Bydd yr ariannu’n help i adfywio canol tref Cefn Mawr, ailgyflwyno cynefin y wiwer goch ar Ynys Môn a gweld cynlluniau’n datblygu ar gyfer Amgueddfa Forwrol Llŷn yn Nefyn.
Dywedodd Dan Clayton Jones, Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri: “Mae’r tri phrosiect yma’n arddangos ehangder ein treftadaeth yng Ngogledd Cymru, o’n hadeiladau hanesyddol a’n trefi arbennig i’n bywyd gwyllt a’n hanes morol cyfoethog."
“Bydd ein hariannu’n helpu i ddiogelu’r hyn sy’n gwneud y rhan hon o’r byd yn unigryw tra’n creu swyddi a rhoi cyfle i bobl i gymryd rhan a datblygu sgiliau newydd o dechnegau adeiladu traddodiadol i reoli gwefannau."
“Rydyn ni wedi cefnogi’r prosiectau hyn mewn cydnabyddiaeth o’r gwahaniaeth y byddan nhw’n ei wneud i greu cymunedau cyffrous, denu mwy o ymwelwyr i’r ardal a helpu buddsoddiad pellach.”
Menter Treftadaeth Treflun Cefn Mawr, Wrecsam
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi derbyn grant o £862,200 ar gyfer ail ran ei Fenter Treftadaeth Treflun* (MTT) i adfywio canol tref fasnachol Cefn Mawr a chreu pentref bywiog ar gyfer twristiaeth a siopa arbenigol.
Roedd tref Cefn Mawr yn ddiwydiannol iawn trwy gydol yr 18fed a’r 19eg ganrif, diolch i ddyddodion helaeth o haearn, tywodfaen a glo. Cafodd Camlas Llangollen gyfagos gyda Thraphont Ddŵr Pontcysyllte eu dynodi’n Safle Treftadaeth Byd yn 2009 ac fe’u cydnabyddir yn gampwaith beirianyddol.
Bydd y cynllun yn adeiladu ar lwyddiant rhan gyntaf yr MTT, y gwnaeth CDL fuddsoddi £1M ynddo ym Mis Medi 2005. Yn ystod y cyfnod cyntaf cwblhawyd 18 o brosiectau adeiladu, creu 13 o unedau preswyl newydd, adnewyddu 12 o flaenau siopa traddodiadol. Cychwyn ar chwe busnes newydd, 1,846 metr sgwâr o arwynebedd llawr yn dod yn ôl i gael eu defnyddio, gyda 27 o swyddi llawn amser wedi eu creu a 25 wedi eu diogelu. Yn ychwanegol at hyn, mynychodd 500 o bobl gynllun hyfforddi sgiliau.
Mae’r grant newydd yn hanfodol i gwblhau atgyweirio a chadw’r adeiladau blaenoriaethol sydd ar ôl oddi fewn i’r ardaloedd allweddol, Crane Street, Well Street a Hill Street i atgyfnerthu’r cysylltiadau rhwng y dref a’r Safle Treftadaeth Byd. Bydd hefyd yn helpu i annog mwy o fusnesau newydd i gychwyn arni, cynnal y lefel newydd o falchder cymunedol a denu cynulleidfa ehangach i dwristiaeth.
Amcangyfrifir y bydd 18 o adeiladau eraill yn cael eu hadnewyddu, gan greu 25 o swyddi llawn amser ac yn diogelu’r un nifer. Bydd hyfforddiant sgiliau ychwanegol yn cael ei gynnig mewn partneriaeth â Phartneriaeth Gymunedol Dyffryn Dyfrdwy i 180 o bobl a chontractwyr lleol gan ganolbwyntio ar bwyntio morter calch, ffenestri hanesyddol ac atgyweirio gwaith cerrig, bric a theracota er mwyn sicrhau y gellir cynnal yr adeiladau yn y dyfodol.
Bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio o ddarparu cyfleon i’r gymuned i fod yn rhan o’u treftadaeth leol trwy ddigwyddiadau dangos a dweud, teithiau cerdded, a sgyrsiau a dyddiau agored, gyda’r bwriad o greu arddangosfa treftadaeth barhaol yn y Cefn.
