Rydym yn cynnal cyfarfodydd cyn ymgeisio misol yn ein swyddfa yng Nghaerdydd ac mewn lleoliadau eraill ledled Cymru. Gallwch ofyn am gyfarfod ar un o'r diwrnodau canlynol:
- 16 Mai, Caerdydd
- 24 Mai, Yr Wyddgrug
- 21 Mehefin, Llanbedr Pont Steffan
- 4 Gorffennaf, Caerfyrddin
- 17 Gorffennaf, Caerdydd
- 6 Awst, Sir Ddinbych
- 14 Awst, Abertawe
- 21 Awst, Caerdydd
- 16 Medi, Caerdydd
- 9 Hydref, Blaenau Gwent
- 23 Hydref, Caerdydd
- 7 Tachwedd, Caerffili
- 20 Tachwedd, Caerdydd
- 5 Rhagfyr, Torfaen
- 11 Rhagfyr, Caerdydd
Os hoffech drefnu apwyntiad ar gyfer unrhyw un o'r dyddiau uchod, ebostiwch Claire Franklin neu ffoniwch 029 2034 3413. Noder, mae'n bosibl y gall lleoliad y cyfarfodydd y tu allan i Gaerdydd newid, felly ewch i'r wefan yn rheolaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
I fanteisio i'r eithaf ar eich amser, rydym yn gofyn i chi gwblhau ffurflen ymholi prosiect a'i dychwelyd atom o leiaf 3 diwrnod cyn dyddiad yr apwyntiad. Pan fyddwn wedi derbyn y wybodaeth hon, byddwn yn cadarnhau eich apwyntiad.
Rydym yn mynychu digywddiad Ffair ar y Sgwâr yn Y Gelli Gandryll gyda stondin wybodaeth dros penwythnos Gŵyl Banc y Sulgwyn ar 25, 26 a 27 Mai. Galwch i mewn i ddysgu am grantiau CDL ac yn ymweld â'r hen Farchnad Gaws i ddarganfod sut bydd grant CDL yn cael ei wario ar yr adeilad rhestredig Gradd II er budd y gymuned ac ymwelwyr.