Daw dynodiad cyntaf CDL o fuddsoddiad trwy ei raglen Menter Treftadaeth Treflun (MTT)² sy’n meithrin partneriaethau rhwng sefydliadau lleol gan alluogi atgyweirio a gwaith allweddol arall mewn ardaloedd hanesyddol ond wedi dirywio.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi derbyn pas rownd gyntaf i’r fenter yn cynnwys £50,000 o gyllid datblygu i helpu symud eu cynlluniau ymlaen i’r cam nesaf.
Tredegar oedd un o’r trefi diwydiannol cyntaf ym Mhrydain i gael ei chynllunio a chanolfan gynnar i’r chwyldro diwydiannol yn Ne Cymru, gyda’i batrwm stryd ar ffurf grid yn ymestyn o dŵr cloc haearn canolog. Fodd bynnag, ers hynny mae canol y dref o’r 19eg ganrif wedi dioddef degawdau o ddirywiad strwythurol o ganlyniad i golli’r diwydiannau glo a dur.
Yng nghalon Tredegar mae’r ‘Cylch’, craidd hanesyddol y dref, sy’n brif ffocws i’r fenter adfywio. Mae cynlluniau yn cynnwys adfer 17 o adeiladau preswyl a masnachol blaenoriaeth, yn cynnwys Gwesty Tredegar Arms, y cyn glwb NCB ac adeilad Cymdeithas Cymorth Feddygol Tredegar, a sefydlwyd yn 1890, ac oedd yn fodel i sefydlu’r GIG gan Aneurin Bevan. Mae’r Cyngor wedi nodi’r potensial o farchnata Tredegar fel tref treftadaeth iechyd, gan gyfuno ei dreftadaeth ddiwydiannol a GIG.
Y nod yn y bôn yw creu defnydd newydd a chynaliadwy i’r adeiladau a fydd yn fanteisiol i bobl leol ac yn denu buddsoddwyr ac ymwelwyr newydd i’r ardal. Bydd y cynllun yn cydweddu â phrosiectau eraill yn yr ardal a ariennir gan CDL, yn cynnwys Tŷ a Pharc Bedwellte ar ei newydd wedd a dderbyniodd grant o £3.8miliwn.
Mae Tŷ Bedwellte eisoes yn cael ei farchnata fel cyrchfan i ymwelwyr ac yn cynnal nifer gynyddol o gynadleddau, digwyddiadau ac achlysuron a fyddai’n creu cyfleoedd i ddarparwyr llety a bwytai yn y craidd hanesyddol.
Mae’r prosiect hefyd yn gobeithio cynnig hyfforddiant sgiliau traddodiadol gyda phartneriaethau arloesol megis y busnes lleol Centrica – canolfan hyfforddi sgiliau gwyrdd Nwy Prydain. Rhoddir blaenoriaeth i weithwyr adeiladu profiadol a phobl ifanc diwaith i helpu cynyddu cyflogadwyedd. Y nod yw mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau lleol a chreu gweithlu gyda sgiliau traddodiadol i’r ardal, a fydd yn sicrhau treftadaeth adeiledig yn y dyfodol.
Meddai Manon Williams, Cadeirydd Pwyllgor CDL Cymru: “Bydd y grant hwn yn darparu hwb haeddiannol iawn i Dredegar yn yr hinsawdd economaidd bresennol.
“Mae angen adfywio canol ein trefi, ac mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn credu y gall newidiadau bach, fel gwella blaen siopau neu adfer nodweddion hanesyddol adeilad, wneud gwahaniaeth hyd yn oed. Trwy weithio’n agos gydag awdurdodau lleol a’u cymunedau priodol, bydd ein buddsoddiad sylweddol yn helpu dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd yn ogystal â chreu busnes a chyfleoedd hyfforddiant newydd a fydd o fudd i nifer.”
Yn ogystal â delio ag anghenion adeiladau hanesyddol yn y dref, gobeithia’r cynllun greu swydd llawn amser i swyddog prosiect a chynorthwyydd gweinyddol i reoli’r MTT. Bydd pobl leol hefyd yn elwa o gyfleoedd i ddysgu ynglŷn â’r dreftadaeth y mae’r adeiladau yn cynrychioli.
Meddai AC Blaenau Gwent, Alun Davies: “Mae treftadaeth yn gatalydd modern ar gyfer adfywio. Mae creu trefluniau deniadol yn allweddol i ysgogi buddsoddiad cyhoeddus a phreifat, ac mae’n meithrin balchder a theimlad cryf o hunaniaeth.
“Mae adeiladau nodedig megis Prosiect Adfywio Tŷ a Pharc Bedwellte a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn chwarae rhan enfawr mewn cynlluniau adfywio, ble mae adeiladau hanesyddol yn cael eu haddasu’n greadigol i greu newydd yn y gymuned.
“Mae gwarchod ein treftadaeth ac arallgyfeirio canol ein trefi hefyd yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi mewn adfywio. Bydd y Fenter Treftadaeth Treflun, gyda Chyllid Treftadaeth y Loteri, yn parhau i ddatblygu dulliau creadigol o gyflawni potensial ein treftadaeth a datblygu’r sgiliau lleol sydd eu hangen i’w cynnal.”
Meddai Richard Crook, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent: “Mae’r cynllun adfywio cyffrous hwn wedi ei gynllunio i greu dyfodol mwy bywiog i gymunedau Tredegar. Bydd yn denu buddsoddiad mewnol ac yn darparu ysgogiad y mae mawr ei angen ar gyfer twf economaidd a fydd er lles i bobl leol yn y pen draw. Rydym yn croesawu cefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn ystod y cam hwn o’n cais, a gobeithiwn y gallwn barhau i gydweithio wrth symud ymlaen.”
Mae cyllidwyr eraill yn cynnwys Llywodraeth Cymru (Rhaglen Blaenau’r Cymoedd), Cadw ac Ymddiriedolaeth Amgylcheddol Silent Valley.
Gwybodaeth bellach
Cysylltwch â Kate Sullivan neu Elinor Evans ar 029 2076 4100 neu e-bost hlf@equinoxcommunications.co.uk.
Nodiadau Golygyddol
¹ Golyga pas rownd gyntaf wedi clustnodi Menter Treftadaeth Treflun (MTT) bod yr arian wedi ei neilltuo gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) ar gyfer y cynllun dan sylw. Mae cystadlu yn ystod y cam hwn yn frwd, ac er nad yw’n gwarantu cyllid, mae’n awgrym o gefnogaeth bositif. Yna gall yr ymgeiswyr symud ymlaen i’r ail rownd a chyflwyno cais pellach, wedi ei ddatblygu’n llawn, er mwyn ceisio sicrhau’r dyfarniad llawn. Mae’r lefel gynnar hon o ymrwymiad ariannol cadarn yn golygu y gall MTTau feithrin partneriaethau cryf gyda’r sicrwydd fod cyllid ar gael ar gyfer eu cynllun ar yr amod fod eu cynigion terfynol yn bodloni meini prawf y rhaglen.
² Mae Menter Treftadaeth Treflun (MTT) CDL yn annog partneriaethau o sefydliadau lleol i gyflawni gwaith atgyweirio a gwaith arall i nifer o adeiladau, strwythurau neu ofodau hanesyddol. Mae grantiau yn amrywio o £500,000 i £2 filiwn. Hyd yn hyn, mae CDL wedi buddsoddi dros £214miliwn mewn adfywio trefi sydd wedi dioddef dirywiad cymdeithasol ac economaidd difrifol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau rownd gyntaf yw 31 Hydref 2012 ac fe wneir penderfyniadau ym Mawrth 2013.