Mae Amgueddfa Pontypridd wedi derbyn £92,700 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) i sicrhau dyfodol ei adeilad rhestredig Gradd ll ac annog mwy o bobl i gymryd rhan a dysgu mwy am eu treftadaeth leol.
Mae’r amgueddfa, sy’n adrodd stori’r dref a’i phobl, yn gartref i gasgliad sylweddol o arteffactau lleol a rhanbarthol o chwaraeon i ddiwydiant i ddiwylliant, yn cynnwys atgofion am ddau o’i meibion lleol enwog, Syr Geraint Evans a Syr Tom Jones. Mae hefyd yn gartref i ddeg o grwpiau cymunedol lleol sy’n dangos eu gwaith yn yr amgueddfa.
Wedi ei adeiladu fel capel y Bedyddwyr Cymraeg, Tabernacl, ym 1861, cafodd y capel ei ddefnyddio am y tro olaf fel man addoliad ym 1982, a’i ailagor fel canolfan hanesyddol a diwylliannol ym 1986.
Bydd arian y loteri’n cael ei ddefnyddio i wneud gwaith atgyweirio brys i do’r amgueddfa, gan ddod â’r nenfwd nôl i’w gyflwr gwreiddiol fel roedd ym 1910. Rhan annatod o’r prosiect fydd defnyddio’r gwaith cadwraeth i gynyddu’r cyfleon i bobl i ddysgu am eu treftadaeth bensaernïol leol trwy weithdai sgiliau, dyddiau agored a theithiau dan arweiniad.
Mae Cyngor Tref Pontypridd yn gobeithio gyda’r chwistrelliad yma o arian oddi wrth CDL, y bydd mwy o bobl yn cymryd rhan yng ngweithgareddau a grwpiau’r amgueddfa. Dywedodd Brian Davies, o Amgueddfa Pontypridd: “Bydd y grant yma’n diogelu dyfodol yr amgueddfa ac yn galluogi rhai o ddefnyddwyr rheolaidd yr adeilad i gymryd rhan yng ngwaith diddorol cadwraeth yr adeilad eu hunain.”
Bydd gwirfoddolwyr o Gymdeithas Gelf Pontypridd a’r Ardal a Chymdeithas Gelf Cilfynydd ochr yn ochr â myfyrwyr cadwraeth Prifysgol Caerdydd yn ymchwilio ac yn paratoi cynllun lliw'r nenfwd yn ogystal â chreu mowldiau o’r nenfwd i blant ysgol gael eu defnyddio mewn gwersi. Bydd hyn yn ffurfio rhan o raglen addysg i integreiddio defnydd newydd ynglŷn â’r Tabernacl i mewn i wersi hanes lleol mewn ysgolion cynradd lleol.
Dywedodd Anita Raymond, o Dreforest, sydd wedi bod yn aelod o Gymdeithas Gelfyddydol Pontypridd am 35 blynedd: “Rydyn ni’n gyffrous iawn ein bod yn chwarae ein rhan mewn gwneud ein rhan mewn helpu gwneud i’r prosiect hwn ddigwydd, o gael plant ysgolion lleol i gymryd rhan i greu’r palet lliw terfynol st gyfer yr arlunwyr. Mae hi mor bwysig i gadw’r ardal yn fyw gyda’r celfyddydau ac annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwahanol agweddau. Mae Amgueddfa Pontypridd yn rhan ganolog o’r dref ac fe ddylai gael ei dathli.”
Dywedodd Robert James, Pennaeth Ysgol Gynradd Coed-y-Lan, Pontypridd: “Mae Amgueddfa Pontypridd yn hynod werthfawr i’n hysgol, rydyn ni’n gwneud ymweliadau cyson ac rydyn ni’n ei defnyddio bob amser ar gyfer ein harddangosfeydd hanes. Mae gwneuthuriad yr adeilad o werth penodol ar gyfer addysg y plant ac mae’n ffitio i mewn i’n cwricwlwm. Mae cynifer o hen adeiladau wedi eu colli, mae’n hynod bwysig bod y Tabernacl gwych hwn yn aros yn ein cymuned a bod ei dreftadaeth yn cael ei rannu gan gynifer o bobl â phosibl.”
