Newyddion
Ffotograffau a thoriadau papurau newydd o'r Ail Ryfel Byd - rhan o brosiect Bournemouth in Wartime. Llun Paul Close/Insight

 Digwyddiad Ein Holl Straeon yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru Mehefin 16, 2012 

 15/06/2012 

Ydych chi wedi meddwl erioed sut le oedd eich ardal leol yn y gorffennol? Neu sut oedd pobl yn eich cymuned yn arfer byw? Nawr yw’ch cyfle i ddarganfod hyn a helpu i ddod â straeon Cymry’n fyw. 

Bydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) yn nigwyddiad The Great British Story y BBC yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan y penwythnos hwn (Mehefin 16) i gyhoeddi manylion rhaglen o grantiau gwerth £1 miliwn ar draws y DU ar gyfer prosiectau treftadaeth lleol.

Mae Ein Holl Straeon wedi cael ei gynllunio i helpu cymunedau lleol i archwilio a dathlu eu gorffennol mewn cefnogaeth i ‘The Great British Story – A People’s History'. Yn cael ei gyflwyno gan Michael Wood ar BBC Two, mae’r gyfres newydd gyffrous yn archwilio hanes ein cenedl trwy lygaid pobl gyffredin dros y 1,600 mlynedd ddiwethaf ac i gyd-fynd â hyn cynhelir sioe deithiol a drefnir gan BBC Dysgu yn ystod Mis Mai – Mis Gorffennaf gan roi cyfle unigryw i ymwelwyr i ddarganfod mwy am eu hanes personol yn ogystal â hanes eu hardal leol.

Mae grwpiau lleol yn cael eu hannog i fynd i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin rhwng 10am-5pm Ddydd Sadwrn (Mehefin 16) lle bydd aelodau o dîm Cymru CDL wrth law i gynnig cyngor a gwybodaeth ynglŷn â sut mae gwneud cais am ariannu oddi wrth y loteri. 

Mae Ein Holl Straeon yn gynllun ariannu newydd, syml, gyda grantiau ar gael rhwng £3,000 - £10,000 – wedi ei ddatblygu fel y gall pawb gymryd rhan yn eu treftadaeth. O ymchwilio i dirnodau hanesyddol lleol, dysgu mwy am arferion a thraddodiadau i bori mewn archifau i ddarganfod gwreiddiau enwau strydoedd a llefydd – bydd y rhaglen newydd hon yn rhoi cyfle i bawb i archwilio’u treftadaeth a rhannu’r hyn maen nhw’n ei ddysgu gydag eraill.

Dywedodd Liz Girling, Rheolwr Datblygu CDL yng Nghymru: “Un o’n amcanion allweddol yw helpu grwpiau i archwilio’r straeon, y bobl a’r llefydd sy’n bwysig iddyn nhw a sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar hanes.

“Gydag amrywiaeth mor eang o dreftadaeth ar draws Cymru, bydd y cynllun grant newydd hwn yn rhoi cyfle i bawb i ddarganfod a rhannu straeon hynod ddiddorol eu hardal, a helpu i’w dogfennu er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu eu harchwilio. 

“Mae’r digwyddiad am ddim hwn a drefnir gan BBC Dysgu i arddangos eu hadnoddau yn gyfle gwych i bobl alw heibio a dysgu sut mae gwneud cais am ariannu. Rydyn ni’n edrych ymlaen i gymaint o bobl ag sy’n bosibl y Dydd Sadwrn hwn, i gael profiad ymarferol o weithgareddau, gweithdai a sgyrsiau ac yn fwyaf oll, darganfod beth sydd ar gael iddyn nhw trwy ein cynllun grantiau bach newydd  a rhaglenni amrywiol grantiau eraill.”  

Dywedodd Abigail Appleton, Pennaeth Comisiynu ar gyfer BBC Dysgu: "Bydd cael CDL gyda ‘Ein Holl Straeon’ yn nigwyddiadau cyhoeddus BBC Dysgu yn rhoi modd pwerus i grwpiau cymunedol i fynd â’u teithiau dysgu ymhellach. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at gael gweld beth gaiff ei ddarganfod.”

I ddarganfod mwy am y grantiau yma a sut mae gwneud cais amdanyn nhw, ewch i stondin CDL yn Sefydliad Oakdale yn Sain Ffagan Ddydd Sadwrn Mehefin 16, neu ewch i dudalen Ein Holl Straeon.
 
I ddarganfod mwy am ddigwyddiadau The Great British Story, y gyfres deledu ac i lawrlwytho Pecyn Ffeithiau The Great British Story Fact Pack am ddim ewch i wefan BBC

Nodiadau i olygyddion

BBC Dysgu
Mae BBC Dysgu yn trefnu nifer o ddigwyddiadau The Great British Story ar draws y DU. Bydd CDL yn bresennol mewn digwyddiadau arddangos gyda chyngor i gefnogi ceisiadau dan Ein Holl Straeon. Bydd y digwyddiadau hyn yn cynnig cyfleon i bobl ddarganfod eu lle mewn hanes, dysgu am eu cyfenwau a dod o hyd i hanes eu hardal leol. Mae digwyddiadau’r BBC a’i bartneriaid yn cael eu rhestru ar dudalen Pethau i’w Gwneud y BBC.

Grantiau Ein Holl Straeon
Derbynnir ceisiadau oddi wrth amrywiaeth eang o sefydliadau gan gynnwys grwpiau cymunedol, sefydliadau treftadaeth ac elusennau.  Mae’r broses ymgeisio’n syml:

  • Ewch i dudalen rhaglen Ein Holl Straeon
  • Rhowch fanylion eich sefydliad
  • Atebwch gyfres o gwestiynau syml yn cynnwys beth ydych chi am ei wneud, sut ydych chi am ei wneud a faint o arian fyddwch chi ei angen.
  • Rhaid o geisiadau gael eu cyflwyno ar-lein erbyn 31 Gorffennaf 2012 a bydd ymgeiswyr yn derbyn penderfyniad erbyn Mis Hydref 2012.

Help prifysgol arbenigol ar gyfer eich prosiect
Mae CDL yn gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion ar hyd a lled y DU i gynnig cefnogaeth i’r rhai sy’n ymgeisio am grant gyda’u gweithgareddau. Gallai hyn gynnwys help oddi wrth arbenigwr hanes lleol, archeolegwr, neu archifydd. Mae’r help hwn wedi cael ei ddarparu trwy raglen Clymu Cymunedau AHRC, gan mai eu bwriad yw deall trwy ymchwil natur newidiol cymunedau a rôl cymunedau mewn cynnal a gwella’n ansawdd bywyd. Gwnaed galwad am bobl i gymryd rhan ar ddiwedd 2011 a dewiswyd 21 o sefydliadau yn dilyn adolygiad cymheiriaid.

Gwirfoddolwyr o brosiect Hanes Pobl Croen Du Swydd Northampton. Llun Mark Chilvers 
Gwirfoddolwyr o brosiect Hanes Pobl Croen Du Swydd Northampton. Llun Mark Chilvers