Golyga’r llwyddiant yn y cylch ariannu cyntaf** bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy rŵan yn gallu symud ymlaen at gam nesaf y cais HLF a chyflwyno cynlluniau manylach i gael dosbarthu’r arian. Mae grant datblygu o £37,500 wedi’i ddyrannu i helpu i ddatblygu’r cynlluniau hyn.
Meddai Huw Davies, Swyddog Prosiect Conwy ar gyfer y Cynllun Grantiau Eiddo presennol: “Mae’r posibilrwydd ar gyfer rhagor o fuddsoddi ym Mae Colwyn yn gyfle pwysig i sicrhau adferiad o ansawdd o dreftadaeth bensaernïol hanesyddol yr ardal. Bydd ansawdd cyffredinol yr ardal, yn enwedig y lloriau uchaf sydd ar ôl yn elwa o’r buddsoddiad mae ei angen ac yn wirioneddol ei haeddu;
Pwrpas y Fenter Treftadaeth Treflun yw cadw a gwella cymeriad nodedig ardaloedd hanesyddol ac mae cynigion y Cyngor ar gyfer Bae Colwyn wedi’u seilio o gwmpas yr Ardal Gadwraeth.
Mae elfennau penodol sydd wedi’u nodi ar gyfer cymorth grant dan y Fenter Treftadaeth Tirlun yn cynnwys:-
- Adfer gwerth hanesyddol a masnachol yr ardal gadwraeth Fictoraidd, ac ychwanegu gwerth at gam cyntaf gwaith sydd wedi’i ariannu gan HLF a gwblhawyd yn 2004
- Defnyddio adeiladau gwag eto
- Cysylltu â chyrsiau coleg lleol gyda modiwlau sy’n seiliedig ar dreftadaeth
- Sefydlu canolbwynt ar gyfer ymwelwyr gyda mannau arddangos sy’n arddangos prosiectau adfywio, hyfforddiant sgiliau traddodiadol, cyngor cadwraeth ‘galw i mewn’ a chanolfan hanes lleol.
Meddai’r Cyng Philip Evans, Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Rheolaethol, “Mae hwn yn newyddion rhagorol ar gyfer adfywio rhagor ar Fae Colwyn. Bydd Menter Treftadaeth Tirlun Bae Colwyn yn ategu prosiectau allweddol eraill Datblygiad Parc Eirias a’r Prosiect Glan y Môr ac yn gwella rhagor arnynt.
Meddai Dan Clayton Jones, Cadeirydd Pwyllgor HLF Cymru: “Dengys ein hymchwil gall ein cynlluniau THI adfywio economïau lleol yn wirioneddol, nid yn unig trwy wella sut mae trefi hanesyddol dihoeniad yn ymddangos ac yn teimlo ond trwy hyrwyddo cychwyn busnesau a chreu swyddi newydd.
“Rydym yn cydnabod y gwahaniaeth gallai wneud i’r dref lan Môr Fictoraidd hon a’i thrigolion gan ei gwneud yn lle mae pobl yn mwynhau byw a gweithio. Hefyd bydd yn annog mwy o ymwelwyr i ddychwelyd a denu rhagor o fuddsoddiad. Felly rydym wedi dyrannu grant datblygu i helpu CBSC i symud ei gynlluniau ymlaen er mwyn gweld rhoi’r swm cyfan o gyllid.
Yn awr bydd Swyddogion Cadwraeth yn llunio a chyflwyno cais manwl Cam 2 o fewn y 6 mis nesaf. Os yw’r cynllun hwn yn llwyddiannus, o ganlyniad gellir buddsoddi hyd at £4.04million mewn adeiladau ym Mae Colwyn dros gyfnod o 5 mlynedd. Y partneriaid cyllido yw C.B.S Conwy, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cadw a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
“Ein nod yw darparu gwelliannau wedi’u seilio ar beth mae pobl a busnesau lleol yn dymuno eu gweld. Roedd atborth o ddigwyddiadau ymgynghori cyhoeddus wedi amlygu bod Bae Colwyn angen adfywio. Mae cynlluniau tebyg wedi cael effaith arwyddocaol ym Mhenmaenmawr a Llanrwst ac rwy’n falch bydd Bae Colwyn yn elwa yn awr o’r atborth cadarnhaol hwn” meddai Peter Jones Hughes, Pen Swyddog Cadwraeth.