Bydd yr ‘Old Bridge Photographic Society’ yn cofnodi’r prosiect atgyweirio o’r dechrau i’r diwedd. Bydd eu lluniau’n ymddangos mewn arddangosfa a chyhoeddiad a grëwyd gan aelodau o’r gymuned i arddangos hanes yr adeilad. Bydd yr arddangosfa nid yn unig yn addysgu’r 30,000 o ymwelwyr mae’r amgueddfa’n eu denu bob blwyddyn ond hefyd bydd yn mynd ar daith i amgueddfeydd eraill. Hefyd bydd defnyddiau dysgu ar gael ar-lein, yn cynnwys lluniau a chofnodion gwreiddiol.
Dywedodd Bob Wakefield, Cadeirydd yr ‘Old Bridge Photographic Society’: “Rydyn ni wedi cael ein lleoli yn yr amgueddfa am y 14 blynedd diwethaf ac mae’n wych gallu rhoi rhywbeth yn ôl trwy gipio pob elfen o’r prosiect hwn ar ffilm. Mae’r amgueddfa’n cael ei defnyddio’n helaeth ac rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn dangos y lefel uchel o weithgaredd sy’n digwydd yma gan ddenu mwy o bobl trwy’r drysau.”
Dywedodd Owen Smith, AS dros Bontypridd: “Mae hyn yn ddarn arall o newyddion gwych i Bontypridd. Mae’r capel yn un o adeiladau eiconig Pontypridd ac mae’n cynnwys cofnod ffantastig o hanes ein tref a’n cymuned. Mae Brian Davies ac eraill wedi gwneud gwaith gwych yn adeiladu ac arddangos casgliad a ddylai fod yn achos eiddigedd trefi eraill ar draws Cymru a dyw hi ddim ond yn iawn fod yr adeilad yn cael ei adnewyddu’n llawn a bod ei drysorau cyfoethog yn cael eu cyflwyno i gynulleidfa ehangach eto.”
Dywedodd Dan Clayton Jones, Cadeirydd Pwyllgor CDL yng Nghymru: “Mae Amgueddfa Pontypridd yn bwynt canolog ar gyfer y dref ac mae’n cynnig gweledigaeth ffantastig i’r hyn sydd wedi gwneud Pontypridd yr hyn ydyw heddiw. Mae’r adeilad ei hun wedi ei drwytho mewn hanes ac mae’r prosiect yn gyfle gwych i bobl leol fod yn rhan o’r cynllun, dysgu sgiliau newydd ac wrth wneud hynny chwarae rhan mewn cario’u treftadaeth leol ymlaen. Bydd y sgiliau a ddysgir yn helpu i gynnal yr amgueddfa yn y dyfodol a sicrhau bod pwysigrwydd pensaernïol y Tabernacl yn cael ei rannu.”
I ddarganfod mwy am ddod yn rhan o brosiect treftadaeth yn eich ardal neu wneud cais am grant ewch i www.hlf.org.uk Gallwch hefyd gael y newyddion diweddaraf am Gronfa Dreftadaeth y Loteri Cymru ar Facebook.
- DIWEDD -
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Kate Sullivan a Helen Newton yn Equinox ar 02920 764100 neu hlf@equinox-pr.co.uk
Nodiadau i olygyddion
Gwirfoddoli, sgiliau a hyfforddi:
• Mae dros £86.3m wedi cael ei roi i dros 1,484 o brosiectau yng Nghymru sy’n cynnwys gwirfoddolwyr. Mae dros 98% o’r grantiau a roddwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi creu cyfleon gwirfoddoli.
• Mae gwirfoddoli’n gonglfaen prosiectau CDL. Mae’n ymchwil yn dangos, ar gyfartaledd, bod 13 o wirfoddolwyr yn rhan o bob prosiect, gan ddarparu 450 awr o amser gwirfoddoli ar gyfer pob prosiect – mae hyn yn gyfanswm o 667,800 o oriau gwirfoddoli ar draws Cymru!
• Mae CDL wedi rhoi £49.3m i 179 o brosiectau yng Nghymru sydd wedi cynnwys cyflwyno rhaglenni a ddysgir i ddysgwyr o bob oed
• Mae dros 60 o brosiectau yng Nghymru wedi cynnig cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan i ddysgu sgiliau newydd megis gwaith gof, cadwraeth tecstilau a phapur, sgiliau adeiladu traddodiadol ac adeiladu waliau sych
• Mae 64 o gyfleon hyfforddi newydd wedi ei seilio ar waith wedi eu creu yng Nghymru trwy ein rhaglen Bwrsariaeth Hyfforddi sy’n ceisio delio â diffyg sgiliau penodol yn y sector treftadaeth