Bydd y prosiect o’r enw Ymgysylltu â Chasgliadau: Ehangu Mynediad at Dreftadaeth Gwynedd yn darparu cyllid i ddatblygu prosiect a fydd yn y diwedd yn trawsnewid yr amgueddfa ac oriel bresennol ym Mangor a Gwynedd, gwneud casgliadau’n fwy hygyrch ac yn rhoi cyfle i gymunedau Gwynedd chwarae mwy o ran yn y casgliadau a’r gwaith o’u dehongli.
Mae’r prosiect wedi cael ei ddatblygu ar y cyd gan Gyngor Gwynedd a Phrifysgol Bangor, sy’n gweithio mewn partneriaeth i warchod ac i wella’r ddarpariaeth ddiwylliannol a threftadaeth o fewn Gwynedd a’r rhanbarth.
Bydd y cymorth rownd 1* hwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn galluogi’r Cyngor a’r Brifysgol i ddatblygu cynlluniau ar gyfer y prosiect a symud ymlaen i ail ran broses ymgeisio’r Gronfa. Mae gan y ddau gorff hyd at ddwy flynedd i gyflwyno cynlluniau manwl a gwneud cais am y grant £1.3 miliwn maent yn ei geisio gan y Gronfa ar gyfer y prosiect £2.1 miliwn. Mae’r cynlluniau’n cynnwys ail-leoli Amgueddfa ac Oriel bresennol Bangor i Blas yr Esgob (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Neuadd y Dref) ym Mangor.
Byddai Plas yr Esgob yn cael ei adnewyddu i ddod yn amgueddfa ac oriel celf agored a hygyrch, gyda gwell cyfleusterau addysgol ac i ymwelwyr.
Meddai’r Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Economi a Chymuned: “Mae hwn yn brosiect partneriaeth uchelgeisiol ac ar raddfa fawr sydd â’r nod o integreiddio a chysylltu treftadaeth adeiledig Bangor, Amgueddfa Bangor a chasgliadau Prifysgol Bangor â threftadaeth gymunedol ledled Gwynedd.
“Mae’n brosiect i Wynedd gyfan a bydd yn cynnwys grwpiau cymunedol ac unigolion wrth ddehongli treftadaeth a diwylliant Gwynedd mewn amrywiol leoliadau ledled y sir ac yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i rannu creiriau a straeon.
“Diolch i arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cyngor Gwynedd a Phrifysgol Bangor, a’r cymorth gan Gyfeillion yr Amgueddfa, mi fyddwn ni’n gallu datblygu prosiect cyffrous a fydd yn sicrhau bod stori Gwynedd yn cael y dehongliad a’r statws y mae’n eu haeddu ac yn hyrwyddo ymhellach amcanion y Cyngor o wneud Gwynedd yn lle gwych i fyw ac i ymweld.”
Dywedodd David Roberts, Cofrestrydd Prifysgol Bangor a chadeirydd y Grŵp Llywio a oruchwyliodd y gwaith o ddatblygu’r prosiect, fod hyn yn garreg filltir bwysig i’r amgueddfa. Meddai: “Mae hyn yn newyddion rhagorol, ac yn hwb sylweddol i’n hymdrechion i sicrhau dyfodol Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, ac i adfywio’i weithgareddau. Trwy gydweithio â phrosiect Pontio’r Brifysgol, bydd hyn yn cyfoethogi ymhellach y ddarpariaeth ddiwylliannol a threftadaeth a fydd ar gael ym Mangor ac yng Ngwynedd.”
Ychwanegodd Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: “Fel un o’r adeiladau hynaf sy’n dal ar ei draed ym Mangor, mae’n addas y dylai Plas yr Esgob ddod yn gartref i un o’r amgueddfeydd hynaf yng Nghymru a dweud stori hanes cymdeithasol yr ardal. Mae hi'n mor bwysig gweld y casgliadau cudd hyn, sy’n cynnwys y casgliad unigryw o offerynnau cerddorol, yn cael eu hagor allan i bobl eu harchwilio a’u mwynhau.
“Fe wnaeth y cynlluniau i adfywio’r casgliadau gydag arddangosiadau rhyngweithiol ac aps ffonau clyfar greu argraff arnom ni. Bydd y cyfleoedd i wirfoddolwyr a’r gweithdai addysgol arfaethedig yn rhoi cyfle i’r gymuned gyfan chwarae rhan yn eu hanes lleol. Rydym wedi dyfarnu cymeradwyaeth rownd gyntaf mewn cydnabyddiaeth o botensial y prosiect a’r budd y gallai ei roi i’r ardal leol. Mae cystadleuaeth anferth am ein grantiau, felly mae angen i Gyngor Gwynedd a Phrifysgol Bangor rwan ddatblygu’r cynlluniau’n llawn er mwyn cystadlu am ddyfarniad pendant.”
