Fel un o bump o bobl sy’n rhannu eu profiad yng nghylchgrawn newydd CDL - Materion Treftadaeth yng Nghymru, mae Natasha’n egluro sut mae’r lleoliad gwaith yn ei helpu i gael y sgiliau ymarferol mae hi eu hangen i roi cychwyn ar ei gyrfa.
Mae Natasha, sy’n 24 mlwydd oed ac a raddiodd o Brifysgol Llanbedr Pont Steffan gyda gradd mewn archeoleg amgylcheddol yn 2009, hanner ffordd trwy leoliad gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg Gwent. Fe ymgeisiodd am y lleoliad ar ôl ymdrechu i ddod o hyd i swydd llawn amser gyda’r sector a chafodd ei dewis o blith dros ddeg ar hugain o ymgeiswyr.
Dywedodd Natasha: “Mae archeoleg yn faes anodd iawn i gael i mewn iddo ac yn aml mae galw am brofiad blaenorol, felly mae’r cyfle hwn yn amhrisiadwy. Rydw i’n gwybod y bydda i wedi fy mharatoi llawer yn well i fentro i’r farchnad swyddi unwaith y bydda i wedi gorffen y lleoliad hwn.”
Ariannodd CDL y lleoliad hyfforddi trwy ei raglen Sgiliau ar gyfer y Dyfodol, sydd wedi buddsoddi £1.3 miliwn mewn dros 800 o leoliadau gwaith eraill ar hyd a lled Cymru.
Mae lleoliad hyfforddi Natasha yn cael eu cynnal gan Brosiect Bwrsariaethau Archeoleg Gymunedol y Cyngor dros Archeoleg Brydeinig.
Mae Natasha wedi ennill sgiliau mewn gwaith maes, rheoli prosiect ac ymchwil a chofnodi, yn ogystal â hyfforddi gwirfoddolwyr mewn sur mae cynnal sesiynau estyn allan oddi fewn i’r gymuned leol. Mae nawr yn gweithio tuag at gymhwyster NVQ Lefel 3 mewn arfer archeoleg.
Ychwanegodd Natasha: “Mae’r lleoliad gwaith yn un ymarferol iawn, rydw i eisoes wedi dysgu cymaint mewn amser byr. Un o’r uchafbwyntiau i mi hyd yn hyn oedd y diwrnod ‘Archeoleg i Bawb’ yn Amgueddfa Abertawe. Roedd yn wych gweld plant yn cael hwyl yn bwrw iddi ac yn cael eu gorchuddio mewn mwd wrth iddyn nhw gymryd rhan yn yr arddangosfa o blethwaith a chlai, gan ddysgu sut roedd pobl yn arfer adeiladu eu cartrefi.
“Cyn y lleoliad, ychydig iawn o brofiad oedd gen i mewn trefnu digwyddiadau a phrosiectau cymunedol, felly mae hwn yn faes lle rydw i’n teimlo mod i wedi ennill sgiliau newydd ac wedi magu cryn hyder. Rydw i wedi bod wrth fy modd yn rhannu fy angerdd am archeoleg gyda phobl eraill a helpu i ddenu cymunedau i fod â diddordeb yn yr hanes sydd ar stepen eu drws.
“Roeddwn i angen profiad ymarferol i adeiladu ar fy nghymwysterau ac mae’r lleoliad yma a ariennir gan GDL wedi rhoi cyfle i mi allu gwneud hynny. Rydw i wedi fy ngwefreiddio gan archaeoleg, darganfod pethau am le nad oedd pobl yn eu gwybod o’r blaen, felly rydw i’ gobeithio, gyda’r sgiliau newydd yma, y byddai’n gallu dod o hyd i swydd llawn amser o fewn y maes.”
Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth CDL yng Nghymru: “Mewn marchnad swyddi mor anodd mae lleoliadau hyfforddi fel hyn yn hanfodol i helpu pobl i ennill y sgiliau ymarferol maen nhw’u hangen i gael swyddi oddi fewn i’r sector treftadaeth.
“Mae’n hanfodol ein bod yn buddsoddi mewn pobl fel Natasha i’w helpu i ennill y sgiliau angenrheidiol i fynd â threftadaeth amrywiol Cymru ymlaen i’r dyfodol.”
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Helen Newton neu Kate Sullivan yn Equinox Communications ar 029 2076 4100 neu hlf@equinoxcommunications.co.uk