Newyddion
Ffotograffau a thoriadau papurau newydd o'r Ail Ryfel Byd - rhan o brosiect Bournemouth in Wartime. Llun Paul Close/Insight

 Enwebu prosiectau Achosion Da yng Nghymru am wobrau Loteri Genedlaethol 2012 

 07/02/2012 

Mae'r ymgyrch wedi dechrau i ganfod hoff brosiectau'r DU a ariennir gan y Loteri Genedlaethol. 

Mae cyflwynydd rhaglen y Loteri Genedlaethol a’r fam newydd, Jenni Falconer, yn galw ar bobl Cymru i enwebu Achosion Da lleol ar gyfer Gwobrau'r Loteri Genedlaethol 2012 - yr ymgyrch flynyddol i ganfod hoff brosiectau'r DU a ariennir gan y Loteri.  

Mae ffigurau newydd yn datgelu bod dros £117miliwn o arian Achosion Da'r Loteri wedi'i ddyfarnu yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig.  Mae Jenni yn annog unrhyw fudiad - boed yn fawr neu'n fach - sydd wedi derbyn arian y Loteri i gystadlu yn y Gwobrau. 

Dywed Jenni:  “Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30miliwn rhyfeddol bob wythnos dros Achosion Da.  Mae amrywiaeth drawiadol o brosiectau a ariennir gan y Loteri wedi cyffwrdd â bywydau cymaint yng Nghymru.  Er enghraifft, mae arian y Loteri yn cefnogi cyn-filwyr y rhyfel, yn helpu plant bregus ac yn gweddnewid parciau a chyfleusterau chwaraeon lleol.

"Mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn cydnabod yr arwyr tawel, y gwirfoddolwyr anhunanol a'r gweithwyr ymrwymedig sy'n gwella bywydau gydag arian y Loteri.  Yn llythrennol mae miloedd o brosiectau a ariennir gan y Loteri ar draws y DU yn haeddu cydnabyddiaeth.  Felly os ydych chi'n gwybod am brosiect sy'n cael effaith neilltuol yn eich cymuned, dymunwn glywed gennych chi."  

Bydd y prosiectau a fydd yn cyrraedd rownd derfynol Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol mewn digwyddiad yn llawn enwogion, a ddarlledir ar BBC One, yn ddiweddarach eleni. Byddant hefyd yn cael cyfle i ennill gwobr ariannol o £2,000*.

Mae Michelle Lenton-Johnson o Bryncynon Strategy, yn adleisio neges Jenni wrth annog prosiectau a ariennir gan y Loteri i gymryd rhan.  Enillodd Green Valley Centre yr elusen y categori Prosiect Amgylcheddol Gorau yng Ngwobrau'r Loteri Genedlaethol 2011.  Dywed Michelle: “Roedd cymryd rhan yng Ngwobrau'r Loteri Genedlaethol y llynedd yn brofiad gwych.  Roedd derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol o'n gwaith yn hwb gwirioneddol i'n staff, ein gwirfoddolwyr a'r teuluoedd yr ydym yn eu cefnogi - roedd yr awyrgylch yn rhyfeddol!  Yn sicr fe fyddem yn annog mudiadau eraill a ariennir gan y Loteri i gymryd rhan waeth pa mor fawr neu fach ydynt.  Mae'n gyfle gwych i ddangos y gwahaniaeth positif y mae'ch prosiect yn ei wneud gydag arian y Loteri.”

Mae saith categori i Wobrau'r Loteri Genedlaethol - gyda phob un yn adlewyrchu maes ar ariannu'r Loteri: Celfyddydau, Addysg, Amgylcheddol, Iechyd, Treftadaeth, Chwaraeon a Gwirfoddol/Elusennol.

Os dymunwch weld prosiect o Gymru yn cael ei ddathlu yng Ngwobrau'r Loteri Genedlaethol eleni, neu os ydych chi'n gysylltiedig â phrosiect a ariennir gan y Loteri ac eisiau'i enwebu, ewch i http://www.achosiondayloteri.org.uk i gael gwybod mwy neu ffoniwch 0207 293 2128.  Rhaid derbyn y ceisiadau erbyn 12 hanner dydd, Dydd Llun 12  Mawrth 2012.

Nodiadau i Olygyddion
*Mae'r £2,000 yn wobr ariannol i'r enillwyr ei gwario ar eu prosiect; nid yw'n grant y Loteri.

  • Mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn agor i dderbyn ceisiadau am 9am Ddydd Mawrth 7 Chwefror. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 12 hanner dydd, Dydd Llun 12  Mawrth 2012.
  • Mae unrhyw fudiad sydd wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol yn gymwys i gymryd rhan
  • Rhaid i brosiectau sy'n cael eu henwebu lanw ffurflen gystadlu Gwobrau'r Loteri Genedlaethol 2012
  • Bydd prosiectau ar y rhestr fer yn cystadlu mewn dau rownd pleidlais gyhoeddus yn ddiweddarach yn y flwyddyn i bennu'r enillydd. Bydd y bleidlais yn cael ei gwirio yn annibynnol
  • Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae chwaraewyr y Loteri yn codi dros £27biliwn ar gyfer Achosion Da ac mae dros 370,000 o grantiau wedi'u dyfarnu ar draws y DU

Gwybodaeth bellach
Cysylltwch â Jackie Aplin, Rheolwr Cysylltiadau'r Cyfryngau i Gymru, Uned Hyrwyddiadau'r Loteri Genedlaethol ar 029 2067 8278/ 07917 791 873 neu jackie.aplin@achosiondayloteri.org.uk

Michelle Lenton-Johnson o Bryncynon Strategy a ennillodd Prosiect Amgylcheddol Gorau yn 2011 
Michelle Lenton-Johnson o Bryncynon Strategy a ennillodd Gwobr Prosiect Amgylcheddol Gorau yn 2011