Mae’r tirnod adnabyddus yng Nghaerdydd wedi cael ei adnewyddu fel rhan o broject cyffrous a bellach yn cynnwys ystafell de draddodiadol, siop anrhegion fechan, ardal eistedd awyr agored newydd, gyda’r ardal amgylchynol wedi’i thirweddu’n well a bydd tai bach ychwanegol i'r cyhoedd ar gael yn y parc.
Mae’r datblygiad yn rhan o broject gwerth £5.6m i Adnewyddu Parc Bute, a gefnogir gan grant o £3.1 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Roedd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Rodney Berman, a’r Aelod Gweithredol dros Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Nigel Howells yno ynghyd â Dr. Manon Williams, Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cymru a gweithredwr yr ystafelloedd te David Le Masurier.
I ddathlu’r achlysur roedd y rhai a wahoddwyd yn gosod y teils olaf i gwblhau llawr yr ystafell de odidog. Gyda hyn caiff y gwaith ei gwblhau a’r busnes ei gychwyn yn yr ystafell de.
Mae hefyd yn nodi carreg filltir yn hanes Porthdŷ’r Gorllewin a chaiff y sefydliad ei gyflwyno gan Gyngor Caerdydd i’r gweithredwr newydd.
Mae llawr yr ystafell de, a ddisgrifiwyd fel pos jig-so hanesyddol go iawn, wedi bod yn elfen bwysig ar y broses adfer, sy’n golygu bod y cyhoedd yn cael cyfle i weld casgliad mawr o deils Fictoraidd ar ôl bron i bedwar degawd.
Mae'r teils rhydd 125 mlwydd oed yn dyddio’n ôl i’r 1800au hwyr ac wedi'u gosod yn wreiddiol yn ystafell Tŷ’r Brodyr Duon yng ngorllewin Parc Bute. Fe'u codwyd yn 1977 a'u hadfer gan aelodau o'r Gymdeithas Fictoraidd i’w hamddiffyn rhag niwed a lladrad.
Ers hynny maent wedi’u cadw mewn storfa hyd nes i Gyngor Caerdydd ynghyd â gwirfoddolwyr o Grŵp Ffrindiau Parc Bute ac aelodau gwreiddiol o’r tîm a gododd y teils, i gyflawni’r dasg o ailosod y teils yn barod ar gyfer eu cartref newydd.
Roedd y project yn ceisio darlunio ysbryd y dyluniad Fictoraidd gwreiddiol tra’n creu nodwedd unigryw yn yr ystafell de y gall aelodau’r cyhoedd eu mwynhau.
Mae’r llawr newydd yn cyd-fynd â nodweddion gwreiddiol yr adeilad tra'n ychwanegu at y pleser a’r mwynhad o brofiad gwir Brydeinig yn yr ystafell de.
Bydd Ystafelloedd Te Pettigrew, a enwyd ar ôl prif arddwr y trydydd Ardalydd Bute, yn ceisio rhoi ymdeimlad o ystafell de Fictoraidd draddodiadol gan ddathlu'r diddordeb Prydeinig o ‘fwynhau te'.
Mae gan weithredwr yr ystafell de, David Le Masurier, weledigaeth glir ar gyfer y busnes a fydd yn gweini té dail rhydd o safon, coffi rhost ffres a chacennau cartref wedi’u paratoi ar y safle.
Gall cwsmeriaid fwynhau danteithion melys gan gynnwys brechdanau Fictoraidd, meringues clasurol, sgons gyda jam lleol a hufen tolch Cymreig yn ogystal â seigiau sawrus megis brechdanau, saladau a chawl ffres poeth.
Gweinir lluniaeth ar borslen cymysg prydferth ynghanol hen ddodrefn mewn awyrgylch heddychlon, y cwbl yn cyfrannu at y profiad godidog.
Yn y misoedd cynhesach bydd seddi awyr agored ar y teras tu allan gyda golygfa hyfryd o'r parc.
Dyluniwyd Porthdŷ’r Gorllewin gan y pensaer Alexander Roos ac fe’i cwblhawyd yn 1863. Roedd yn cael ei adnabod fel porthdŷ’r addurniadol a oedd yn rhan o gynllun tymor hir trydydd Ardalydd Bute i ddatblygu’r ystâd.
