Mae'n cymryd yr awenau gan Dan Clayton Jones, sydd yn gorffen ar ôl saith mlynedd.
Bydd Dr Williams yn ymuno â’r Bwrdd o Ymddiriedolwyr o 15, sy'n cynnwys ffigurau blaenllaw o'r sector treftadaeth, a benodwyd gan y Prif Weinidog i redeg y ddwy Gronfa. Eu rôl yw llywio polisi a chyfeiriad CDL a phenderfynu ar y ceisiadau grant mwy o faint ar gyfer prosiectau treftadaeth. Mae'r Bwrdd hefyd yn cymryd yr holl benderfyniadau ar geisiadau i'r CGDG, cronfa y genedl pan fetha popeth arall ar gyfer treftadaeth, sydd ar hyn o bryd yn dosbarthu £5m y flwyddyn.
Dywedodd Dr Williams: "Rwyf wrth fy modd i gael ymuno â Bwrdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Chronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol. Fel hyrwyddwr brwdfrydig dros dreftadaeth - yn ei holl ffurfiau - rwyf yn edrych ymlaen i chwarae rhan weithredol gyda’r penderfyniadau ariannol ar gyfer prosiectau yng Nghymru a ledled y DU".
Nodyn Bywgraffiadol:
Yn ogystal â gweithio yn y sector preifat fel arbenigwr mewn datblygu arweinyddiaeth, mae Manon Williams yn aelod o aelwyd Tywysog Cymru, lle y mae wedi gwasanaethu fel Uwch Ysgrifennydd Preifat ers 2004. Cyn hynny, bu'n gweithio mewn materion cyhoeddus a llywodraethu yn y BBC, fel Ysgrifennydd BBC Cymru ac yn dilyn hynny Pennaeth Polisi Cyhoeddus, Gwledydd a Rhanbarthau. Mae hi hefyd wedi bod yn aelod o'r Uwch Wasanaeth Sifil fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu yn y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer Cymru a bu'n gweithio fel Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus ar S4C. Ar hyn o bryd mae hi’n aelod o Banel Sector Twristiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae Manon yn gyn-Gadeirydd Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru a Llywodraethwr y Royal Shakespeare Company ac mae wedi gwasanaethu ar fyrddau ymgynghorol y Gerddorfa Philharmonia ac Opera Cenedlaethol Cymru. Mae ganddi ddoethuriaeth mewn Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol o Brifysgol Caergrawnt.
Nodiadau i Olygyddion
- Gan ddefnyddio arian a godir drwy'r Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) yn cynnal ac yn trawsnewid ystod eang o dreftadaeth i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol i gymryd rhan ynddynt, dysgu oddi wrthynt a'u mwynhau. O amgueddfeydd, parciau a llefydd hanesyddol i archaeoleg, yr amgylchedd naturiol a thraddodiadau diwylliannol, rydym yn buddsoddi ym mhob rhan o'n treftadaeth amrywiol. Mae CDL wedi cefnogi mwy na 30,000 o brosiectau gan ddyrannu £ 4.7billiwn ar draws y DU.
- Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (CGDG) yw’r 'gronfa cyfle olaf' ac mae'n derbyn grant blynyddol-mewn-cymorth gan y Llywodraeth. Fe'i sefydlwyd yn 1980, i achub y rhannau mwyaf eithriadol o'n treftadaeth genedlaethol, er cof am y rhai sydd wedi rhoi eu bywydau ar gyfer y DU. Mae CGDG i fod i dderbyn £ 20m grant-mewn-cymorth gan y Llywodraeth rhwng 2011 a 2015 gan ganiatáu ar gyfer cyllideb flynyddol o £4m - £5m. www.nhmf.org.uk
Am fwy o wybodaeth
Cysylltwch â Natasha Ley, swyddfa'r wasg Cronfa Dreftadaeth y Loteri, ar y ffôn: 020 7591 6143 neu ffôn symudol: 07973 613 820