Yr wythnos yma mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) wedi lansio ymgyrch i annog sefydliadau i wneud cais am ariannu i goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae CDL wedi lansio llyfryn a gwybodaeth ar-lein wedi eu cynllunio i ddangos pa ariannu sydd ar gael i gymunedau sy’n ystyried sut i nodi’r pen-blwyddi ac i’w hannog i wneud cais. Dros yr wythnos nesaf bydd CDL yn cysylltu â channoedd o sefydliadau ar draws y DU i ddweud wrthyn nhw am yr ariannu a’r gefnogaeth sydd ar gael a’u hysbrydoli gydag enghreifftiau o brosiectau sydd eisoes yn cael eu gwireddu gyda chefnogaeth CDL.
Dywedodd Carole Souter, Prif Weithredwr CDL: "Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi’r nifer o agweddau o gofio fydd yn cael eu datblygu wrth i ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf ddod yn nes. Rydyn ni’n rhagweld y bydd yna fwy o ddiddordeb nag erioed mewn anrhydeddu aberth y rhai a roddodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â’r Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol a sefydliadau eraill i sicrhau bod grwpiau mawr a bach yn gwybod pa arian sydd ar gael i’w helpu i goffáu’r digwyddiadau yma a luniodd y byd modern."
Mae CDL wrthi’n chwilio am, ac yn croesawu ceisiadau am bob math o brosiectau treftadaeth, mawr a bach, sy’n cael eu llunio i nodi cofio cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Gall CDL ddarparu arian i helpu grwpiau i archwilio hanes ac etifeddiaeth y rhyfel a’i effaith ar gymunedau ar draws y DU, yn enwedig eu cymunedau eu hunain. Gallwn helpu grwpiau i olrhain cysylltiadau rhwng ardaloedd lleol â’r gwrthdaro, helpu pobl ifanc u arwain prosiectau sy’n dod â hanes yn fyw neu helpu i gynnal a gwella mynediad ar-lein i archifau a chasgliadau.
Gall prosiectau o bob maint gael eu hariannu trwy ein rhaglenni grantiau agored, Eich Treftadaeth a Grantiau Treftadaeth; yn ogystal â thrwy Gwreiddiau Ifanc sy’n ceisio cael rhai rhwng 13-25 mlwydd oed i gymryd rhan ac ymwneud â’u treftadaeth. Gallwn ddarparu arian ar gyfer cofeb rhyfel fel rhan o brosiect ehangach fydd yn cynyddu dealltwriaeth o’r straeon y tu ôl i’r gofeb.
Mae’r prosiectau sydd eisoes yn cael eu hariannu gan GDL yn cynnwys:
- Adfer Cofeb Ryfel Nicholson yn Leek, Swydd Stafford, a adeiladwyd ym 1925 gan Syr Arthur a’r Foneddiges Nicholson er cof am eu mab, yr Is-gapten Basil Lee Nicholson, a laddwyd tra’n brwydro yn Ypres ym 1915. Mae’r gofeb hefyd yn cofio dynion Leek a’r ardal a laddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. Mae’r prosiect yn cynnwys rhaglen o weithgareddau’n cynnwys ysgolion lleol, gyda’r gwaith adfer yn cael ei gwblhau mewn pryd ar gyfer Gorymdaith y Cofio ar 13 Tachwedd 2011. Grant CDL: £178,000.
- Yng Ngogledd Swydd Efrog, roedd llyfr sydd bellach allan o brint ond a gyhoeddwyd ym 1919 yn cofnodi pob milwr o ardal Craven gafodd eu lladd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Datgelodd ymchwil gan bobl leol dros 1,000 o enwau milwyr ychwanegol sydd nawr wedi eu hychwanegu at restr y gwroniaid lleol. Grant CDL: £24,600.
- Roedd y prosiect ‘Roedden ni’n Frodyr: Y Rhyfel Byd Cyntaf: Treftadaeth a Rennir’ yn archwilio treftadaeth milwyr o draddodiadau’r Unoliaethwyr a’r Cenedlaetholwyr yng Ngogledd Iwerddon fu’n gwasanaethu ochr yn ochr gyda’r fyddin Brydeinig yn y Rhyfel Byd Cyntaf, fel aelodau o’r ‘Ulster Battalions’ neu’r ‘Irish Volunteers’. Roedd y prosiect yn cynnwys drama, DVD, gwefan rhyngweithiol a phrosiect ieuenctid. Grant CDL: £30,590.
Nodiadau i Olygyddion
• Mae CDL yn gweithio gydag Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol i gefnogi grwpiau cymunedol lleol i goffau’r canmlwyddiannau hyn. Ar 11.11.11 mae’r Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol yn lansio nod Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf - logo newydd sydd ddim ond ar gael i aelodau Partneriaeth Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf - menter a arweinir gan yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol ar gyfer pob sefydliad sy’n nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf (2014 - 2018) www.1914.org/partners.
• Gall CDL ariannu gwaith adfer a chadwraeth, ond rhaid i’r fath brosiectau hefyd helpu pobl i ddysgu am dreftadaeth. Er enghraifft, gallai gardd goffa neu gofeb leol i’r rhai fu farw o ganlyniad i ryfel byd gael eu hadfer (efallai cynnwys cyfleon hyfforddi hefyd) neu gellid cadw arteffactau, cerbydau milwrol neu ddogfennau hanesyddol er mwyn helpu pobl i’w deall.
• Mae ariannu sydd wedi ei fwriadu’n benodol ar gyfer adfer ac adnewyddu cofebion nawr ar gael oddi wrth yr Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel a sefydliadau eraill.
Gwybodaeth Bellach
• Cysylltwch â Natasha Ley neu Katie Owen, Swyddog y Wasg CDL, rhif ffôn: (020) 7591 6143 / 6036. Rhif ffôn symudol: 07973 613 820.