Newyddion
Ffotograffau a thoriadau papurau newydd o'r Ail Ryfel Byd - rhan o brosiect Bournemouth in Wartime. Llun Paul Close/Insight

 Parc Cyfarthfa yn derbyn anrheg Nadolig cynnar o £1.96m gan CDL  

 18/12/2011 

Mae Parc Cyfarthfa, y parc cyhoeddus mwyaf ym Merthyr Tudful, ar fin derbyn ailddatblygiad mawr diolch i fuddsoddiad o £1.96 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. 

Mae’r Parc cofrestredig Gradd II* yn cwmpasu 65 hectar ac yn meddiannu safle amlwg yn edrych dros y dref a beth sy’n weddill o Waith Haearn Cyfarthfa. Mae’n gefndir i Gastell Cyfarthfa sydd yn rhestredig Gradd I, cartref teulu’r Crawshay a’r enghraifft orau o breswylfa Meistr Haearn o’r 19eg ganrif i oroesi yn Ne Cymru.

Bydd yr arian yn galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i gyflawni gwaith adfer allweddol i dirwedd hanesyddol y Parc yn cynnwys gwaith trwsio hanfodol i’r band stand, yr ardd muriog a'r tai gwydr. Mae cynlluniau hefyd yn cynnwys ailadeiladu’r Pafiliwn Bowls a gwella cyfleusterau i ymwelwyr.

Mae Castell a Pharc Cyfarthfa eisoes yn atyniad twristaidd pwysicaf y fwrdeistref ac fe’i gosodwyd yn rhif saith yn rhestr 50 Uchaf Allweddol y Cymoedd o bethau i’w gweld a’u gwneud yn yr ardal, wedi eu dethol gan bobl leol. Y cynllun hirdymor yw datblygu Parc Cyfarthfa yn gyrchfan ymweld allweddol yn rhanbarth y Cymoedd ac i gyflawni statws Baner Werdd. Bydd y prosiect yn cyfrannu tuag at gynllun adfywio ehangach Merthyr Tudful.

Bydd y gerddi a thai gwydr wedi eu hadfer yn ganolfan i’r Grŵp Cyfeillion ymroddedig presennol gan ganiatáu iddynt, ynghyd â gwirfoddolwyr newydd, gymryd rhan mewn detholiad o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ymwelwyr, yn cynnwys rolau garddio a warden, teithiau treftadaeth tywysedig a chynorthwywyr digwyddiadau. Bydd y cyllid hefyd yn cefnogi cyflogaeth swyddog treftadaeth, cydlynydd rhaglen wirfoddol a warden i sicrhau rheolaeth a chynnal a chadw'r parc yn y dyfodol.

Mae rhaglen brentisiaeth yn rhan o’r prosiect a bydd yn rhoi cyfle i bobl leol gael hyfforddiant adeiladu a garddwriaeth ymarferol, yn arbennig mewn sgiliau traddodiadol megis adeiladu waliau cerrig. Bydd y cyllid yn cefnogi datblygiad ac ehangiad y rhaglen “Tyfu i Lwyddo” bresennol, gan ddisgwyl y bydd 40 o aelodau ychwanegol o’r gymuned yn cymryd rhan.

Meddai Dan Clayton Jones, Cadeirydd CDL yng Nghymru sy’n gadael ei rôl ar ddiwedd Rhagfyr: “Mae buddsoddiad heddiw yn ffordd arbennig o orffen y flwyddyn a’m cyfnod gyda CDL, a bydd yn darparu cefnogaeth ariannol y mae mawr ei angen ar Gyfarthfa. Mae'r Parc hwn, sydd bellach yn eiddo i bobl Merthyr Tudful, yn ein hatgoffa o’r cyfoeth aruthrol a gasglodd bonedd y fasnach haearn yn Ne Cymru a rôl Merthyr Tudful yn y chwyldro diwydiannol. 

“Bydd y cyllid yn dychwelyd tirwedd hanesyddol y parc i’w hen ogoniant tra’n ei wneud yn le gwyrdd gwych i bobl leol fwynhau, archwilio a dysgu ohono. Mae’n braf gweld cymaint o gyfleoedd yn dod ar gael i bobl leol ddysgu sgiliau traddodiadol a garddwriaeth, a thrwy wneud hynny yn chwarae eu rhan yn mynd â’n treftadaeth i’r dyfodol.” 

Datganodd Morgan Chambers, Cadeirydd Grŵp Cyfeillion Parc Cyfarthfa, “Mae hyn yn gyfle cyffrous i ni fynd ar drywydd ein Rhaglen Cynhwysiant Cymunedol a Gwirfoddolwyr i Barc Cyfarthfa; parc i'r bobl. Bydd yn helpu pobl i ddysgu am eu treftadaeth eu hunain, yn annog ein cymuned i gymryd rhan weithredol yn y prosiect a chyfrannu tuag at wneud penderfyniadau.“

Dywedodd y Cynghorydd Derek Games, Hyrwyddwr Treftadaeth, “Mae hyn yn newyddion gwych i Ferthyr. Bydd y cyllid allweddol yn ein galluogi i weithio gyda’r gymuned i warchod a hybu’r dreftadaeth ddiwydiannol a nodweddion hanesyddol ym Mharc Cyfarthfa. Bydd y rhaglen yn dathlu rôl y parc yn hanes diwydiannol Merthyr Tudful ac yn hybu buddsoddiad i sicrhau bod y parc yn bodloni disgwyliadau ymwelwyr a safonau cenedlaethol. Bydd hyn wir yn gwneud Castell a Pharc Cyfarthfa yn goron ar y cyfan.”

Meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones: “Mae Merthyr Tudful wedi ei drwytho mewn treftadaeth ddiwydiannol, sy’n diffinio’r ardal hyd heddiw. Mae gwneuthuriad cymdeithasol cymuned lofaol draddodiadol yn dal yn fyw ac mae’n bwysig ein bod yn diogelu’r dreftadaeth honno ac yn ei defnyddio fel conglfaen i adfywio’r dref a chodi proffil yr ardal.

“Mae cyllid Llywodraeth Cymru a Threftadaeth y Loteri yn hyrwyddo twristiaeth a chreu swyddi ym Merthyr, gan annog gweithgaredd economaidd a datblygu sgiliau ar lefel leol. Bydd cyfranogiad cymunedol yn allweddol i lwyddiant parhaus y prosiect hwn.”

Golygfa ar draws Parc Cyfarthfa o'r llyn tuag at y Castell 
Bydd Parc Cyfarthfa yn cael ei hadfer gyda grant £1.96m gan CDL

  • Hawlfraint © [] Cronfa Dreftadaeth y Loteri