Mae’r buddsoddiad trwy Fenter Treftadaeth Treflun* CDL, a bydd yn galluogi
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i wella a gwarchod cymeriad unigryw'r dreftadaeth adeiledig o fewn canol masnachol y dref.
Gynt yn gyrchfan glan môr Fictoraidd ffyniannus, mae gan Fae Colwyn nifer o adeiladau nodweddiadol eu cyflwr wedi'u gwaethygu ar ôl blynyddoedd o ddirywiad cymdeithasol ac economaidd.
Nod y
Fenter Treftadaeth Treflun yw creu defnydd newydd a chynaliadwy i’r adeiladau er mwyn denu busnesau newydd, gwella’r cynnig manwerthu ac adeiladu hyder yn y gymuned leol.
Mae gwelliannau yn cynnwys adfer ansawdd hanesyddol a masnachol yr ardal gadwraeth Fictoraidd, canfod defnydd i adeiladau gwag a sefydlu canolfan i ymwelwyr gyda gofod arddangos yn cyflwyno’r prosiectau adfywio, canolfan ‘galw i mewn’ am gyngor cadwraeth a hanes lleol.
Mae eiddo sydd wedi ei glustnodi ar gyfer gwelliannau yn cynnwys yr hen adeilad Woolworth, adeilad celf gain siop Talu a Chludo A&A a Gwesty’r Central. Bydd gwaith adfer pellach yn gweld ailgyflwyno blaen siopau traddodiadol a chanopïau haearn, ac ar y cyfan fe ystyrir bod yna 37 o brosiectau blaenoriaeth dan y cynllun hwn.
Bydd y cynllun hefyd yn cysylltu â chyrsiau coleg lleol ble bydd modylau hyfforddiant seiliedig ar dreftadaeth yn cynnig gweithdai sgiliau mewn technegau adeiladu traddodiadol i helpu llenwi’r prinder sgiliau arbenigol a sicrhau cynhaliaeth hirdymor y dreftadaeth adeiledig yn yr ardal.
Meddai Jennifer Stewart, Pennaeth CDL yng Nghymru: “Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn falch i fod yn chwarae rhan allweddol yn helpu adfywio canol tref Bae Colwyn. Rydym wedi buddsoddi yn y cynllun hwn i gefnogi nod y Cyngor i drawsnewid y dref, gan wneud gwelliannau allweddol a gwaith atgyweirio a fydd yn annog busnesau newydd i fuddsoddi a denu ymwelwyr yn ôl.
“Rydym yn bositif y bydd y cynllun hwn yn helpu gwneud Bae Colwyn yn dref glan môr fywiog unwaith eto a thrwy wneud hynny yn hybu’r economi leol, a gwneud i’r gymuned leol deimlo’n fwy hyderus am y dyfodol unwaith eto.”
Bydd y gwaith adfer a gwelliannau sylweddol sydd ar y gweill dan y cynllun hwn ar gyfer canol y dref yn cyd-fynd â chynllun Menter Treftadaeth Treflun cynharach a dderbyniodd £600,000 ym mis Medi 1998 ac a ganolbwyntiodd ar yr ardal gadwraeth gyfan a phrosiectau adfywio eraill sy’n rhan o Bywyd y Bae+.
Bydd y cynllun diwygio yn darparu cyfleoedd swyddi a hyfforddiant i fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol lleol, mentrau cyhoeddus, cynlluniau gwobrau posibl, yn ogystal â gwella gwedd y dref.
Meddai’r Cynghorydd Phillip Evans, Aelod Portffolio’r Cyngor dros Lywodraeth a Rheoleiddio: “Mae’r cyhoeddiad yn newyddion arbennig i Fae Colwyn gan ei fod yn llunio elfen allweddol o ddadeni’r dref sy’n ychwanegu at fentrau llwyddiannus fel sefydlu canolfan digwyddiadau rhanbarthol ym Mharc Eirias a chynlluniau cyffrous eraill i adfywio’r glannau ar y bae. Bydd y Fenter yn hybu'r cymeriad Fictoraidd arbennig sy’n goroesi ledled Bae Colwyn ac yn arbennig o fewn ei ganolfan fasnachol, a’i wneud yn le cyffrous i’w ymweld.”
Gallai’r cynllun hwn arwain at fuddsoddiad o hyd at £4.04 miliwn mewn adeiladau ym Mae Colwyn dros gyfnod o bum mlynedd. Y partneriaid cyllid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cadw a Llywodraeth Cymru.
Gwybodaeth bellach
* Mae Menter Treftadaeth Treflun (MTT) CDL yn annog partneriaethau o sefydliadau lleol i gyflawni gwaith atgyweirio a gwaith arall i nifer o adeiladau, strwythurau neu ofodau hanesyddol. Mae grantiau yn amrywio o £500,000 i £2 filiwn. Hyd yn hyn, mae CDL wedi buddsoddi dros £214miliwn mewn adfywio trefi sydd wedi dioddef dirywiad cymdeithasol ac economaidd difrifol.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Helen Newton neu Kate Sullivan yn Equinox Communications ar 029 20 76 4100 neu
hlf@equinoxcommunications.co.uk