Mae Derek Evans, 53, yn rhedeg dau fusnes yng Nghefn Mawr. Fel rhan o Gyfnod Un, cafodd ei siop, Derek’s Cycles, flaen siop newydd yn ogystal â gwelliannau a wnaed i’r eiddo preswyl uwchben. Dywedodd: “Mae’r cynllun wedi gwneud gwahaniaeth mawr i olwg gyffredinol y pentref ac wrth helpu o annog pobl i ddod yn ôl i’r ardal. Mae’n wych gweld busnesau newydd yn agor ac ymwelwyr ar y stryd fawr unwaith eto."
“Yn ystod y cyfnod ariannol anodd yma, mae masnach wedi bod i fyny ac i lawr, ond diolch i’r gwaith ar y fflatiau uwchben y siop, yn cynnig lle braf i bobl leol fyw, erbyn hyn mae gen i denantiaid rheolaidd sy’n helpu i sicrhau dyfodol fy musnes yn ystod y cyfnodau gwael."
“Yn bersonol allwn i ddim bod yn fwy cadarnhaol am y cynllun ac fe fyddwn yn argymell unrhyw un sydd am sefydlu busnes neu wella’u siop bresennol i ddod yn rhan o Gyfnod Dau. Fe fyddai’n bendant yn edrych ar y posibilrwydd o newid fy siop arall, Derek Motor Factors, i fod yn debycach i’r siop feiciau mewn cydnabyddiaeth o’r gwahaniaeth y gall ei wneud. Gyda theulu yn yr ardal rydw i’n awyddus i weld y pentref yn ffynnu a dyma’r hwb oedd ei angen i wireddu hyn.”
Mae cyfanswm y buddsoddiad a sicrhawyd trwy arianwyr yn y sector breifat ar gyfer y ddau gynllun yn cael ei amcangyfrif i fod yn £4.4 miliwn.
Dywedodd y Cynghorydd Warren Coleman, cadeirydd Partneriaeth Adfywio Cefn Mawr a Menter Treftadaeth Treflun: “Gwnaeth y chwistrelliad cyntaf o arian y loteri wahaniaeth anferth i’r pentref, gan helpu i anadlu bywyd newydd i adeiladau allweddol a chreu cyfleon ar gyfer preswylwyr, grwpiau cymunedol a busnesau."
“Mae’r ffaith ein bod wedi sicrhau ariannu pellach yn newyddion ffantastig. Ac rydw i’n hyderus y gallwn barhau i adeiladu ar ein llwyddiant, diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri."
“Mae popeth wir yn dod at ei gilydd yng Nghefn Mawr. Yn ogystal â’r prosiect yma, rydyn ni wrthi’n adeiladu archfarchnad fawr yn ogystal â dechrau creu cyfleon busnes trwy Safle Treftadaeth Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte.”
Roedd y Cynghorydd Rodney Skelland, aelod arweiniol Cyngor Wrecsam dros adfywio a llywodraethu corfforaethol. Ychwanegodd: “Mae’r prosiect yng Nghefn Mawr yn cynrychioli buddsoddiad yng ngorffennol yn ogystal â dyfodol y pentref."
“Bydd yr hwb ariannol olaf yma’n sicrhau fod y gymuned yn parhau i gael budd oddi wrth y cyfleon newydd a grëwyd trwy adnewyddu siopau, cartrefi ac adeiladau cyhoeddus allweddol sydd angen buddsoddiad."
“Mae hwn hefyd yn gyfle gwych i Gefn Mawr i gyrraedd ei botensial wrth ddarparu ar gyfer ymwelwyr ar y Safle Treftadaeth Byd gyfagos.”
Y Prosiect Wiwer Goch Ynys Môn – Hafan Ynysig
Rhoddodd CDL £300,000 i Ymddiriedolaeth Cyfeillion Gwiwerod Coch Môn i ddiogelu cynefin y wiwer goch ar Ynys Môn a denu pobl leol i gymryd rhan weithredol mewn diogelu’r wiwer goch.
