Newyddion
Ffotograffau a thoriadau papurau newydd o'r Ail Ryfel Byd - rhan o brosiect Bournemouth in Wartime. Llun Paul Close/Insight

 Cynnal a Hybu ein Treftadaeth Eglwysig 

 22/03/2010 

Hwb o £1.2m ar gyfer prosiectau gwirfoddolwyr yng Nghymru trwy garedigrwydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri  

Mae tri phrosiect treftadaeth yng Nghymru, sy’n dibynnu’n helaeth ar gefnogaeth ac ymroddiad gwirfoddolwyr wedi cael cyfanswm o £1.2m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL).

Bydd y tri phrosiect, Cynnal a Hybu ein Treftadaeth Eglwysig,  adnewyddu Storfa’r Tollau yn Arberth,  a Phrosiect Teyrnas y Copr yn Amlwch  hefyd yn creu cyfleon gwerthfawr i bobl o bob oed i ddysgu am ein treftadaeth gyfoethog.  

Dywedodd Dan Clayton Jones, Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: “Mae’r tri phrosiect yma’n dibynnu’n helaeth ar ymroddiad gwirfoddolwyr sy’n gwneud cyfraniad anferth i gadw a dathlu ein treftadaeth yma yng Nghymru.  

“Mae gwirfoddoli yn un o sylfeini prosiectau CDL ac, yn ôl ymchwil, ar gyfartaledd mae yna 13 o wirfoddolwyr yn ymwneud â phob prosiect treftadaeth yng Nghymru. Bydd yr hwb ariannol yma o £1.2 miliwn yn darparu mwy o gyfleon i filoedd o wirfoddolwyr i gael hyfforddiant ychwanegol mewn sgiliau modern a thraddodiadol.  

“Dyw dysgu ddim yn gyfyngedig i ysgolion a phlant; mae’n ymwneud â chynnig gwahanol gyfleon i bawb i ddatblygu eu dealltwriaeth o dreftadaeth mewn modd sy’n addas ar gyfer eu hanghenion, diddordebau a chefndiroedd. Yn ogystal â chael effaith sylweddol ar dreftadaeth, bydd y grantiau yma’n cynnig anogaeth i bobl i lwyddo mewn bywyd, datblygu sgiliau newydd a chynyddu eu hyder a’u hunan-barch.” 

Mae grant o £113,000 wedi ei roi i’r Eglwys yng Nghymru ar gyfer “Cynnal a Hybu ein Treftadaeth Eglwysig”, prosiect a gynhelir gan yr Eglwys yng Nghymru a Cadw i wella a chefnogi cynnal a chadw a rheoli hirdymor mannau addoli hanesyddol ar hyd a lled Cymru.

Mae eglwysi a chapeli yn cael eu gwerthfawrogi gan amrywiaeth o wahanol bobl, nid yn unig y rhai sy’n mynychu gwasanaethau’n rheolaidd ond oherwydd hanes a phensaernïaeth yr adeiladau sy’n denu amcangyfrif o ddwy filiwn o ymwelwyr y flwyddyn yng Nghymru.
Bydd y prosiect tair blynedd yma’n datblygu gwybodaeth a sgiliau er mwyn helpu i ofalu am fannau addoli hanesyddol er mwyn sicrhau y gallwn ni a chenedlaethau’r dyfodol eu defnyddio a’u mwynhau. 
Bydd swyddog treftadaeth eglwysig arbennig yn cael ei benodi i reoli rhaglen o hyfforddi gwirfoddolwyr i ddysgu sgiliau newydd, cynnig arweiniad a datblygu gwybodaeth ar sut mae cadw a chynnal adeiladau hanesyddol. 


Rhys Jones yw un o’r gwirfoddolwyr sydd wedi cyfrannu rhan helaeth o’i amser hamdden i sicrhau dyfodol Eglwys Dewi Sant, yr yn eglwys “Eglwys yng Nghymru” yn Esgobaeth Llandaf sy’n cynnal ei gwasanaethau i gyd yn y Gymraeg. Dros y 10 mlynedd diwethaf yn ei rôl fel warden yr eglwys a rheolwr prosiect mae wedi gallu sicrhau cynnal a chadw’r Eglwys Gymraeg yng Nghilgant St Andrews yng nghanol Prifddinas Caerdydd. 

