Mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu rhaglen gynhwysfawr o hyfforddi i gyfarparu gwirfoddolwyr newydd a phresennol, yn cynnwys pobl di-waith tymor hir, gyda’r sgiliau adeiladu treftadaeth a’r technegau rheoli camlesi sydd eu hangen i gwblhau’r gwaith adfer.
Bydd amcangyfrif o 270 o wirfoddolwyr yn cymryd rhan yn y prosiect, yn gweithio 6,510 o ddyddiau gwirfoddoli gyda 150 yn cymryd rhan mewn hyfforddi a 50 pellach yn derbyn hyfforddiant wedi ei achredu. Yr amcan yw gweld rhwyfo, pysgota a chanŵio’n digwydd ar hyd y rhan yma o ddyfrffordd unwaith eto er budd ymwelwyr a phobl leol.
Dywedodd y Dr Manon Williams, Cadeirydd CDL yng Nghymru: “Mae camlesi Cymru’n ased treftadaeth bwysig ar gyfer y wlad ac yn hafan i fywyd gwyllt. Mae hwn yn brosiect ffantastig gyda phobl leol wrth ei ganol. Trwy hyfforddi gwirfoddolwyr mewn sgiliau adfer ac atgyweirio gallwn wneud yn siŵr bod y gamlas yn cael ei chynnal a’i gwerthfawrogi ymhell i’r dyfodol. Mae’n wych gweld cynifer o wirfoddolwyr eisiau bod yn rhan o’r cynllun i agor y rhan hanesyddol yma o’r gamlas unwaith eto er mwyn i drigolion Torfaen ac ymwelwyr ei fwynhau fydd, yn ei dro, yn dod â buddiannau i’r economi leol.”
Cafodd camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ei hadeiladu mewn nifer o gyfnodau yn ystod yr 18fed ganrif hwyr a’r 19eg ganrif gynnar i gludo glo, mwyn haearn a chalch i’r dociau yng Nghasnewydd. Gan ddechrau bywyd fel dwy gamlas ar wahân, cysylltwyd y ddwy yn 1812. Ar y pryd, roedd y ffyrdd yn wael a chludo ar ddŵr oedd y ffordd rataf a’r mwyaf effeithiol i symud nwyddau.
Daeth y defnydd o gamlesi i gludo nwyddau i ben yn ail hanner yr 20fed ganrif a chafodd y rhan yma o’r gamlas ei gadael yn ffurfiol yn 1962. Bydd y prosiect hwn yn adfer y rhan 1.5km o hyd o’r gamlas i’r de o Gwmbrân rhwng Pont Lôn Tŷ Coch a Lôn Pentre, sy’n cynnwys cyfres o wyth loc a phump o bontydd rhestredig Gradd II.
Yn ôl British Waterways*, mae 13 miliwn o bobl yn ymweld â dyfrffyrdd bob blwyddyn, mae bron 20 miliwn o ymweliadau beiciau’n cael eu gwneud i gamlesi ac gyda 35,000 o gychod ar y dŵr ar draws y DU. Mae camlesi ac afonydd yn brysurach nawr nag a oedden nhw ar anterth y chwyldro diwydiannol.
Dywedodd Richard Dommett MBE, Rheolwr Adfywio yn Ymddiriedolaeth Camlas Sir Fynwy Brycheiniog, sydd wedi bod yn gweithio’n uniongyrchol gyda gwirfoddolwyr cymunedol ar Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog am y naw mlynedd ddiwethaf: “Mae’r gwirfoddolwyr yn cydnabod y potensial mae adfer y gamlas yn ei gynnig i gymunedau lleol, gan gyfrannu’n gadarnhaol i’r adfywiad economaidd a chymdeithasol a chadwraeth y dreftadaeth leol.
“Mae’r bartneriaeth gref sydd wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd rhwng yr awdurdodau lleol a’r Ymddiriedolaeth wedi pwysleisio awydd y gwirfoddolwyr lleol i weld y gamlas yn cael ei chadw a’i gwella fel dyfrffordd gyfan o Aberhonddu i Gasnewydd a Chwmcarn yn cynnwys mynediad yn y dyfodol y tu hwnt i Fôr Hafren.”
Bydd yr ariannu hefyd yn gwella’r dehongliad o’r gamlas yn cynnwys gwefan gymunedol, taflenni teithiau cerdded a chylchlythyrau. Bydd ysgolion lleol yn cael cyfle i gymryd rhan trwy ddefnyddio paciau addysgol yn cynnwys CD amlgyfrwng a chyfarpar dysgu wedi eu cysylltu â’r cwricwlwm cenedlaethol. Bydd uwch swyddog prosiect a goruchwyliwr gwirfoddolwyr yn cael eu cyflogi i reoli’r rhaglen o weithgaredd.
Dywedodd y Cynghorydd Bob Wellington, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen: “Mae’r gamlas yn rhan bwysig o dreftadaeth De Ddwyrain Cymru. Yn 2012 mae’r gamlas yn dathlu ei daucanmlwyddiant a bydd y prosiect Dyfrffyrdd yn darparu gwaddol ac adnodd parhaol ar gyfer cymunedau lleol yng Nghwmbrân ac ar gyfer ymwelwyr i’r ardal.”
Bydd y prosiect yn dilyn llwyddiant y prosiect Fourteen Locks ger Casnewydd a gafodd ei gefnogi gan fuddsoddiad o £700,000 oddi wrth CDL. Cafodd y prosiect ei gwblhau yn 2010 ac mae nawr yn croesawu 53,000 o ymwelwyr y flwyddyn i’r Ganolfan Camlesi yng Nghasnewydd a nifer yn fwy i’r hyn gaiff ei ystyried i fod yn gamlas harddaf Prydain.
* Cymerwyd yr ystadegau o British Waterways
Gwybodaeth bellach
Am fwy o fanylion cysylltwch â Kate Sullivan neu Elinor Evans ar 029 20764100 neu e-bostiwch hlf@equinoxcommunications.co.uk