Y wiwer goch yw un o’r mamaliaid sydd mewn mwyaf o berygl yn y DU ac mae ,mewn perygl o ddiflannu’n llwyr os na chymerir y camau priodol. Bydd y prosiect yn adeiladu ar fenter gadwraeth dair blynedd ar ddeg llwyddiannus iawn ar yr ynys a bydd yn sefydlu Ynys Môn fel hafan ynysig unigryw i wiwerod coch gyda’r boblogaeth uchaf yng Nghymru.
Bydd y gwaith a wneir yn adfer poblogaeth o wiwerod coch i erddi, parciau a choetiroedd ar draws yr ynys. Bydd yr ariannu hefyd yn cefnogi sesiynau hyfforddi ymarferol ei mwyn i bobl leol gael dysgu am y mamal Prydeinig eiconig i sicrhau y gall cenedlaethau i ddod eu gwerthfawrogi a rhyngweithio gyda nhw.
Mae’r newyddion wedi ei groesawu gan Iolo Willams, Darlledwr ac Arbenigwr ar Fywyd Gwyllt a Noddwr yr Ymddiriedolaeth. Dywedodd: “Mae’r gwaith gwych sydd wedi ei wneud ar Ynys Môn yn cynrychioli cyfle gorau’r wiwer goch i oroesi yng Nghymru. Dyma’r unig boblogaeth sy’n cynyddu yn y wlad a gydag ariannu pwrpasol, rydw i’n siŵr y gall y wiwerod ymestyn i bob cornel o’r ynys.”
Bydd gweithdai cyffredinol yn cael eu cynnal ar fonitro gweithgaredd gwiwerod coch i annog pobl leol i roi gwybod os gwelir gwiwer goch ar hyd a lled Ynys Môn ac i gymryd rhan trwy ddefnyddio gorsafoedd bwydo ac arolygon o wallt i gasglu gwybodaeth generig.
Bydd gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol yn llwyddiant y prosiect hwn ac mae’r Cyfeillion yn gobeithio denu 30 o wirfoddolwyr gweithgar ychwanegol i dderbyn hyfforddiant llawn. Mae cyfleon yn amrywio o archwilio a gwneud bocsys nythu i greu fideos a diweddau cyfryngau cymdeithasol i roi sgyrsiau a chynnal teithiau cerdded.
Bydd byrddau a thaflenni dehongli, gwefan, dyddiadur fideo a thudalennau cyfryngau cymdeithasol yn helpu ysgolion lleol i gael y newyddion diweddaraf am y prosiect yn ogystal â chynnig gwybodaeth berthnasol i ymwelwyr a grwpiau sydd â diddordeb oddi ar yr ynys.
Mae yna gyfle gwych i’r prosiect yma i fod yn brosiect enghreifftiol yn nhermau gosod safonau ar gyfer rheoli poblogaethau o wiwerod ar hyd a lled y DU gyfan.
Dywedodd Dr Peter Lurz, arbenigwr rhyngwladol ar wiwerod coch: “Mae Sir Fôn yn eithriad yn y DU gan ei bod yn un o’r ychydig fannau prin hynny lle mae wiwerod coch wedi adfer ac ehangu eu rhychwant o ganlyniad i brosiect ‘Cyfeillion Wiwerod Coch Ynys Môn a chefnogaeth leol sylweddol. Mae’r gwaith ar Ynys Môn yn y gorffennol wedi cynnig gwersi gwerthfawr a gobaith i gadwraeth y wiwer goch yn y DU gyfan. Mae’r gwaith arfaethedig yn cynrychioli cyfle anferth i adeiladu ar wybodaeth a phrofiad gwyddonol, sy’n ganlyniad i waith caled, i arddangos sut gall cadwraeth y wiwer goch fod yn llwyddiannus.”
Dywedodd Dr Craig Shuttleworth, arbenigwr lleol ar y wiwer goch ac arweinydd Prosiect Wiwer Goch Sir Fôn: “Mae’n grŵp cymunedol wrth eu bodd eu bod wedi derbyn grant CDL. Rydyn ni wedi treulio dwy flynedd yn gwrando ar bobl leol ac yn trafod sut y gall y gymuned gymryd rhan mewn cadwraeth wiwerod. Y canlyniad yw amrywiaeth ffantastig ac arloesol o weithgareddau ymarferol a digwyddiadau fydd yn caniatáu i bobl leol nid yn unig i greu lloches ar yr ynys i wiwerod coch, ond i gasglu amrywiaeth o wybodaeth wyddonol i’n helpu i ddeall yn well sut mae diogelu wiwerod coch yn genedlaethol.”
