Newyddion
Ffotograffau a thoriadau papurau newydd o'r Ail Ryfel Byd - rhan o brosiect Bournemouth in Wartime. Llun Paul Close/Insight

 Y Fonhesig Jenny Abramsky'n ymweld â phrosiectau a ariennir gan CDL yng Nghaerdydd 

 07/12/2011 

Roedd y Fonesig Jenny Abramsky, Cadeirydd DU Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) yng Nghaerdydd heddiw i weld y gwahaniaeth cyllid CDL wedi ei wneud i bobl a lleoedd yn y ddinas. 

Ymwelodd hi â nifer o brosiectau a ariennir gan CDL, gan gynnwys Castell Caerdydd, Parc Bute a Chwrt Insole.  Cyfarfododd hi â phrentisiaid Parc Bute, Maggie Szczerbnska ac Anthony Davies, a ariennir drwy'r £3.1miliwn grant CDL tuag at adfer Parc Bute.

Dywedodd y Fonesig Jenny Abramsky: "Mae'n wych gweld bod y prentisiaid hynny’n cael eu hysbrydoli gan weithio o fewn y sector gerddi hanesyddol. Trwy eu hyfforddi, gallwn fod yn hyderus bydd y sgiliau yn eu lle i gynnal a chadw ein parciau unigryw i'r safon uchaf posibl ar gyfer bobl leol ac ymwelwyr i fwynhau yn awr ac yn y dyfodol.

"Yn ogystal â Pharc Bute, mae CDL yn buddsoddi mewn pobl drwy ei rhaglen Sgiliau ar gyfer y Dyfodol sydd yn cyfarparu pobl ag ystod eang o sgiliau ymarferol treftadol i helpu cynyddu cyflogadwyedd a diwallu anghenion y sector treftadaeth."

Mae'r Fonhesig Jenny Abramsky gyda phrentisiaid Parc Bute, Maggie Szczerbnska ac Anthony Davies 
Mae'r Fonhesig Jenny Abramsky gyda phrentisiaid Parc Bute, Maggie Szczerbnska ac Anthony Davies

  • Hawlfraint © [] Cronfa Dreftadaeth y Loteri