Bydd y cyllid Menter Treftadaeth Treflun yn ychwanegu dimensiwn newydd ac adnodd at yr adfywio bydd yn ehangu cwmpas ac effeithiau buddiol prosiectau unigol ac a fydd yn cynorthwyo’n benodol gydag atgyweiriadau ac ailddefnyddio arwynebedd llawr gwag, ailgyflwyno blaen siopau traddodiadol a chanopïau haearn bwrw, mae’r rhain yn elfennau hollbwysig ar gyfer adfywio.
Bydd yr atgyweirio a’r gwelliannau mawr a wneir ar y strydlun yn ategu rhagor ar waith cynharach ar adfywio Bae Colwyn a wnaethpwyd yn 2000 a phrosiectau adfywio eraill sydd wedi’u cynnwys dan ymbarél Bywyd y Bae.
Bydd y cynllun adfywio yn darparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant ar gyfer myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol lleol, mentrau cyhoeddus, cynlluniau gwobrwyo posibl, yn ogystal â gwella ymddangosiad y dref.
Meddai Phil Rafferty, Pennaeth Gwasanaethau Rheolaethol: “Rwy’n falch iawn o’r newyddion hwn, mae Bae Colwyn wedi bod yn ffodus iawn i gael y dyraniad cam cyntaf hwn, mae llawer o waith caled wedi mynd i mewn i’r cyflwyniad gan y Tîm Cadwraeth, yn benodol dylid cydnabod y gwaith a wnaethpwyd gan Peter Jones-Hughes a Huw Davies. Roedd Bae Colwyn yn un o lawer o drefi ar draws Prydain yn gwneud cais am ychydig dros £10million o bunnoedd o gyllid a dyma’r unig dref i fod yn llwyddiannus yng Nghymru eleni.
Gwybodaeth bellach
Cysylltwch â'r Swyddog Prosiect, Huw Davies, ar 01492 575285
Nodyn i olygyddion
- * Mae Menter Treftadaeth Tirlun (THI) HLF yn annog partneriaethau o sefydliadau lleol i wneud gwaith trwsio a gwaith arall i nifer o adeiladau, strwythurau neu fannau hanesyddol. Mae grantiau yn amrywio rhwng £500,000 a £2m. Hyd yn hyn, mae HLF wedi buddsoddi dros £200m mewn adfywio trefi sydd wedi dioddef dirywiad cymdeithasol ac economaidd difrifol.
- ** Golyga llwyddiant rownd gyntaf Menter Treftadaeth Treflun (THI) wedi’i glustnodi bod arian wedi’i roi o’r neilltu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF) ar gyfer y cynllun dan sylw. Mae cystadlu yn ystod y cam hwn yn galed, ac er nad yw’n gwarantu cyllid mae’n dynodi cefnogaeth gadarnhaol. Gall yr ymgeiswyr symud ymlaen i’r ail rownd wedyn a chyflwyno cais arall, wedi’i ddatblygu yn llawn i sicrhau’r dyraniad llawn. Weithiau, dyrennir cyllid datblygu hefyd yn y rownd gyntaf. Golyga’r lefel gynnar hon o ymrwymiad ariannol cryf bod mentrau THI yn gallu adeiladu partneriaethau cryf gyda’r sicrwydd bod cyllid ar gyfer eu cynllun os yw eu cynigion terfynol yn cwrdd â meini prawf y rhaglen yn llawn.