Newyddion
Ffotograffau a thoriadau papurau newydd o'r Ail Ryfel Byd - rhan o brosiect Bournemouth in Wartime. Llun Paul Close/Insight

 Hyfforddeion yn dangos eu sgiliau garddio arbenigol yn y Senedd 

 09/12/2011 

Cafodd chwech o hyfforddeion garddwriaethol o bob cwr o Gymru eu hanrhydeddu mewn digwyddiad arbennig yr wythnos hon. 

Cynhaliwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) i arddangos sut mae hyfforddiant mewn sgiliau treftadaeth wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i geiswyr gwaith a'r sector treftadaeth yn ei gyfanrwydd.

Mae'r hyfforddeion, sydd ar hyn o bryd ar leoliadau yn Sain Ffagan, Parciau Bute a'r Rhath, Gerddi Bodnant, Gerddi Aberglasne a Pharc Belle Vue, Casnewydd wrthi'n dysgu'r sgiliau garddwriaeth arbenigol sydd eu hangen i ofalu am erddi Jacobeaidd, Fictoraidd ac Edwardaidd drwy'r Cynllun Sgiliau Garddwriaeth Dreftadol. Cawsant eu gwobrwyo  thystysgrifau yn ystod y digwyddiad i ddathlu cwblhau'r rhan gyntaf o'u cymhwyster NVQ Lefel 2.

Mae'r prosiect, sydd dan arweiniad Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac a dderbyniodd £498,100 drwy raglen CDL Sgiliau ar gyfer y Dyfodol, hyd yn hyn wedi darparu hyfforddiant yn y gwaith i wyth o bobl, gyda 22 o bobl ychwanegol wedi cofrestru hefyd.

Meddai Melissa Jordan, 30, yn wreiddiol o Gaerdydd a bellach yn byw yn yr Wyddgrug: "Dw i mor falch 'mod i wedi cael y cyfle i gymryd rhan yn y prosiect. Mae'r hyfforddiant ymarferol dw i'n ei dderbyn yng Ngerddi Bodnant yn amhrisiadwy, ac yn darparu'r profiad a'r cymwysterau sydd angen arnaf i gael swydd, yn ogystal 'r hyder sydd angen i fynd amdani."

Mae CDL wedi buddsoddi £17m ar draws y DU yn rhaglen Sgiliau ar gyfer y Dyfodol, sydd hyd yn hyn wedi gweld dros dri chant o bobl yn cael eu recriwtio i ddysgu amrywiaeth o sgiliau cadwraeth, addysg a digidol. Mae hyn yn ychwanegol at y £10m sydd eisoes wedi ei fuddsoddi yn ei rhaglen Bwrsariaethau Hyfforddi.

Mae'r gwerthusiad diweddaraf o'r rhaglen Bwrsariaethau Hyfforddi yn dangos bod 90% o hyfforddeion wedi mynd ymlaen i gyflogaeth neu addysg bellach o fewn y sector treftadaeth.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn y Senedd gan Y Fonesig Jenny Abramsky, Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri DU, a bu hefyd yn cyflwyno'r tystysgrifau NVQ i'r hyfforddeion.

Meddai'r Fonesig Jenny Abramsky: "Mae'r rhan fwyaf o brosiectau CDL yn canolbwyntio ar ddatblygiad hyfforddiant a sgiliau. Yn y cyfnod economaidd anodd yma gyda lefelau heriol o ddiweithdra, gall buddsoddiad CDL mewn hyfforddiant o ansawdd a phartneriaethau arloesol fod yn hanfodol helpu pobl ar y trywydd cywir ym myd gwaith.

"Er mwyn cydnabod y gwahaniaeth maent yn ei wneud i'n treftadaeth ac i unigolion, rydym wedi ymrwymo i ddarparu hwb ariannol pellach i'n mentrau sgiliau yn 2012. Byddwn yn parhau i fuddsoddi ac i ddarparu nifer o bobl ag ystod eang o sgiliau treftadaeth ymarferol gan gynnwys rheoli gwirfoddolwyr a gwneud toeau gwellt er mwyn helpu i gynyddu cyflogadwyedd a diwallu anghenion y sector.

"Mae'n wych i weld yr hyfforddeion garddwriaethol hyn mor frwdfrydig wrth weithio o fewn sector gerddi hanesyddol, ac ein bod ni'n gallu ymateb i'r galw am leoedd ychwanegol yng Nghymru."

Meddai'r Gweinidog dros Dai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, a siaradodd yn y digwyddiad: "Mae hon yn rhaglen ardderchog ac mae'n wych gwybod y bydd y buddsoddiad yn parhau i roi'r cyfle i bobl Cymru i ddysgu sgiliau ymarferol i'w helpu i sicrhau gwaith neu i ddilyn addysg bellach. Mae'r hyfforddeion yn sicrhau parhad sgiliau crefft traddodiadol, fel garddio, ac wrth wneud hynny yn diogelu ein treftadaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys arddangosfeydd ac arddangosiadau gweledol gan bobl y tu ôl i 22 o brosiectau eraill CDL, gan arddangos yr ystod eang o sgiliau sydd wedi eu datblygu yng Nghymru, o archifo digidol i archaeoleg.

Rhai o’r prosiectiau:

Teitl y Prosiect: Prosiect Treftadaeth Sipsiwn a Theithwyr Caerdydd
Rhaglen:   Eich Treftadaeth
Grantî   Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydau Romani
Dyfarniad Grant: £48,400
Bydd gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi i gofnodi a dogfennu treftadaeth ddiwylliannol cymunedol Teithwyr Sipsi Roma yng Nghaerdydd drwy gasglu hanesion ar lafar. Bydd cydlynydd prosiectau rhan amser yn cael ei gyflogi gan Gwmni Diwylliannol a Chelfyddydau Romani am gyfnod o ddwy flynedd. Bydd deunydd addysg yn cael ei gynhyrchu a bydd arddangosfa ryngweithiol, deithiol yn cael ei chreu a fydd yn teithio o amgylch Caerdydd cyn symud i gartref parhaol yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.

