Yr wythnos yma, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) yn lansio rhaglen grantiau bach newydd gwerth £1m wedi’i dylunio i helpu cymunedau lleol i ateb y cwestiynau rhain a sawl eraill am eu gorffennol.
Bydd Ein Holl Straeon yn dyfarnu grantiau rhwng £3,000 a £10,000. Bydd y rhaglen newydd hon yn rhoi cyfle i bawb archwilio a rhannu yr hyn y maent yn dysgu gydag eraill – o ymchwilio tirnodau hanesyddol lleol, dysgu mwy am arferion a thraddodiadau i gloddio i mewn i archifau a chanfod gwreiddiau enwau strydoedd a llefydd.
Mae CDL wedi datblygu Ein Holl Straeon i gefnogi cyfres y BBC, The Great British Story – A People’s History. Bydd Michael Wood yn cyflwyno’r cyfres a chaiff ei darlledu y gwanywn yma ar BBC 2. Bydd Ein Holl Straeon hefyd yn ymddangos mewn pum digwyddiad BBC Dysgu mewn lleoliadau treftadaeth blaenllaw, a fydd yn cael ei redeg ar y cyd â’r gyfres deledu, i gael pobl i gymryd rhan yn eu treftadaeth leol.
Gall ystod eang o fudiadau yn gwneud cais yn cynnwys grwpiau cymunedol, mudiadau treftadaeth ac elusennau. Mae proses o wneud cais yn syml:
- Ewch i dudalen Ein Holl Straeon
- Rhowch i mewn manylion eich mudiad
- Atebwch y cwestiynau syml yn cwynnwys beth rydych eisiau gwneud, sut y byddwch yn ei gyflawni a faint o arian y bydd angen arnoch.
Bydd rhaid i ceisiadau gael eu cyflwyno ar-lein erbyn 31 Gorffennaf 2012 a gwneir penderfyniadau erbyn Hydref 2012.
Meddai Carole Souter, Prif Weithredwr CDL: “Mae Ein Holl Straeon yn cyflwyno cyfle gwych i bawb i gymryd rhan yn eu treftadaeth, o ddarganfod hanes eu tref neu stryd i ddysgu am arferion a thraddodiadau cymunedol. Bydd ein proses gwneud cais syml yn galluogi mudiadau ar draws y DU derbyn cymorth ariannol ac ymarferol i gyflawni prosiectau gwerthfawr a chyffrous. Rydym yn edrych ymlaen at weld yr hyn y bydd pobl yn dadorchuddio am eu gorffennol a'r hyn y maent yn ei ddysgu am bwy ydynt ac o le maent wedi dod.”
Dywedodd Abigail Appleton, Pennaeth Comisiynu ar gyfer BBC Dysgu: "Mae BBC Dysgu yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â'r CDL. Rydym yn gobeithio bydd cyfres newydd Michael Wood The Great British Story - A People's History, digwyddiadau cyhoeddus sy'n mynd ag ef, yn ysbrydoli cynulleidfaoedd i eisiau darganfod mwy am eu lle eu hun mewn hanes. Bydd presenoldeb CDL gydag Ein Holl Straeon yn y pum digwyddiad arddangos BBC Dysgu yn rhoi grwpiau cymunedol ffordd bwerus i gymryd eu teithiau dysgu yn bellach. Edrychaf ymlaen dros ben at weld am yr hyn sydd yn cael ei ddadorchuddio."
Mae Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn ariannu cymorth ymchwilio i grwpiau cymunedol sydd â diddordeb archwilio eu treftadaeth i gefnogi rhaglen Ein Holl Straeon. Bydd ymchwilwyr o 21 o brifysgolion a sefydliadau addysgol eraill ar gael i gefnogi prosiectau cymunedol o ddechrau’r proses gwneud cais i’r cyfnod ymchwilio ei hun.
Bydd ymchwilwyr yn cae eu hariannu i gefnogi ystod eang o weithgareddau yn cynnwys: cynnal diwrnodau agored i greu cysylltiadau newydd neu ddatblygu partneriaethau gyda grwpiau cymunedol sydd yn bodoli’n barod; helpu grwpiau deall cyd-destun hanesyddol, diwylliannol a chymdeithasol o’u gweithgareddau arfaethiedig; rhoi cyngor a chefnogi’r gweithgareddau eu hun a rhannu’r hyn a ddysgir; gweithio gyda grwpiau i werthuso prosiectau; a helpu cynnal partneriaethau tu hwnt amserlen y prosiectau lle mae’n addas.
Meddai’r Athro Rick Rylance, Prif Weithredwr Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau: “Mae'r cyfuniad o gymunedau archwilio eu treftadaeth eu hun ochr yn ochr ag ymchwilwyr academaidd mewn perthynas gyfartal yn un bwerus yn wir. Mae'r fenter hon yn dangos sut y gall ddau sector yn wahanol iawn dod at ei gilydd i edrych ar rywbeth o bwys canolog i bob un ohonom - beth mae ein cymunedau ac o ble maent wedi dod. Mae Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn falch o gefnogi'r fenter arloesol. Mae'n wir ein holl straeon.”
Nodiadau i Olygyddion
Mae BBC Dysgu yn cynnal nifer o ddigwyddiadau The Great British Story – A People’s History ledled y DU o’r gwanwyn ymlaen. Bydd CDL yno i roi cyngor a chefnogi ceisiadau Ein Holl Straeon. Bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi cyfleoedd i bobl ddarganfod eu lle mewn hanes, dysgu am eu cyfenwau a datgelu hanes eu hardal leol. Caiff digwyddiadau gan y BBC a’i bartneriaid eu rhestru ar wefan y BBC Things to Do o fis Mai.
Mae ariannu wedi cael ei wneud ar gael drwy raglen Cymunedau Cysylltiedig Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau sydd â'r nod o ddeall trwy ymchwil natur newidiol cymunedau a rôl cymunedau o ran cynnal a gwella ansawdd ein bywyd. Cyhoeddwyd galw am gymryd rhan diwedd 2011 a chafodd y 21 o brifysgolion eu dewis yn dilyn adolygiad gan gymheiriaid.
Mae'r NCCPE yn cefnogi prifysgolion i ymgysylltu â'r cyhoedd. Rydym yn gweithio gyda'r holl bannau i hyrwyddo arfer da wrth ymgysylltu â'r cyhoedd ac yn darparu un pwynt cyswllt ar gyfer y sector addysg uwch yn ei gyfanrwydd. Rydym hefyd yn gweithio'n strategol gyda'n partneriaid cenedlaethol allweddol i helpu datblygu'r gwaith ar draws y sector addysg uwch.
Gwybodaeth bellach
Cysylltwch â Laura Bates neu Lydia Davies, Swyddfa’r Wasg CDL ar 020 7591 6027 / 3032 neu 07973 613 820