Newyddion
Ffotograffau a thoriadau papurau newydd o'r Ail Ryfel Byd - rhan o brosiect Bournemouth in Wartime. Llun Paul Close/Insight

 Y Barri yn ystod y Rhyfel 

 14/06/2012 

Cyhoeddwyd bod Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi dyfarnu grant o £8,100 er mwyn achub atgofion lleol o'r Ail Ryfel Byd. 

Bydd atgofion trigolion Bro Morgannwg o'r Ail Ryfel Byd yn cael eu recordio a'u cadw mewn digwyddiad lleol hynod yr haf hwn. Diolch i'r dyfarniad, bydd yr hanesydd lleol, Dr. Jonathan Hicks, a thîm o gyfwelwyr yn gallu cynnal cyfweliadau gyda thrigolion lleol yn ystod ‘Wartime Weekend’, ar Lannau'r Barri ac yng Ngorsaf Ynys y Barri ym mis Mehefin.  Bydd yn bosibl i grŵp hanes Barry at War brynu offer fideo a recordio digidol i gofnodi'r atgofion hyn o sut fywyd oedd gan drigolion lleol yn ystod y cyfnod rhwng 1939 a 1945.

Wrth roi sylwadau am y dyfarniad, dywedodd Dr Hicks, "Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cefnogi'r gwaith o gynnal ‘Wartime Weekend’ drwy dalu'r costau o gynnal y digwyddiad. Mae'r cyllid wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn golygu ein bod yn gallu mynd gam ymhellach. Gallwn ddod â mwy o gerbydau o'r Ail Ryfel Byd i'r digwyddiad, yn ogystal â mwy o actorion. Bydd hyn yn caniatáu i bobl leol weld sut oedd bywyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

"Trwy haelioni Cronfa Dreftadaeth y Loteri gallwn hefyd adael cofnod o'r digwyddiad a fydd yn para i genedlaethau’r dyfodol drwy recordio cyfweliadau gyda phobl a oedd yn byw yn ystod y rhyfel. Rydyn ni eisiau darganfod sut fywyd oedd ganddynt o ddydd i ddydd, beth yw eu hatgofion o'r Almaenwyr yn bomio a sut wnaethon nhw ymdopi â chyrhaeddiad miloedd o filwyr o America cyn D-Day.

"Bydd yr atgofion hyn yn cael eu cofnodi ar ôl ‘Wartime Weekend’ ac yn cael eu rhannu â'r gymuned leol trwy gael eu harddangos mewn adeilad lleol yn ystod yr haf. Byddem wrth ein bodd i gael cyfle i siarad â phobl yn ystod y dydd Sadwrn a'r dydd Sul ac rydyn ni wedi clustnodi ystafell arbennig yng Ngorsaf Ynys y Barri er mwyn cynnal y cyfweliadau."

Wrth wneud sylwadau ar y dyfarniad, dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru, "Bydd y prosiect hwn yn rhoi ymdeimlad o fywyd yn y borthdref hon yn ystod yr Ail Ryfel Byd i drigolion ac ymwelwyr y Barri.  Bydd y cyfweliadau hanes hefyd yn darparu adnodd pwysig ar gyfer cenedlaethau'r presennol a chenedlaethau'r dyfodol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o fywyd trigolion yn ystod y cyfnodau pwysig hynny."

Cynhelir ‘Wartime Weekend ’ ddydd Sadwrn 16 a dydd Sul 17 Mehefin yn Heol Hood a Gorsaf Ynys y Barri. Bydd ar agor am 10 y bore ar y ddau ddiwrnod. Ewch i wefan os ydych yn dymuno trefnu amser ar gyfer cyfweliad.

Gwybodaeth bellach
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Dr. Jonathan Hicks, Swyddog Cyllid ac Addysg ar gyfer ‘Wartime Weekend’ ar 07708 255 295
"Actorion" mewn digwyddiad blaenorol 
"Actorion" mewn digwyddiad blaenorol