Dwedodd: “Rydyn ni wedi bod yn ffodus ein bod eisoes wedi cael budd o grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i’n helpu i ymgymryd â’r gwaith brys o ail-doi prif do’n heglwys a sicrhau ei ddyfodol. Fe aethon ni drwy gyfnod o ddysgu cyflym iawn i wneud i hyn ddigwydd. Bydd y prosiect hwn ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru o fudd aruthrol i mi a gwirfoddolwyr eraill ar hyd a lled Cymru wrth ddarparu hyfforddiant, cymorth a datblygiad sgiliau i wireddu prosiectau eraill yn y dyfodol trwy gyfrwng Cynllun CDL. 

“Trwy fy ngwaith fel gwirfoddolwr rydw i wedi gweithio’n agos gyda phenseiri a chontractwyr. Yn ystod y broses yma rydw i wedi dysgu am gadwraeth, wedi ehangu fy ngwybodaeth o hanes yr eglwys a datblygu fy sgiliau rheoli prosiect. Mae dod â phopeth at ei gilydd yn dipyn o her ond mae’n syndod beth allwch chi ei gyflawni. Ac yn ogystal â hyn rydyn ni’n gwybod bod y gwaith rydyn ni’n ei wneud nawr yn mynd i fod o fudd am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Alex Glanville, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru: “Mae cynifer ohonon ni’n cymryd ein heglwysi a’n capeli’n ganiataol ac yn anghofio eu bod yno oherwydd gofal a sylw’r gynulleidfa leol. Bydd y grant hwn yn ein galluogi i gefnogi’n gwirfoddolwyr yn eu gwaith o ofalu am dreftadaeth werthfawr mannau addoli yng Nghymru.” 

I dderbyn grant CDL rhaid i bob prosiect annog pobl i ddysgu am eu treftadaeth eu hun a phobl eraill, a bydd y tri phrosiect hyn yn cynnig amrywiaeth o gyfleon ffurfiol ac anffurfiol ar gyfer dysgu a hyfforddi, yn ogystal â mynediad i’n treftadaeth gyfoethog ac amrywiol.

O’r £200 miliwn mae CDL wedi ei roi yng Nghymru mae dros £86.3m wedi ei roi i brosiectau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr ac mae 98 y cant o’r grantiau a roddwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi creu cyfleon gwirfoddoli.

- DIWEDD -

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Kate Sullivan/Helen Newton yn Equinox ar 02920 764100 neu hlf@equinox-pr.co.uk

Nodyn i olygyddion

Proses 
• Mae’r arian llawn nawr wedi ei sicrhau oddi wrth GDL
• Mae’r prosiectau hyn eisoes wedi cael arian datblygu i’w helpu i gynllunio’u cynigion
• Efallai na fydd y prosiectau’n dechrau’n syth. Efallai y bydd angen i arianwyr eraill wneud penderfyniadau ac efallai y bydd angen rhagor o waith cynllunio. Mae CDL yn gobeithio y bydd y gymeradwyaeth gan ein Pwyllgor yn denu arianwyr eraill i gyfrannu.  
Ffeithiau gwirfoddoli/sgiliau/hyfforddi:
• Mae dros £86.3m wedi ei roi i dros 1,484 o brosiectau yng Nghymru sy’n cynnwys gwirfoddolwyr. Mae dros 98% o grantiau a roddwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi creu cyfleon i wirfoddoli. 
• Mae gwirfoddoli’n sylfaen i brosiectau CDL. Mae’n ymchwil yn dangos, ar gyfartaledd, bod 13 o wirfoddolwyr yn cymryd rhan ym mhob prosiect, gan roi bron 450 o oriau o amser gwirfoddoli i bob prosiect  – dyna gyfanswm o 667,800 o oriau gwirfoddoli ar draws Cymru!
• Mae CDL wedi rhoi £49.3m i 179 o brosiectau yng Nghymru sydd wedi cynnwys cyflwyno rhaglenni dysgu ar gyfer dysgwyr o bob oed.
• Mae dros 60 o brosiectau yng Nghymru wedi cynnig cyfle i gyfranogwyr i ddysgu sgiliau newydd megis gwaith gof, gwarchod tecstilau a phapur, sgiliau adeiladu traddodiadol ac adeiladu waliau cerrig sych.  
• Mae 64 o gyfleon hyfforddi wedi eu seilio yn y gwaith wedi cael eu creu yng Nghymru trwy ein rhaglen Bwrsari Hyfforddi sy’n amcanu i ddelio â phrinder sgiliau penodol yn y sector treftadaeth.