Amgueddfa Forwrol Llŷn
Mae CDL hefyd wedi rhoi pas rownd gyntaf * o £319,000 i ymddiriedolwyr Amgueddfa Forwrol Llŷn er mwyn gwella profiad dysgu pobl leol ac ymwelwyr wrth ddysgu am hanes morwrol unigryw Penrhyn Llŷn.
Mae pas rownd gyntaf yn golygu y gall Amgueddfa Forwrol Llŷn nawr symud ymlaen i ail gam proses gais CDL, ac mae ganddyn nhw hyd at ddwy flynedd i gyflwyno cynlluniau mwy manwl er mwyn gweld y £319,000 o gefnogaeth yn cael ei wireddu. Cafodd £39,700 o arian datblygu ei roi gan CDL i’w helpu i greu’r cynlluniau yma.
Mae pysgota wedi chwarae rhan bwysig erioed ar Benrhyn Llŷn ac yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif, daeth Nefyn a Phorthdinllaen yn enwog am eu penwaig, cymaint felly nes bod tri phennog yn ymddangos ar arfbais Nefyn.
Mae’r prosiect yn amcanu i gadw ac addasu cartref gradd ll rhestredig yr amgueddfa, Eglwys Santes Fair yn Nefyn er mwyn creu man mwy addas i storio ac arddangos y casgliad o arteffactau sy’n arwyddocaol yn rhanbarthol. Mae’r casgliad yn cynnwys archifau ffilm, celfi o longddrylliadau, eitemau oedd yn berchen i gapteiniaid a morwyr yn ogystal â modelau manwl o longau.
Mae’r ymddiriedolwyr yn cynllunio i ymestyn y rhwydwaith bresennol o wirfoddolwyr a darparu hyfforddiant mewn sgiliau megis hanes llafar a thechnoleg gyfrifiadurol. Byddai’r arian hefyd yn cefnogi cyflogi cydlynydd prosiect i ddenu amrywiaeth eang o bobl i fod yn rhan o, ac i ddathlu eu treftadaeth forwrol a diwylliannol lleol trwy well dehongliadau a gweithgareddau megis teithiau cerdded wedi eu tywys.
Gyda tharged o 3,000 o ymwelwyr y flwyddyn, gobeithir y bydd yr Amgueddfa’n ychwanegu at yr hyn a gynigir i dwristiaid yn yr ardal a helpu i roi hwb i’r economi leol.
Nodiadau i Olygyddion
* Mae Menter Treflun Treftadaeth CDL yn annog partneriaethau ymhlith sefydliadau lleol i ymgymryd â gwaith atgyweirio a gweithiau eraill i nifer o adeiladau, strwythurau neu fannau hanesyddol. Mae grantiau’n amrywio o £500,000 i £2m. Hyd yma, mae CDL wedi buddsoddi dros £200m yn adfywio trefi sydd wedi dioddef o ddirywiad cymdeithasol ac economaidd difrifol.
** Mae pas rownd gyntaf yn golygu bod y prosiect yn cwrdd â’n meini prawf ar gyfer derbyn ariannu ac rydyn ni’n credu bod ganddo’r potensial i wireddu buddiannau a gwerthoedd o ansawdd uchel am yr arian Loteri. Roedd y cais mewn cystadleuaeth â phrosiectau eraill y gellid eu cefnogi, felly mae pas rownd gyntaf yn gefnogaeth o’r cynigion amlinellol. Wedi derbyn pas rownd gyntaf mae gan y prosiect nawr hyd at ddwy flynedd i gyflwyno cynigion wedi eu datblygu’n llawn er mwyn cystadlu am ariannu pendant.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Kate Sullivan / Helen Newton yn Equinox Communications, ar Ffôn: (029) 2076 4100 E-bost: kate@equinoxcommunications.co.uk / helen@equinoxcommunications.co.uk