgarwch ychwanegol wedi'i dargedu gan ein staff datblygu a fydd yn gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth am raglenni Cronfa Dreftadaeth y Loteri a chefnogi sefydliadau a grwpiau lleol wrth wneud ceisiadau am grantiau yn yr ardaloedd hyn. Ni fydd ardaloedd datblygu blaenoriaethol yn derbyn cyllid yn awtomatig ond ein nod yw creu mwy o geisiadau o ansawdd da o'r ardaloedd hyn a fydd yn gallu cystadlu â cheisiadau o fannau eraill.
Cafodd nifer o ffactorau eu hystyried wrth nodi ardaloedd datblygu blaenoriaethol gan gynnwys lefelau is o wariant CDL hyd yn hyn. Fe restir ardaloedd datblygu blaenoriaethol Cymru yn y golofn ar y dde.
Beth sy'n digwydd yng Nghymru
Astudiaethau achos yng Nghymru
Ardal o dan sylw
Sut i gyrraedd ein swyddfa
Ardaloedd datblygu blaenoriaethol
Canfod rhagor o brosiectau
Gwelwch fwy o brosiectau yng Nghymru
Cyfeiriad cysylltu
Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cymru
Tŷ James Williams
9 Plas yr Amgueddfa
Caerdydd
CF10 3BD
Teleffôn:
029 2034 3413
Ffacs: 029 2034 3427
Ebost:
cymru@hlf.org.uk