Nodiadau i olygyddion
*Mae cymeradwyaeth rownd gyntaf yn golygu bod y prosiect yn bodloni meini prawf Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer ariannol a bod y Gronfa’n credu bod ganddo botensial i ddod â buddion o ansawdd uchel a gwerth am arian Loteri. Roedd y cais mewn cystadleuaeth â phrosiectau eraill y gellid eu cefnogi, felly mae cymeradwyaeth rownd gyntaf yn dangos cymeradwyaeth o’r cynigion amlinellol.
Fodd bynnag, nid yw cymeradwyaeth rownd gyntaf yn gwarantu y bydd yr ymgeisydd yn derbyn grant fel y bydd yr ymgeisydd ail-rownd yn dal mewn cystadleuaeth am gyllid, ac nid oes unrhyw arian yn cael ei neilltuo ar hyn o bryd. Ar ôl cael dyfarniad o gymeradwyaeth rownd gyntaf, mae gan y prosiect bellach hyd at ddwy flynedd i gyflwyno cynigion wedi eu cyflwyno’n llawn i gystadlu am ddyfarniad pendant
- Amgueddfa Gwynedd - Mae hon yn amgueddfa achrededig a’r unig amgueddfa gyffredinol gyda’r dasg o gasglu a gofalu am eitemau o bob rhan o’r sir. Mae’r amgueddfa wedi bod yn ei hadeilad presennol, yr hen Ganondy ers 1973 (yr oriel ers 1963). Mae’r hen Ganondy’n adeilad rhestredig Gradd II yn dyddio’n ôl i’r 1870au. Cafodd yr eitemau o fewn Amgueddfa Gwynedd eu casglu pan agorodd Prifysgol Bangor gyntaf yn 1884, gyda chasgliadau’n cael eu defnyddio fel cymhorthion dysgu. Roedden nhw’n cael eu casglu hefyd i adlewyrchu ffordd wledig Gymreig o fyw y credid ei bod yn diflannu’n gyflym - felly mae’r casgliadau’n amrywiol ac yn rhoi cipolwg unigryw o fywyd yng ngogledd-orllewin Cymru, o’r cyfnod cynhanes hyd at y presennol.
- Plas yr Esgob - Mae Plas yr Esgob (Neuadd y Dref) yn un o adeiladau hynaf Bangor (ar ôl yr eglwys gadeiriol), ac eto ychydig o ymwybyddiaeth a gwybodaeth sydd o’i bwysigrwydd. Fel adeilad rhestredig Gradd II sy’n dyddio’n ôl i ganol yr 16eg ganrif, dyma’r unig Blas Esgob sylweddol gyfan sy’n dal i oroesi o’r cyfnod canoloesol diweddar yng Nghymru. Dyma’r adeilad domestig hynaf ym Mangor sydd wedi cael ei feddiannu’n ddi-dor, ac mae’n ddolen gyswllt uniongyrchol â’r anheddiad canoloesol a sefydlwyd gerllaw’r eglwys gadeiriol.
- Casgliadau Prifysgol Bangor - Mae’r rhain wedi’u casglu ers i’r Brifysgol gael eu sefydlu yn 1884, ac mae’r Brifysgol yn gyfrifol am dreftadaeth ddiwylliannol sylweddol yn ffurf gweithiau celf, porslen, offerynnau cerdd, dodrefn, samplau pren a botanegol a chasgliadau sŵolegol a daearegol helaeth.
- Treftadaeth Gwynedd - Mae gan Wynedd hanes maith, amrywiol a thrawiadol. Bydd y prosiect hwn yn anelu at ddatblygu’r math o drefn lle bydd yr Amgueddfa a’r Oriel ym Mangor yn gweithredu fel y prif ganolfan gan gydweithio ag amgueddfeydd a chanolfannau treftadaeth eraill ledled Gwynedd a gogledd-orllewin Cymru a fydd hefyd yn dehongli stori Gwynedd ac yn gweithio mewn partneriaeth i ddarganfod a dehongli themâu allweddol yn hanes Gwynedd.
Gwybodaeth bellach
Cysylltwch â Nest Thomas, Prif Swyddog Amgueddfeydd a’r Celfyddydau ar 01286 679 098.
.