Mae
Cymdeithas Dai Merthyr Tudful yn arwain y prosiect £8 miliwn i atgyweirio ‘r adeilad 112 mlwydd oed, i’w ddefnyddio fel canolfan ddiwylliant a diwydiannau creadigol i’r gymuned leol, ac fel canolbwynt cymdeithasol i’r dref.
Cafodd Graham Construction eu penodi fel prif gontractwr yr adferiad, ac mae gan y cwmni dîm ar y safle ym Merthyr Tudful fel y gellir dechrau ar y gwaith ar unwaith.
Mae’r prosiect wedi derbyn cefnogaeth eisoes gan Raglen Blaenau’r Cymoedd Llywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cadw a Chyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful.
Mae buddsoddiad yr UE yn cwblhau’r pecyn cyllido sydd ei angen er mwyn i’r gwaith ddechrau ar yr adeilad cofrestredig gradd II* fu’n adfail am dros 10 mlynedd.
Meddai Alun Davies, Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd: "Dwi’n falch iawn ein bod wedi llwyddo i gefnogi’r fenter hon gyda chyllid yr UE er mwyn i’r gwaith ar y prosiect cyffrous hwn ddechrau, fydd yn rhoi balchder newydd i’r gymuned, ac yn dod â rhagor o gyfleoedd economaidd a chymdeithasol i’r bobl sy’n byw yn yr ardal."
Pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau, bydd gan yr adeilad fydd wedi’i adnewyddu dros 2,500 metr sgwâr o arwynebedd llawr, gan gynnwys swyddfeydd, lleoliadau ymarfer, stiwdios ac ystafelloedd ar gyfer y celfyddydau gweledol, perfformio a’r cyfryngau. Bydd yn cynnal digwyddiadau fel cyngherddau cerddorol, perfformiadau theatr a dawns ac arddangosfeydd.
Meddai Karen Dusgate, Prif Weithredwr Cymdeithas Dai Merthyr Tudful: "Rydyn ni’n teimlo bod hwn yn lwyddiant anhygoel – i sicrhau’r cyllid rydyn ni ei angen o’r diwedd fel ein bod mewn sefyllfa i ddechrau ar y cyfnod adeiladu. Bellach gall y gwaith cyffrous ddechrau. Caiff y bobl leol weld sut y byddwn ni’n trawsnewid yr adeilad gwych hwn fel ei fod yn gatalydd i adfywio canol y dref."
Mae CDL wedi buddsoddi £2M i mewn i'r prosiect, dywedodd Dr Manon Williams, Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri: "Mae'n wych gweld y darn olaf o gyllid wedi'i sicrhau felly gall gwaith yn awr yn dechrau ar ddod â'r adeilad hanesyddol yn ôl yn fyw, tra'n ymateb i angen y gymuned ar gyfer canolfan ddiwylliannol bwrpasol."
Meddai Martin Flynn, Rheolwr Prosiect Graham Construction: "Mae’n anrhydedd ac yn fraint fawr i fod yn gweithio gyda Cymdeithas Dai Merthyr Tudful i adfer yr adeilad gwych a hanesyddol hwn i’w hen ogoniant."