Dywedodd y Cynghorydd Rodney Berman: “Mae Porthdŷ’r Gorllewin yn ychwanegiad gwych i Barc Bute a bydd yn rhoi cyfle unigryw i bobl ymlacio yn y man gwyrdd godidog hwn sydd wedi'i leoli yng nghalon y ddinas.
“Gyda’r gwaith adnewyddu yn yr adeilad, sy’n cyd-fynd ag arddull a threftadaeth y porthdŷ’r gwreiddiol, caiff ei gymeriad a’i hanes cyfoethog ei amlygu a bydd yn rhan wych o brofiad ymwelwyr i Barc Bute.
“Mae prosiect adfer Parc Bute yn ceisio amddiffyn a gwella un o atyniadau mwyaf poblogaidd Caerdydd ac rwy’n siŵr y bydd Porthdŷ’r Gorllewin yn cael ei ddefnyddio’n helaeth gan bobl heddiw ac yn y dyfodol."
Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Nigel Howells: “Mae’r gwaith i adfer Porthdŷ’r Gorllewin yn rhan hynod gyffrous o brosiect adfer Parc Bute ac yn lle a fydd, yn fy marn i, yn cael ei groesawu a'i fwynhau gan bobl Caerdydd.
“Mae Porthdŷ’r Gorllewin yn rhan hanesyddol bwysig o Barc Bute ac mae’r ystafell de newydd yn caniatáu i’r cyhoedd ymweld a mwynhau’r cyfleuster arbennig hwn.
“Trwy gwblhau’r llawr yn defnyddio'r teils o Dŷ'r Brodyr Llwydion, rydym yn dathlu carreg filltir bwysig yn hanes yr adeilad ac yn dathlu ased diweddaraf Parc Bute a fydd yn darparu cyfleoedd newydd ac yn denu pobl i’r atyniad arbennig hwn.”
Dywedodd Dr. Manon Williams, Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cymru: “Bydd yr adeilad Porthdŷ’r Gorllewin newydd yn diogelu rhan ryfeddol o dreftadaeth cyfoethog Caerdydd, yn cynnig lle unigryw a deniadol i bobl leol ac ymwelwyr i ymlacio a mwynhau amgylchedd prydferth Parc Bute.
“Fel y gallaf dystio fy hun, mae’r parc yn fan gwyrdd godidog sy'n chwarae rhan allweddol ym mywydau preswylwyr Caerdydd, ac mae'r datblygiad diweddaraf yn ychwanegiad gwych i'r cyfleusterau ymwelwyr."
Dywedodd gweithredwr yr ystafell de, David Le Masurier: “Mae adeilad Porthdŷ’r Gorllewin wedi fy rhyfeddu am amser hir. Mae’n adeilad trawiadol ac rwyf wrth fy modd ei fod wedi cael ei adfer a’i fod am y tro cyntaf ar agor i'r cyhoedd fel y gall pawb ei ddefnyddio.
"Rwyf wedi gobeithio gallu agor ystafelloedd te traddodiadol yng Nghaerdydd am dros ddwy flynedd bellach, yn gweini cacennau cartref o safon, te dail a choffi rhost Cymreig arbennig mewn amgylchedd cain ac ymlaciedig.
“Rwy’n gyffrous iawn ynghylch cael y cyfrifoldeb addysgol am Borthdŷ’r Gorllewin a Pharc Bute. Dim ond nawr rwy’n darganfod treftadaeth arbennig Parc Bute. Mae llawer mwy i mi ei ddysgu, ond fe wnaf i hynny’n flaenoriaeth ynghyd ag addysgu fy nhîm fel eu bod yn gallu bod yn llysgenhadon ar gyfer y ddinas."
Nod prosiect Adnewyddu Parc Bute yw ehangu mynediad ffisegol a deallusol i’r parc, darparu cyfleusterau i ymwelwyr a diogelu ei nodweddion a'i dirwedd hanesyddol.
Mae’r gwelliannau sydd eisoes wedi’i gwneud yn cynnwys adnewyddu Wal yr Anifeiliaid, cyfleuster bwyd a diod Caban yr Haf a’r Ganolfan Addysg a gwblhawyd yn ddiweddar.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Danni Janssens, Swyddog y Wasg Cyngor Caerdydd Ffôn: 029 2087 2409
E-bost: djanssens@caerdydd.gov.uk