Newyddion
Ffotograffau a thoriadau papurau newydd o'r Ail Ryfel Byd - rhan o brosiect Bournemouth in Wartime. Llun Paul Close/Insight

 Datganiad Cronfa Dreftadaeth y Loteri - Pier Victoria Bae Colwyn, Conwy 

 03/04/2012 

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi asesu cais £4.9miliwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy tuag at y gwaith o adfer Pier Victoria Bae Colwyn, sy'n Bier rhestredig Gradd II. Ar ôl dwys ystyried, penderfynwyd nad oedd y Gronfa'n gallu cefnogi'r prosiect. 

Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: "Roedd cynlluniau creadigol y Cyngor i drawsnewid Pier Victoria Bae Colwyn a'i bafiliwn Art Deco, i greu canolfan dwristiaeth a chymunedol angenrheidiol, wedi creu argraff dda arnom.

"Roedd cyfarfod Bwrdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi’i gordanysgrifio y mis hwn. Roedd ansawdd y ceisiadau o safon eithriadol o uchel, ond yn anffodus, nid oedd gennym ddigon o arian i gefnogi'r holl geisiadau a ystyriwyd y diwrnod hwnnw. Byddwn yn cyfarfod â chynrychiolwyr o'r Cyngor maes o law er mwyn trafod y ffordd orau ymlaen ar gyfer y prosiect hwn."

Cefndir

  • Hyd yn hyn, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi dyfarnu cyfanswm o £8.5 miliwn i Gonwy.
  • Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi derbyn grantiau blaenorol hyd at gyfanswm o £5.8miliwn ar gyfer nifer o brosiectau Menter Treftadaeth Treflun a phrosiectau parciau gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Nodiadau i olygyddion
Gan ddefnyddio arian a godir drwy'r Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn cynnal ac yn trawsnewid amrywiaeth o dreftadaeth i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol gymryd rhan ynddynt, dysgu oddi wrthynt, a'u mwynhau. Rydym yn buddsoddi ym mhob rhan o'n treftadaeth amrywiol, o amgueddfeydd, parciau a llefydd hanesyddol i archeoleg, yr amgylchedd naturiol a thraddodiadau diwylliannol. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cefnogi mwy na 30,000 o brosiectau gan glustnodi dros £4.5 biliwn ledled y DU, yn cynnwys mwy na 2,000 o brosiectau sydd werth dros £224 miliwn yng Nghymru. www.hlf.org.uk

Gwybodaeth bellach
Cysylltwch â Katie Owen, Swyddfa'r Wasg Cronfa Dreftadaeth y Loteri, ar: 020 7591 6036 rhif ffôn symudol: 07973 613 820.