Newyddion
Ffotograffau a thoriadau papurau newydd o'r Ail Ryfel Byd - rhan o brosiect Bournemouth in Wartime. Llun Paul Close/Insight

 CDL yn lledaenu llawenydd y Nadolig yn un o eglwysi Bro Morgannwg 

 13/12/2011 

Mae'r Nadolig wedi cyrraedd yn gynnar i Eglwys Sant Cadog yn Llancarfan, diolch i grant o £541,900* gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL). 

Bydd y grant yn diogelu tu mewn canoloesol yr eglwys, sydd o bwysigrwydd cenedlaethol ac yn cynnwys darluniau o'r saith pechod marwol, yn ogystal ag hyfforddi gwirfoddolwyr i rannu ei threftadaeth gydag ymwelwyr.

Mae'r eglwys restredig Gradd 1 yn gartref i gasgliad unigryw o arteffactau a murluniau canoloesol sy'n rhan annatod o hanes Cristnogaeth gynnar yn ne Cymru.

Cafodd nifer o furluniau a gafodd eu gwyngalchu yn ystod teyrnasiad Edward VI, ac a fu'n guddiedig ers 1547, eu hailddarganfod yn ystod gwaith atgyweirio ar yr eglwys yn 2007. Un o'r darganfyddiadau mwyaf pwysig yw murlun 'San Siôr a'r Ddraig', a gredir i fod y darlun adnabyddus mwyaf yng Nghymru i bortreadu'r chwedl, ac o bosibl y mwyaf a'r gorau o ran cyflwr ym Mhrydain.

Bydd Cyngor Plwyf Eglwysig (CPE) Sant Cadog, sy'n cael ei arwain gan wirfoddolwyr, yn defnyddio'r arian i warchod y murluniau yn ogystal â'r canopau 'reredos' wedi'u cerfio o bren a'r sgriniau pren addurnedig wedi'u paentio.

Bydd y grant hefyd yn ariannu technoleg fodern fel arddangosiadau digidol a naratif mewn trefn gan ddefnyddio goleuadau LED, er mwyn adrodd stori hanes canoloesol yr eglwys mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol. Bydd rhaglen o gyfleoedd hyfforddi hefyd yn cael ei chynnig i wirfoddolwyr i roi iddynt y sgiliau sydd eu hangen i roi sgyrsiau a theithiau tywys i ymwelwyr.

Mae'r CPE hefyd yn bwriadu creu pecynnau a gweithgareddau addysgol i annog grwpiau ysgol i gymryd rhan yn y prosiect. Bydd lleoliad hefyd ar gael i fyfyrwyr prifysgol yn ymwneud â thechnegau cadwraeth arbenigol ar gyfer celfyddyd gain. Drwy gynnwys pobl leol wrth gasglu
gwybodaeth ac ymchwil am Eglwys Sant Cadog, y gobaith yw bydd y prosiect yn apelio at y gymuned ehangach.

Dan Clayton Jones a gyflwynodd y wobr i'r CPE fel rhan o'i ymddangosiad olaf cyhoeddus fel Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru. Meddai: "Mae treftadaeth ganoloesol Eglwys Sant Cadog yn hynod bwysig i hanes Cristnogaeth yng Nghymru ac mae'n hanfodol ei bod yn cael ei dehongli a'i chadw'n iawn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd y prosiect hwn yn helpu adrodd hanes diddorol yr adeilad hwn mewn ffordd a fydd yn apelio at bobl ifanc ac ymwelwyr fel ei gilydd, gan sicrhau bod y safle yn parhau i fod yn ganolbwynt ar gyfer y gymuned gyfan.

"Rwyf wrth fy modd mai'r prosiect hwn sy'n helpu dirwyn i ben fy amser gyda CDL, gan ei fod yn ymgorffori popeth rwy'n hoffi ei weld mewn prosiect. Mae'n galonogol gweld gwirfoddolwyr lleol mor angerddol wrth chwarae eu rhan yn datblygu ein treftadaeth ac wrth wneud hynny, yn  dysgu sgiliau newydd. Rwy'n edrych ymlaen at ddychwelyd i'r eglwys fel ymwelydd unwaith y bydd y prosiect yn gyflawn ac at weld y gwahaniaeth y mae'r cyllid wedi ei wneud."

Meddai'r Hybarch Peggy Jackson, Offeiriad Gofal Llancarfan: "Mae'r CPE yn freintiedig i fod yn gyfrifol am ofalu am y murluniau, a ymddangosodd mor sydyn fel trysorau yn ein plith, a hefyd y reredos, sydd eto i ddangos ei liwiau. Rydym yn ymwybodol iawn o'r cyfrifoldeb sydd gennym o ran cyflawni'r gwaith, ac o'r hyder mawr sydd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ynom o ran y grant hwn, ac rydym yn ddiolchgar iawn. Fel cymuned rydym yn gyffrous hefyd am yr hyn sydd eto i ddod, ac yn edrych ymlaen at ddysgu mwy, ac at rannu mwy gyda'r ymwelwyr niferus a fydd yn gwneud eu ffordd i Lancarfan yn y blynyddoedd i ddod."

*Dyfarnwyd grant cychwynnol o £24,600 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i ddatblygu'r cynigion ym Mawrth 2010. Mae'r cyhoeddiad hwn yn cadarnhau bod y grant llawn o £541,900 wedi ei sicrhau. Bydd y prosiect hefyd yn ategu gwaith atgyweirio brys a gwblhawyd yn yr eglwys trwy grant Atgyweirio Mannau Addoli yng Nghymru a ddyfarnwyd gan CDL yn ôl yn 2009.

Dan Clayton Jones, Cadeirydd CDL Cymru yn sefyll o flaen murlun San Sior a'r Ddraig yn Eglwys Sant Cadog, Llancarfan 
Dan Clayton Jones, Cadeirydd CDL Cymru yn sefyll o flaen murlun San Sior a'r Ddraig yn Eglwys Sant Cadog, Llancarfan

  • Hawlfraint © [] Cronfa Dreftadaeth y Loteri