Teitl y Prosiect: Prosiect Gweilch Dyfi
Rhaglen:  Eich Treftadaeth
Grantî:  Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn
Dyfarniad Grant: £50,000
Yn y gorffennol roedd dyffryn Dyfi yn frith o weilch a oedd yn bridio. Erbyn hyn, bron nad yw'r aderyn ysglyfaethus prin hwn i'w weld yng Nghymru, dim ond dau bâr sy'n nythu sy'n bodoli. Mae Prosiect Gweilch Dyfi yn brosiect cymunedol yng ngwarchodfa natur Cors Dyfi sy'n rhoi cyfle i bobl wirfoddoli a chael hyfforddiant er mwyn helpu i warchod y gweilch sy'n nythu a chyfleu gwybodaeth i'r 60,000 o ymwelwyr a ddaw bob blwyddyn i weld y gweilch a bywyd natur arall yn yr ardal.

Teitl y Prosiect: Llenyddiaeth a Thirweddau Hanesyddol Cwm Garw
Rhaglen:  Eich Treftadaeth
Grantî:   Cwmni Hanes a Threftadaeth Gerddi Cwm Garw Cyf
Dyfarniad Grant: £26,000
Roedd y prosiect archaeoleg cymunedol hwn yn canolbwyntio ar dwmpath cynhanesyddol Bryn y Wrach yng Nghwm Garw, Pen-y-bont ar Ogwr.  Ymchwiliwyd i archifau a defnyddiwyd technegau arolygon archeolegol nad ydynt yn ymyrrol er mwyn archwilio i hanes a lleoliad y twmpath er mwyn llunio nifer o adroddiadau technegol. Cafodd pobl ifanc hyfforddiant mewn hanesion ar lafar ac ysgrifennu creadigol, a defnyddiwyd y canlyniadau archeolegol fel ysbrydoliaeth i greu barddoniaeth a rhyddiaith sy'n gysylltiedig â chwedlau lleol yr ardal a fydd ar gael ar wefan y prosiect ac mewn llyfryn.

Teitl y Prosiect: Prosiect Soar
Rhaglen:   Grantiau Treftadaeth
Grantî:  Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful
Dyfarniad Grant: £527,000
Bu Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful yn adfer ac yn addasu Capel Soar, adeilad rhestredig gradd 2, i greu theatr gymunedol a man ymarfer. Cafodd yr hen Festri ac adeilad yr Ysgol Sul ei atgyweirio a'i wella hefyd er mwyn creu man i gynnal gweithgareddau cymunedol yn cynnwys clwb ieuenctid, digwyddiadau cymdeithasol, gwersi Cymraeg, ymarferion côr a chyrsiau hyfforddiant. Mae'r grant yn cefnogi rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau dan oruchwyliaeth Swyddog Treftadaeth penodedig sy'n helpu i godi proffil yr adeilad a threftadaeth gyfoethog yr ardal.

Teitl y Prosiect: Castell Ystumllwynarth
Rhaglen:   Grantiau Treftadaeth
Grantî :  Dinas a Sir Abertawe
Dyfarniad Grant: £764,000
Mae'r grant yn cyfnerthu gwneuthuriad hanesyddol heneb gofrestredig, sy'n adeilad rhestredig gradd I, Castell Ystumllwynarth, yn gwella mynediad ac yn gwella'r cyfleusterau i ymwelwyr sy'n cynnwys man addysgol newydd a phont wydr 30 troedfedd o uchder sy'n arwain at Gapel Alina, sy'n cynnig golygfeydd godidog ar draws Bae Abertawe. Mae Cydlynydd Cymunedol y Castell yn rheoli amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, gyda chymorth Cyfeillion Castell Ystumllwynarth, er mwyn ymgysylltu â grwpiau cymunedol a rhannu'r hanes cyfoethog gyda phreswylwyr ac ymwelwyr.

Teitl y Prosiect: Prosiect Treftadaeth Nant Gwrtheyrn
Rhaglen:   Grantiau Treftadaeth
Grantî:   Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn
Dyfarniad Grant: £527,700
Gwnaeth y grant ariannu'r gwaith o adfer teras Trem y Môr, Swyddfeydd ac adeiladau'r Plas, sy'n adeiladau Fictoraidd rhestredig gradd II, i'w cyflwr gwreiddiol a datblygu cyfleusterau dehongli yn Nant Gwrtheyrn, sef Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru ar Benrhyn Llŷn. Penodwyd Swyddog Datblygu'r Dreftadaeth er mwyn recriwtio gwirfoddolwyr lleol i gyflenwi prosiectau cymunedol sy'n datblygu synnwyr o le, creadigrwydd a sgiliau. Mae'r rhaglen hon hefyd yn cynnig cyfres o weithgareddau rhyngweithiol i ymwelwyr, yn cynnwys prosiectau drama, prosiectau hanes ar lafar, straeon Nant a chrefftau Celtaidd, setiau gwenithfaen a theithiau a llwybrau tywysedig.

Melissa Jordan, Hyfforddai o Gynllun Sgiliau Garddwriaeth Dreftadol 
Melissa Jordan, Hyfforddai o Gynllun Sgiliau Garddwriaeth Dreftadol

  • Hawlfraint © [] Cronfa Dreftadaeth y Loteri