Newyddion
Ffotograffau a thoriadau papurau newydd o'r Ail Ryfel Byd - rhan o brosiect Bournemouth in Wartime. Llun Paul Close/Insight

 Angen gwirfoddolwyr i chwarae eu rhan i gynnal y Castell  

 21/07/2010 

 

Mae Roger Parmiter, Cadeirydd Cyfeillion Castell Ystumllwynarth, yn edrych am wirfoddolwyr i chwarae eu rhan mewn diogelu eu treftadaeth leol wrth i un o atyniadau ymwelwyr mwyaf poblogaidd Abertawe gael chwistrelliad o fywyd newydd.

Mae gwaith adfer sylweddol yn cael ei wneud ar y Castell, sy’n dyddio o’r 12fed ganrif, diolch i fuddsoddiad o £764,000 oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL). Bydd Dinas a Sir Abertawe’n defnyddio peth o’r grant i ariannu cyflogi Cydlynydd Cymuned y Castell er mwyn helpu i ddenu’r gymuned ehangach i gymryd rhan mewn rhaglen newydd o weithgareddau.

Wedi ei adeiladu gan William de Londres yn gynnar yn y 12fed  ganrif, mae ei wreiddiau yn y goncwest Normanaidd o Gymru ac mae yna olion gweladwy o’r 12fed ganrif hyd yn gynnar yn y 14eg ganrif. Mae’r adeilad hanesyddol yn cael ei gadw a chanolfan ddehongli newydd yn cael ei hadeiladu oddi fewn i floc y capel segur, fydd yn cynnig profiadau ymarferol i ymwelwyr. 

Y nod yw galluogi ymwelwyr i gael mynediad i 95 y cant o’r Castell a chynyddu’r nifer o ymwelwyr o 4,500 i 17,000 y flwyddyn. Ar hyn o bryd mae yna grŵp o 24 o wirfoddolwyr ymroddedig, yn amrywio rhwng 20 a 77 mlwydd oed, sy’n ymgymryd â chynnal y castell o ddydd i ddydd. Mae ar Gyfeillion Castell Ystumllwynarth angen mwy o wirfoddolwyr i helpu ymwelwyr i wneud y gorau o’u profiad trwy weithio fel tywyswyr teithiau, ymhlith rolau eraill.  

Mae Roger Parmiter, sydd wedi bod yn gwirfoddoli fel aelod o Gyfeillion Castell Ystumllwynarth am y 13 mlynedd ddiwethaf yn rhannu ei brofiad: “Roeddwn yn mynychu cwrs Hanes Cymru ym Mhrifysgol Abertawe ac roedd Castell Ystumllwynarth yn rhan o fy ngwaith prosiect dewisedig ac, yn dilyn cyfarfod â’r Cadeirydd,  cefais fy ngwahodd i ymuno. Dair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach dydw i ddim wedi edrych nôl. 

“Rydw i wedi cwrdd â phobl o bob rhan o’r byd trwy fy ngwaith fel gwirfoddolwr ac mae pob diwrnod yn wahanol. Byddai pob gwirfoddolwr newydd yn cael ei hyfforddi fel tywyswyr ar bob nodwedd o’r castell a’i hanes. Mae’r rhai sy’n ymweld am y tro cyntaf am wybod llawer o fanylion am hanes y castell a dyna lle gallwn ni helpu. Mae ymwelwyr tramor yn gofyn yn aml ‘Pwy oedd y Normaniaid?’  

“Ar wahân i dwristiaid rydyn ni hefyd yn cynnal teithiau wedi eu tywys ar gyfer ysgolion, grwpiau a sefydliadau amrywiol. Rydyn ni hefyd yn ail-greu golygfeydd canoloesol ar gyfer y cyhoedd gyda’n grŵp hanes byw – Gwerin o Gwyr.

“Gyda chymaint yn mynd ymlaen yn y castell, mae nawr yn amser gwych i ddod yn gysylltiedig. Mae yna gyfleon i gwrdd â, a gweithio gydag archeolegwyr, haneswyr ac ymchwilwyr a dysgu sgiliau newydd, Ond hefyd mae’n ffordd wych i gwrdd â phobl newydd ac rydyn ni yn cael llawer o hwyl!”

Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth CDL yng Nghymru: “Mae ymchwilwyr yn chwarae rhan hanfodol mewn gwireddu’r prosiectau rydyn ni’n buddsoddi ynddyn nhw. Mae ymwelwyr eisiau profi’n diwylliant, ein ffordd i fyw. Y bobl orau i ddehongli’n treftadaeth ar gyfer ymwelwyr yw’r dynion a’r merched sy’n byw yma ac sy’n ymfalchïo yn y dreftadaeth sy’n eu hamgylchynu’n ddyddiol. Mae’r bobl yma’n wirioneddol gyfoethogi profiad yr ymwelwyr ac rydyn ni’n hynod falch bod yna’r fath frwdfrydedd ymhlith Cyfeillion Castell Ystumllwynarth. Castell Ystumllwynarth yw’r castell mwyaf sydd ar agor i’r cyhoedd yn Abertawe a dyma’r cyfle i bobl leol chwarae eu rhan wrth fynd â’u treftadaeth leol ymlaen.” 

Dywedodd y Cynghorydd Graham Thomas, Aelod o'r Cabinet ar faterion Diwylliant, Hamdden a'r Diwydiant Ymwelwyr: “Mae’n hanfodol ein bod yn edrych i’r dyfodol yn Abertawe ond mae’r un mor bwysig ein bod yn dathlu’n treftadaeth falch a dyna pam y dylid croesawu cynlluniau o’r math yma.  

“Castell Ystumllwynarth yw un o’n trysorau hanesyddol ac mae’r cynllun yma’n golygu y bydd yr atyniad yn cael ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac yn cynnig i ymwelwyr brofiad sy’n gweddu i’r 21ain Ganrif.”

Am wybodaeth sut y gallwch gymryd rhan cysylltwch â: 
Y Cadeirydd: roger.parmiter@ntlworld.com a'r Ysgrifennydd: daipennant@hotmail.com

- Diwedd -

Gwybodaeth bellach 
Cysylltwch â Kate Sullivan neu Helen Newton ar 029 2076 4100 neu anfonwch e-bost at hlf@equinox-pr.co.uk